
Mae Llysgenhadon Hinsawdd Ieuengtid Cymru (LHC) yn grŵp o bobl ifanc o bob cwr o Gymru sy’n Ymgyrchwyr brwd dros yr Hinsawdd sy’n brwydro i sicrhau Cyfiawnder Hinsawdd.
Fe’u cefnogir gan Maint Cymru a Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA), ac fe’u hariennir gan Scottish Power Foundation, gyda’r nodau a’r camau gweithredu dan arweiniad Llysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid Cymru.
Maent yn dymuno cyflawni’r canlynol:
I gysylltu â Llysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid Cymru, e-bostiwch:[email protected]
Dilynwch eu gweithgaredd at Trydar: @YCAWales
Enw: Poppy
Oedran: 16
O: Gasnewydd
Ffaith: Pan fyddaf i’n hŷn, rwy’n gobeithio dod yn Gyfreithwraig Hawliau Dynol a helpu pobl trwy gydweithio ag elusennau ar y lefel ryngwladol.
Pam wnaethoch chi ymuno â’r rhwydwaith?: Ymunais â’r rhwydwaith oherwydd mae’n eithaf posibl yn fy marn i mai’r Newid yn yr Hinsawdd yw problem fwyaf a phennaf ein hoes. Fodd bynnag, ar waethaf hyn, rwy’n credu fod y mater hwn yn cael llawer llai o sylw na’r hyn sy’n haeddiannol gan Arweinwyr y Byd, ac o ganlyniad i hyn, ni fydd yn cael ei ystyried yn aml. Felly, roeddwn i’n dymuno bod yn rhan o sefydliad ble gallaf i, fel person ifanc, gynorthwyo â’r frwydr i sicrhau ‘Cyfiawnder Hinsawdd’, a sicrhau y caiff fy llais ei barchu, ac y caiff ei helaethu mewn perthynas â sicrhau newidiadau go iawn. Rwy’n ddiolchgar iawn fod rhwydwaith LHC yn darparu’r cyfle hwn.
Beth yw’r 3 phrif nod yr ydych chi’n gobeithio y bydd y rhwydwaith yn eu cyflawni?: Rwy’n gobeithio y gwnaiff y rhwydwaith gyrraedd at ystod eang o gymunedau, y gwnaiff sicrhau fod pobl yn gwybod y gall Gweithredu dros yr Hinsawdd fod yn rhywbeth hygyrch, ac y gall pawb sicrhau effaith. Rwy’n gobeithio hefyd y gwnaiff barhau i ysbrydoli pobl ifanc i weithredu.
Pam ydych chi’n teimlo’n angerddol ynghylch y Newid yn yr Hinsawdd?: Rwy’n teimlo’n hynod o angerddol ynghylch y Newid yn yr Hinsawdd oherwydd rwy’n credu ei fod yn fater a wnaiff effeithio ar bawb ohonom ni maes o law, ym mhob rhan o’n bywyd. Yn ychwanegol, mae’r Newid yn yr Hinsawdd yn fater a wnaiff barhau i effeithio ar genedlaethau’r dyfodol, ac felly, bydd yn rhaid iddynt wynebu canlyniadau ein hymddygiad anystyriol presennol. Rwy’n credu fod hynny’n deillio o anwybodaeth, yn anffodus, ond nawr, mae gennym ni gyfle i leihau ei effeithiau a gweithredu, ac mae hynny’n cynnig rhywfaint o obaith i mi ynghylch y dyfodol, oherwydd rwy’n gobeithio y gwnaiff eraill sylweddoli fod y mater hwn yn llawer mwy na dim ond newid yn y tywydd, ond gallwn ni oll sicrhau effaith.
Enw: Ellie
Oedran: 16
O: Abertawe
Ffaith: Rwy’n astudio am gymwysterau Safon Uwch mewn Almaeneg, Hanes a Chymdeithaseg.
