Mae Clive Thomas wedi treulio 30 mlynedd yn rheoli coedwigoedd ac yn dylanwadu ar bolisïau coedwigoedd yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol. Bellach, mae’n gweithio i Soil Association, ac yn rhannu ei amser fel Uwch Gynghorydd Polisi (coedwigaeth a defnydd tir rhyngwladol) ac fel Rheolwr Rhaglen Hyfforddi Coedwigaeth. Mae wedi datblygu rhaglenni hyfforddi arloesol sy’n canolbwyntio ar feithrin y gallu i reoli coedwigoedd yn gyfrifol, mewn rhai o’r gwledydd coedwig mwyaf heriol yn y byd. Trwy ei waith polisi, mae Clive yn benderfynol o helpu i leihau olion traed negyddol y DU sy’n gysylltiedig â bwydydd a choedwigoedd.
Tra’n gweithio i Gomisiwn Coedwigaeth Cymru ac Adnoddau Naturiol Cymru, cafodd Clive y cyfle i helpu i hyrwyddo gwaith Maint Cymru i gydweithiwr a rhanddeiliad.