Mae Ellen yn Uwch Reolwr Cyfathrebu yn Proforest, mudiad byd-eang sy’n gweithio i greu cadwyni cyflenwi amaethyddol a choedwigaeth cydnerth, a thirweddau cynhyrchu ffyniannus i sicrhau canlyniadau cadarnhaol i bobl, natur a’r hinsawdd. Mae’n canolbwyntio’n benodol ar waith cydweithredol Proforest, sy’n cynnwys gwaith ar lefel tirwedd ac ymgysylltu â sectorau, yn ogystal â gwaith gyda’r sector cyllid a maes polisi.
Ymunodd Ellen â Proforest yn 2018, ar ôl gweithio i Global Canopy, mudiad amgylcheddol sy’n canolbwyntio ar ymgysylltu â’r sector cyllid.
Mae ganddi bron i 30 mlynedd o brofiad ym meysydd marchnata, cysylltiadau cyhoeddus a gweithrediadau, ac mae wedi elwa ar amryw o brofiadau gwirfoddoli yn Ffrainc, America a Rwsia. Mae Ellen yn siarad Saesneg a Ffrangeg ac yn dysgu Portiwgaleg, ac mae ganddi radd mewn Ffrangeg a Hanes o Brifysgol Rhydychen.