Pam wnaethoch chi ymuno â’r rhwydwaith ?: Ymunais â’r rhwydwaith er mwyn ehangu fy ngwybodaeth am y Newid yn yr Hinsawdd; roeddwn i’n dymuno gwybod beth y gallaf i ei wneud i helpu i fynd i’r afael â hynny a sut i addysgu eraill a dylanwadu ar eu safbwyntiau a’u gweithredoedd mewn perthynas â hynny. Rwy’n credu fod angen i bobl ifanc godi ymwybyddiaeth a brwydro’r Newid yn yr Hinsawdd, ac roeddwn i’n credu y byddai ymuno â’r rhwydwaith yn cynnig cyfle i fod yn rhan o’r un grŵp â phobl ifanc o’r un anian, ac y gallem ni wneud gwahaniaeth gyda’n gilydd. Fe wnaeth dod yn Llysgennad Ifanc yr Hinsawdd wneud i mi deimlo fy mod i’n rhan o dîm o bobl a oedd oll yn rhannu’r un nod, ac mae’r rhwydwaith wedi’n galluogi ni i wneud hyn oherwydd mae wedi cynnig llwyfan i ni sydd wedi golygu y gallwn ni roi ein cynlluniau ar waith a chyflawni pethau mawr.
Beth yw’r 3 phrif nod yr ydych chi’n gobeithio y bydd y rhwydwaith yn eu cyflawni?: Rwy’n gobeithio y gwnaiff y rhwydwaith gyflawni llawer o bethau. Rwy’n credu mai un o’r pethau pwysicaf a mwyaf effeithiol y gall y rhwydwaith ei wneud yw codi ymwybyddiaeth o’r materion sy’n gysylltiedig â’r Newid yn yr Hinsawdd a beth all pobl – beth bynnag fo’u hoedran – wneud i helpu. Gobeithio y gwnaiff y rhwydwaith ysgogi diddordeb ymhlith llawer o bobl ifanc, ac y gallai hynny arwain at weithredu torfol. Rwy’n gobeithio y gallwn ni gydweithio â Maint Cymru i sicrhau y daw Cymru yn Wlad heb Unrhyw Ddatgoedwigo a chydweithio â Llywodraeth Cymru i gyflawni ei tharged net lle bydd allyriadau yn gostwng i sero erbyn 2025.
Pam ydych chi’n teimlo’n angerddol ynghylch y Newid yn yr Hinsawdd?: Yn syml, rwy’n credu fod y Newid yn yr Hinsawdd yn broblem sydd ddim yn cael y sylw haeddiannol, ac yn fy marn i, os gwnaiff pawb gydweithio, gallwn ni wneud gwahaniaeth cadarnhaol er lles dyfodol pawb ohonom ni a dyfodol ein planed.
Enw: Caitlyn
Oedran: 17
O: Abertawe
Ffaith: Rwy’n frwdfrydig iawn ynghylch Drama a Chelfyddydau Perfformio, ac rwyf i wedi dewis astudio Drama a Saesneg fel pynciau Safon Uwch.
Pam wnaethoch chi ymuno â’r rhwydwaith?: Yr wyf i wedi ymuno â’r rhwydwaith oherwydd rwyf i’n wastad wedi ymdrechu’n galed iawn i annog fy Ysgol Gyfun i gyfranogi mewn gweithgareddau i ddod yn fwy ecogyfeillgar. Rwyf i’n wastad wedi ceisio hyrwyddo ailddefnyddio eitemau yn hytrach na’u gwaredu, yn enwedig eitemau plastig, yn gymaint felly nes i mi a llysgennad arall sefydlu Eco-bwyllgor yr ysgol yn ogystal â Phwyllgor Lleihau’r Defnydd o Blastig yn yr ysgol. Trwy gyfrwng y pwyllgorau hyn, fe wnaethom ni gyfranogi mewn nifer o ymweliadau oedd yn ymwneud â chreu planed iachach. Fe wnaethom ni hefyd arwain Arolwg Ecosgolion ein hysgol. Mae fy nghyfnither yn Amgylcheddwraig, a dyna’n wreiddiol wnaeth ennyn fy niddordeb yng nghyflwr ein hamgylchedd . Fe wnaeth sylweddoli sut caiff plastig ei wastraffu a’r diffyg gofal priodol i’n planed wneud i mi ddymuno codi ymwybyddiaeth a gwireddu newid.
