Ymunwch â ni am ddigwyddiad rhannu gwybodaeth a holi ac ateb ar Gaffael Dim Datgoedwigo.
Mae’r digwyddiad hwn wedi gorffen, ond gallwch ei wylio isod.
Dewch i glywed gan lunwyr polisi rhyngwladol sy’n arwain y ffordd ar Gaffael Cyhoeddus Dim Datgoedwigo, a dysgwch sut mae cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn gallu defnyddio eu pŵer prynu i fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur ac amddiffyn cymunedau brodorol, trwy fesurau fel:
- Cyrchu cynaliadwy a moesol
- Gostwng ein defnydd o nwyddau sy’n cyfrannu i ddatgoedwigo tramor, fel soi (sy’n cael ei ddefnyddio mewn bwyd anifeiliaid yn y DU), olew palmwydd, cig eidion a phren.
- Economi gylchol; ac
- Amrywiaethu ffynonellau protein
Mae’r siaradwyr yn cynnwys:
- Jane Davidson, cyn-weinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai ac awdures #futuregen: Lessons from a Small Country fydd yn cadeirio’r achlysur.
- Aelod Cynulliad Ash Kalra o’r Cynulliad Talaith California, sy’n awdur y Ddeddf Caffael Cyhoeddus Dim Datgoedwigo California.
- Diane Simiu, Dirprwy Gomisiynydd Cyffredinol ar gyfer Datblygu Cynaliadwy, Gweinyddiaeth Pontio Ecolegol, sy’n gweithio ar Strategaeth Dim Datgoedwigo Ffrainc.
- Dr Jane Lynch, Darllenydd mewn Caffael yn Ysgol Fusnes Caerdydd.
Byddwn yn lansio ein Pecyn Cymorth Caffael Cyhoeddus Dim Datgoedwigo hefyd, sy’n cefnogi cyrff cyhoeddus i ostwng eu hôl-troed coedwig drofannol i helpu Cymru i ddod yn genedl iachach, gydnerth a chyfrifol ar lefel fyd-eang.
Mae’r digwyddiad yn addas ar gyfer:
- Gweithwyr sector cyhoeddus, yn arbennig arweinyddion llunwyr polisi, strategaeth, ymarferwyr cynaliadwyedd ac ymarferwyr caffael cyhoeddus, e.e. prynwyr a rheolwyr perthnasoedd, ond hefyd unrhyw weithiwr sy’n prynu nwyddau bwyd neu nwyddau eraill sy’n peri risg i goedwigoedd fel rhan o’u rôl.