Mae Alastair Smith wedi treulio bron i ugain mlynedd yn addysgu ac ymchwilio i ddatblygu cynaliadwy, gan edrych ar draws disgyblaethau. Ar ôl cwblhau doethuriaeth ar lywodraethu Masnach Deg, arhosodd ym Mhrifysgol Caerdydd i weithio ar brosiectau a ariannwyd gan yr Adran Datblygu Rhyngwladol a Llywodraeth Cymru. Yn ystod y cyfnod hwn, treuliodd amser yn ardaloedd tyfu coca Colombia a datblygodd gyfleoedd dysgu maes yng nghoedwigoedd trofannol Panama ac Ynysoedd Turks a Caicos.
Hyd at 2024, roedd yn Athro Cyswllt mewn Datblygu Cynaliadwy Byd-eang ym Mhrifysgol Warwick, lle daeth yn adnabyddus am ei waith ym maes addysg feirniadol ac am helpu eraill i arwain newid. Mae Alastair bob amser wedi ceisio rhoi ei syniadau ar waith, gan gynnwys drwy wirfoddoli a gwasanaethu fel cynrychiolydd undeb llafur etholedig.
Bellach mae’n gweithio fel ysgolhaig ac ymgynghorydd annibynnol, ac mae’n un o gyfarwyddwyr sefydlu’r Community for Alternative Thought, Learning and Action, sydd wedi’i leoli yn Sir Gaerfyrddin. Mae wedi eirioli dros gydnabod ac ymateb i’rArgyfwng Hinsawdd a Natur byd-eang ers blynyddoedd Ymunodd Alastair â’r bwrdd yn 2026 i gefnogi gwaith cynyddol bwysig Maint Cymru.