Beth yw’r 3 phrif nod yr ydych chi’n gobeithio y bydd y rhwydwaith yn eu cyflawni?: Rwy’n gobeithio y gwnaiff y rhwydwaith godi ymwybyddiaeth o faterion yn ymwneud â’r Newid yn yr Hinsawdd a helpu i leihau/gwahardd y defnydd o blastigau untro mewn ysgolion a busnesau lleol ledled Cymru. Rwy’n gobeithio hefyd y gallwn ni godi ymwybyddiaeth o nwyddau bioddiraddadwy fel dewisiadau addas yn lle eitemau untro, addysgu plant a theuluoedd ledled Cymru am bwysigrwydd ailgylchu a’r materion sy’n gysylltiedig â datgoedwigo ledled y Byd, a helpu Llywodraeth Cymru i sicrhau lleihad o 50% o leiaf yn allyriadau carbon Cymru erbyn 2025.
Pam ydych chi’n teimlo’n angerddol ynghylch y Newid yn yr Hinsawdd?: Mae fy nghyfnither yn Amgylcheddwraig, ac ers pan oeddwn i’n ifanc, mae hi wedi trafod ei swydd gyda fi. Pan oeddwn i tua 11 mlwydd oed, cychwynnais ymddiddori mwy yn yr hyn y byddai hi’n ei ddweud a’r hyn yr oedd hi’n ceisio codi ymwybyddiaeth yn ei gylch, a defnyddiais y wybodaeth yn yr ysgol oherwydd gallwn i weld enghreifftiau o ddisgyblion oedd heb ymwybyddiaeth o’r angen i fod yn fwy ystyriol o’r amgylchedd.
Enw: Maham
Oedran: 16
O: Gasnewydd
Ffaith: Rwy’n ddwyieithog oherwydd gallaf i siarad Wrdw a Saesneg yn rhugl.
Pam wnaethoch chi ymuno â’r rhwydwaith?: Rwyf i wedi ymuno â’r rhwydwaith oherwydd mae’n gyfrwng sy’n cael ei arwain gan ieuenctid a’i nod yw diogelu natur a gwella ein hinsawdd a’n dyfodol.
Beth yw’r 3 phrif nod yr ydych chi’n gobeithio y bydd y rhwydwaith yn eu cyflawni?: Rwy’n gobeithio y gwnaiff y rhwydwaith ennyn diddordeb rhagor o bobl ifanc ledled Cymru i ymuno â ni a chreu effaith yng Nghymru ac y gallwn ni helpu Llywodraeth Cymru i gyflawni ei tharged net lle bydd allyriadau yn gostwng i sero erbyn 2025. Rwy’n gobeithio hefyd y gwnaiff y rhwydwaith helpu pawb i leihau eu defnydd beunyddiol o blastigau untro, er enghraifft, cael gwared ar ddeunydd pacio ffrwythau/llysiau, ac o bosibl, helpu i wahardd y defnydd o’r deunydd hwn a chyflwyno dewis arall yn ei le.
Pam ydych chi’n teimlo’n angerddol ynghylch y Newid yn yr Hinsawdd?: Mae’r Newid yn yr Hinsawdd yn broblem sydd wedi cael ei anwybyddu’n rhy hir o lawer, ac mae’n effeithio’n uniongyrchol ar ein dyfodol, sy’n golygu fy mod i’n teimlo’n angerddol ynghylch y pwnc ac yn awyddus i wireddu newid.
Enw: Matouš (Matt)
Oedran: 16
O: Fro Morgannwg
Ffaith: Economeg yw fy hoff bwnc.
Pam wnaethoch chi ymuno â’r rhwydwaith?: Ymunais â’r rhwydwaith oherwydd roeddwn i’n ystyried ei fod yn gyfle gwych i ddatblygu fel unigolyn a datblygu sgiliau defnyddiol newydd, ac oherwydd y gallwn i ar yr un pryd gyfrannu’n gadarnhaol at y gymdeithas ehangach trwy godi ymwybyddiaeth o’r mater hwn sydd wedi cael ei anwybyddu i raddau helaeth ers blynyddoedd.
