Dewch i Ymuno â Digwyddiad COP Ieuenctid Cyntaf Cymru (Cynhadledd y Partïon). Newid hinsawdd yw’r mater fwyaf pwysig y mae’r byd yn ei wynebu heddiw. Mae gan bobl ifanc yr hawl i ddweud eu dweud a bod yn rhan o’r ateb. Mae digwyddiad COP ieuenctid cyntaf erioed Cymru yn bwriadu rhoi’r cyfle hwnnw iddynt. Gwnewch gais nawr i gymryd rhan!
Mae digwyddiad COP ieuenctid Cymru wedi’i fodelu ar Gynhadledd y Pleidiau’r Cenhedloedd Unedig (COP). Am bron i dri degawd, mae’r Cenhedloedd Unedig (CU) wedi bod yn dod â bron pob gwlad yn y byd at ei gilydd ar gyfer yr uwchgynadleddau hinsawdd fyd-eang hyn. Bydd ein COP ieuenctid yng Nghymru yn cynnig y cyfle i bobl ifanc o bob rhan o Gymru ddod i gwrdd â gweinidogion Llywodraeth Cymru, dweud eu dweud a dysgu mwy am yr atebion i newid hinsawdd.
Wedi’i drefnu gan Faint Cymru, elusen Gymreig sy’n canolbwyntio ar hinsawdd a choedwigoedd trofannol, a phartneriaid eraill ac wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru, mae’r digwyddiad deuddydd hwn yn cynnig cyfle i bobl ifanc brofi digwyddiad newid hinsawdd ar raddfa fawr.
Pwrpas y digwyddiad
Rydym yn gobeithio bydd y digwyddiad yn sicrhau’r canlynol:
- Addysgu pobl ifanc am sut mae newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar bobl o gwmpas y byd.
- Cynnig cyfleoedd i bobl ifanc amlygu eu lleisiau a siarad gyda gweinidogion Cymru am eu pryderon.
- Cynnig cyfleoedd i bobl ifanc ddylanwadu ar Strategaeth Llywodraeth Cymru i newid ymddygiad y cyhoedd yng Nghymru ynglŷn â’r argyfwng hinsawdd.
- Darparu cyfleoedd i rwydweithio gyda grwpiau a sefydliadau ledled Cymru sydd yn gweithio ar newid hinsawdd a sut y gallant gymryd rhan a gweithredu i leihau eu hallyriadau ac ysbrydoli eraill i greu newid.
- Rhoi gobaith i’r rhai sy’n mynychu fod camau’n cael eu cymryd ar newid hinsawdd
Ar gyfer ysgolion
Mae hwn yn gyfle wedi’i ariannu’n llawn ar gyfer hyd at bump o bobl ifanc o’ch ysgol.
Yn cael ei gynnal ar yr 8fed a 10fed o Dachwedd, bydd COP ieuenctid cyntaf Cymru erioed yn cynnig cyfle i bobl ifanc yng Nghymru gael sgwrs ystyrlon am newid hinsawdd a chynlluniau Llywodraeth Cymru.
Mae dau gyfle ar gael i’ch pobl ifanc gymryd rhan:
- Parth Glas
Dyddiad: 09.30-11.00 y b, 8fed o Dachwedd 2022
Lleoliad: Adeilad y Pierhead, Maritime Road, Caerdydd, CF10 4PZ
Pwnc: Dadl y Gweinidogion – Beth mae Cymru wedi’i gyflawni ers COP26? Yn cynnwys Julie James – Y Gweinidog dros Newid Hinsawdd a Delyth Jewell Gweinidog yr Wrthblaid dros Newid yn yr Hinsawdd.Gall pob Ysgol dod a tri phlentyn ac un athro i fynychu, ar gyfer Blynyddoedd 5 ac uwch. Mae yna hefyd gyfleoedd i gysylltu ar-lein os na allwch fynychu yn bersonol. - Parth Gwyrdd
Dyddiad: Slotiau bore a phrynhawn – 10fed o Dachwedd 2022
Lleoliad: Y Deml Heddwch, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3AP
Pwnc Digwyddiad rhyngweithiol dwyieithog gyda stondinau, digwyddiadau ochr a sgyrsiau, perfformiadau a
mwy. Gan gynnwys cyfle i bobl ifanc ddylanwadu ar Strategaeth Newid Ymddygiad Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru, cwrdd â thîm Tyfu Coed Mbale o Uganda, dysgu am yr atebion i newid hinsawdd gan amrywiaeth o elusennau a chymaint mwy.Gall pob ysgol ddod â phump o blant ynghyd ag un athro, ar gyfer Blwyddyn 5 ac i fyny.
Fel rhan o alluogi presenoldeb mae Maint Cymru wedi sicrhau cyllid i dalu am eich costau ysgol, megis teithio, costau i gael athrawon cyflenwi, llety a mwy.
Os ydych yn berson ifanc nad ydych yn yr ysgol, gallwch barhau i fynychu digwyddiad y Parth Gwyrdd ar 10fed Tachwedd trwy gofrestru yma.
Sut i gofrestru
Gan fod hwn yn gyfle wedi’i ariannu’n llawn rydym yn gofyn i ysgolion wneud cais trwy lenwi’r ffurflen hon. Yna byddwn yn dewis ysgolion ar sail eu hatebion i gwestiynau. Bydd ysgolion yn cael eu dewis ar sail meini prawf ar draws eu hatebion.
Wrth wneud cais i fynychu, amlinellwch amcangyfrif o gost eich presenoldeb ac os ydych yn bwriadu hawlio hwn yn ôl. Bydd arian yn cael ei ddyrannu i dalu cymaint o gostau â phosibl.