Mae Wanjiku yn arweinydd profiadol yn y sector gwirfoddol, gyda dros 20 mlynedd o brofiad mewn uwch reolaeth a chefndir cadarn o arweinyddiaeth strategol, gweithio mewn partneriaeth, eiriolaeth, datblygu gwasanaethau a sicrhau cynaliadwyedd sefydliadau yng Nghymru. Ganwyd Wanjiku yn Kenya yn ferch i ffermwr coffi, ac mae bellach yn byw yn Wrecsam gyda’i theulu, gan barhau i gyfrannu at fentrau datblygu yn Kenya. Mae ganddi radd Meistr mewn Datblygu Cymunedol ac mae’n frwd dros gydraddoldeb, cyfiawnder cymdeithasol, grymuso cymunedau a chreu newid cadarnhaol parhaol. Wrth wraidd ei gwaith mae cydweithio ag eraill, sicrhau bod pawb yn cael eu cynnwys, a helpu cymunedau yng Nghymru, Kenya a thu hwnt i fod yn gryfach ac yn fwy cydnerth.
Ymunwch â'r gymuned
Eisiau clywed am ein prosiectau, ymgyrchoedd a digwyddiadau diweddaraf trwy ebost?