Beth yw’r 3 phrif nod yr ydych chi’n gobeithio y bydd y rhwydwaith yn eu cyflawni?: Yn anad dim, rwy’n gobeithio y gallwn ni lwyddo i argyhoeddi neu berswadio Llywodraeth Cymru i sefydlu mesurau a chamau gweithredu ychwanegol i frwydro’r Newid yn yr Hinsawdd. Fodd bynnag, rwyf i hefyd yn gobeithio y gallwn ni gyflawni ein prif amcan arall, sef dylanwadu ar fusnesau i ddod yn garbon niwtral. Yn olaf, buaswn i’n hapus iawn hefyd pe gallai ein rhwydwaith lwyddo i annog ysgolion i leihau eu cymeriant o gig a’u gwastraff bwyd.
Pam ydych chi’n teimlo’n angerddol ynghylch y Newid yn yr Hinsawdd?:
Rwy’n teimlo’n angerddol ynghylch y Newid yn yr Hinsawdd oherwydd rydym ni eisoes wedi gweld effeithiau dinistriol y Newid yn yr Hinsawdd mewn mannau megis Kirkibati neu Fflorida, ac rydym ni’n dal i weld cyflwr ein planed yn gwaethygu. Felly, mewn ffordd, rwyf i hefyd yn ystyried fod atal yr argyfwng hwn rhag gwaethygu rhagor yn gyfrifoldeb i mi.
Enw: Shenona
Oedran: 17
O: Fangor
Ffaith: Rwy’n cael gwersi canu ers pan oeddwn i’n 4 mlwydd oed.
Pam wnaethoch chi ymuno â’r rhwydwaith?: Ymunais â’r rhwydwaith i gael cyfle i gwrdd â phobl o’r un anian sydd yr un oedran â fi a gwneud defnydd o fy nheimladau angerddol dros yr amgylchedd. Roeddwn i’n gwybod y byddai ymuno â’r grŵp hwn yn brofiad unwaith mewn oes.
Beth yw’r 3 phrif nod yr ydych chi’n gobeithio y bydd y rhwydwaith yn eu cyflawni?: Rwy’n gobeithio y gwnaiff y rhwydwaith wella ymwybyddiaeth o’r pethau syml y gellir eu gwneud i helpu i frwydro’r Newid yn yr Hinsawdd ac y gallwn ni sicrhau fod rhagor o fusnesau yn fwy ymwybodol o’u heffaith andwyol ar yr hinsawdd a’u helpu i wella eu cynaliadwyedd. Rwy’n gobeithio hefyd y gallwn ni berswadio pobl i leihau eu defnydd o blastig a ‘ffasiynau cyflym’.
Pam ydych chi’n teimlo’n angerddol ynghylch y Newid yn yr Hinsawdd?: Rwy’n wastad wedi teimlo’n angerddol ynghylch yr amgylchedd, yn enwedig bywyd gwyllt. Mae gweld cyflwr presennol y Byd wedi fy ngwneud i’n awyddus i wireddu newid, hyd yn oed os bydd hynny’n newid bychan, i helpu i atal y Newid yn yr Hinsawdd er lles cenedlaethau’r dyfodol.
Enw: Leo
Oedran: 16
O: Bontypridd
Ffaith: Rwy’n mwynhau cerddoriaeth a rhwyfo. Rwy’n canu’r clarinét ac rwyf i wedi cychwyn dysgu canu’r gitâr yn ddiweddar. Rwy’n aelod o dîm rhwyfo Llandaf hefyd.
Pam wnaethoch chi ymuno â’r rhwydwaith?: Ymunais â’r rhwydwaith oherwydd mae gennyf i ddiddordeb cryf yng Ngwyddorau’r Hinsawdd a gwneud newid cadarnhaol i’r Byd. Rwy’n credu hefyd ei bod hi’n bwysig iawn i bobl ifanc gyfranogi yn yr ymateb i’r Newid yn yr Hinsawdd, oherwydd fe wnaiff y mater hwn effeithio ar ddyfodol pawb ohonom ni.
Beth yw’r 3 phrif nod yr ydych chi’n gobeithio y bydd y rhwydwaith yn eu cyflawni?: Rwy’n dymuno gweld y rhwydwaith yn gwella ymwybyddiaeth o’r Newid yn yr Hinsawdd. Rwy’n dymuno i ni addysgu’r cyhoedd, ac yna, defnyddio’r wybodaeth hon i ddangos i bobl sut i wireddu newid ystyrlon, trwy gyfrwng camau gweithredu bychan fel rhan o fywyd beunyddiol.
