Mae Maint Cymru’n sefyll mewn undod â’n partner, Cenedl y Wampís yng ngogledd Periw, yn dilyn ymosodiad treisgar sy’n tanlinellu’r bygythiadau dybryd sy’n wynebu Pobloedd Brodorol ledled y byd.
Ar 12 Gorffennaf 2025, cafodd patrol o 60 o warchodwyr cymunedol Wampís, sy’n rhan o grŵp tiriogaethol Charip, eu hamgylchynu tra’n monitro mwyngloddio anghyfreithlon ger Fortaleza ar hyd Afon Santiago. Roeddynt wedi bwriadu trefnu ymateb heddychlon ar hyd yr afon i geisio atal y mwyngloddio anghyfreithlon sy’n tanseilio cydbwysedd Mam y Ddaear. Defnyddiodd yr ymosodwyr arfog ffrwydron a thanio’n erbyn y genhadaeth Wampís. Yn ffodus, ni chafodd neb ei anafu, er i’w cwch gael ei ddifrodi ac i siaced athro gael ei tharo gan fwled. Daeth y genhadaeth hon ar ôl i Lywodraeth Periw dynnu’n sydyn o weithred orfodi ar y cyd a oedd wedi’i chynllunio, gan adael y Wampís heb y gefnogaeth angenrheidiol.
Mae’r Wampís wedi adrodd cynnydd dramatig mewn mwyngloddio anghyfreithlon yn y rhanbarth, gyda dros 30 o beiriannau cloddio’n gweithredu heb unrhyw ymyrraeth.
“Ni, y bobloedd brodorol, sydd â’r ddyletswydd hanesyddol o ofalu am ein tiriogaeth a’i hamddiffyn rhag dinistr. Mae mwyngloddio’n cael effaith andwyol ar gymdeithas, gan gynnwys trais rhywiol yn erbyn menywod, afiechydon, gwrthdaro cymdeithasol rhwng teuluoedd a chymunedau, a gadael teuluoedd. Ni allwn barhau i ganiatáu’r gweithredoedd hyn a’r dinistr parhaol i’n tiriogaethau a’n bioamrywiaeth. Mae Cenedl y Wampís yn rhan o Wladwriaeth Periw; rydym wedi datgan ein hunain yn Llywodraeth Cenedl Annibynol er mwyn gwarantu parhad y system ddiwylliannol o warchod a chadw ein tiriogaethau, sydd yn etifeddiaeth filflwydd. Ni fyddwn yn sefyll yn segur tra bod ein hafonydd yn cael eu gwenwyno a’n coedwigoedd yn cael eu dinistrio. Fe wnaeth Llywodraeth Periw ymrwymiadau nad yw bellach yn eu parchu, felly rydym yn gweithredu i amddiffyn ein tiriogaeth a dyfodol ein pobl. Dyma ein dyletswydd fel Wampís, dan arweiniad Tarimat Pujut – ein gweledigaeth o fywyd mewn cytgord â natur.”
– Galois Flores Pizango, Pamuk Ayatke (Is-Lywydd Cenedl y Wampís)
Mae Maint Cymru yn galw ar:
- Llywodraeth y DU i godi’r mater brys hwn gyda’i chymheiriaid ym Mheriw, gan eirioli dros ddiogelu Cenedl y Wampís;
- Llywodraeth Periw i adfer ac i warantu’r gweithrediadau gorfodi ar y cyd a gynlluniwyd gyda Llywodraeth Tiriogaethol Ymreolaethol y Wampís;
- Y gymuned ryngwladol i gefnogi llywodraethiant a diogelu coedwigoedd dan arweiniad pobloedd brodorol, gan gydnabod eu rôl hanfodol mewn cyfiawnder hinsawdd a chadwraeth bioamrywiaeth.
Ymwelodd dirprwyaeth o Genedl y Wampís â Chymru ym mis Tachwedd 2024, gan gyfarfod â’r Prif Weinidog, y Dirprwy Brif Weinidog a’r Aelodau o’r Senedd. Yn ystod eu hymweliad, teithion nhw ledled Cymru i gwrdd â chymunedau ac i rannu eu neges gyda phobl ifanc yn YouthCOP 2024.
“Os ydym o ddifrif am ddiogelu coedwigoedd glaw, rhaid i ni sefyll ochr yn ochr â’r bobl sy’n byw ynddynt ac sy’n mentro eu bywydau i’w hamddiffyn,”
– Barbara Davies-Quy, Dirprwy Gyfarwyddwr Maint Cymru