Mae strategaeth newydd Maint Cymru yn gosod gweledigaeth ar gyfer Cymru ddi-ddatgoedwigo
Heddiw cyhoeddwn ein Cynllun Strategol (2026–2030) yn amlinellu sut y gall Cymru arwain ar gyfrifoldeb byd-eang; drwy ddiogelu ac adfer coedwigoedd trofannol, trawsnewid cadwyni cyflenwi, a grymuso pobl ifanc.
Wrth i’r argyfwng hinsawdd a natur gyflymu, mae’r cynllun hwn yn alwad glir i weithredu, gan ddangos sut y gall penderfyniadau a wneir yng Nghymru gael effaith fyd-eang.
👉 Darllenwch y strategaeth yma: https://sizeofwales.org.uk/wp-content/uploads/2026/03/Strategic-Plan-2026-2030.pdf