Pam ydych chi’n teimlo’n angerddol ynghylch y Newid yn yr Hinsawdd?: Rwy’n pryderu ynghylch y Newid yn yr Hinsawdd oherwydd rwy’n dymuno osgoi’r effeithiau trychinebus a ddaw yn sgil hynny, megis lefel y môr yn codi, gwahaniaethau o ran tymheredd a sychdwr, sy’n achosi i barthau sylweddol o dir droi’n ddiffaith neu’n llefydd sy’n amhosibl byw ynddynt, ac yn niweidio ansawdd bywyd yn sylweddol i’r sawl sy’n cael eu heffeithio gan hynny.
Enw: Manon
Oedran: 17
O: Ynys Môn
Ffaith: Mae gen i obsesiwn â’r lliw melyn!
Pam wnaethoch chi ymuno â’r rhwydwaith?: Ymunais â’r rhwydwaith er mwyn ymwneud â phobl ifanc eraill sy’n rhannu’r un teimladau angerddol i geisio dod yn fwy ymwybodol o safbwyntiau gwleidyddol wrth drafod yr hinsawdd. Roeddwn i hefyd yn dymuno gwella fy sgiliau dadlau a chyfathrebu trwy drafod ein syniadau â chynrychiolwyr.
Beth yw’r 3 phrif nod yr ydych chi’n gobeithio y bydd y rhwydwaith yn eu cyflawni?: Rwy’n gobeithio y gallwn ni drafod â phobl ifanc a’r sawl sy’n gwneud penderfyniadau i sicrhau fod Cymru yn wlad fwy ecogyfeillgar a yn fwy ymwybodol o bob agwedd, o wastraff i allyriadau.
Pam ydych chi’n teimlo’n angerddol ynghylch y Newid yn yr Hinsawdd?: Rwy’n teimlo’n angerddol iawn ynghylch yr holl feysydd sy’n ymwneud â’r Newid yn yr Hinsawdd, yn enwedig ôl troed carbon unrhyw fwydydd, o gig i gnydau grawn, a phrosesau gwastraff bwydydd, deunyddiau a phlastigau.
Enw: Evie
Ffaith: Cefais fy ngeni yn Seland Newydd.
Pam wnaethoch chi ymuno â’r rhwydwaith?: Ymunais â’r rhwydwaith oherwydd rwy’n hoff iawn o natur ac rwy’n gwerthfawrogi harddwch y Ddaear yn fawr, a byddwn i’n hoffi sicrhau planed iach a diogel yn waddol i genedlaethau’r dyfodol. Rwy’n gobeithio y byddaf i’n gallu codi ymwybyddiaeth a sicrhau newidiadau er gwell trwy ymuno â’r rhwydwaith.
Beth yw’r 3 phrif nod yr ydych chi’n gobeithio y bydd y rhwydwaith yn eu cyflawni?: Rwy’n gobeithio y gallwn ni wella ymwybyddiaeth am broblem y Newid yn yr Hinsawdd ac effaith hynny ar y blaned ac rwy’n gobeithio y gallwn ni addysgu a chynnig cymorth i bobl ifanc eraill sy’n ymwybodol o’r broblem hon. Rwyf i hefyd yn gobeithio y gallwn ni ysgogi camau gweithredu mawr gan Lywodraeth Cymru i amddiffyn ein planed.
Pam ydych chi’n teimlo’n angerddol ynghylch y Newid yn yr Hinsawdd?: Rwy’n pryderu ynghylch y Newid yn yr Hinsawdd oherwydd mae’n dinistrio ein planed. Rwy’n dymuno sicrhau y gall cenedlaethau’r dyfodol brofi harddwch naturiol ein planed. Rwy’n dymuno sicrhau y gall anifeiliaid ffynnu heb wynebu bygythiad diddiwedd difodiant ac rwy’n dymuno byw heb yr holl ofn rwy’n ei deimlo ar hyn o bryd yn sgil fy mhryder am y blaned hon.
Fideo: Uwchgynhadledd Hinsawdd Ieuenctid Cymru – 8 Rhagfyr 2020