Mae Hannah wedi bod yn gweithio yn y sector rhyngwladol a gwirfoddol yng Nghymru dros y deng mlynedd diwethaf, yn cefnogi elusennau i reoli risg, tyfu a chadw i fyny â mentrau arfer gorau. Mae hi’n frwdfrydig am fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd, ac mae hi’n rhedeg cwmni adnewyddadwy domestig yn Abertawe gyda’i gŵr hefyd. Ar ôl cwblhau gradd Meistr mewn rheoli a datblygu polisi cymdeithasol, gweithiodd Hannah i gefnogi datblygu Deddf Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol (Cymru), gan dynnu sylw’n benodol at effaith cadwyni cyflenwi byd-eang ym maes caffael cyhoeddus.
Ymunwch â'r gymuned
Eisiau clywed am ein prosiectau, ymgyrchoedd a digwyddiadau diweddaraf trwy ebost?