Mae elusen newid hinsawdd Cymru, Maint Cymru, yn dathlu ar ôl i Raglen Tyfu Coed Mbale (METGE) sydd yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru, daro’r targed o dyfu 25 miliwn o goed erbyn 2025 yn Uganda.
I ddathlu’r cyflawniad enfawr hwn, bydd Maint Cymru yn croesawu Deborah Nabulobi i Gymru yn ystod yr wythnos yn dechrau 10 Mawrth 2025. Mae Deborah yn rheolwr meithrinfa goed lleol ac yn hyrwyddwr rhywedd sydd wedi cael cefnogaeth gan METGE, sef Menter Tyfu Coed Mount Elgon, partner Maint Cymru. Mae Deborah yn cyrraedd Cymru diwrnod cyn Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ar 8 Mawrth, a bydd yn cymryd rhan mewn nifer o ddigwyddiadau sy’n pwysleisio cyfraniad a llwyddiant menywod wrth fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd yn fyd-eang.
Bydd Deborah yn rhannu straeon o lygaid y ffynnon am yr effaith mae newid hinsawdd yn ei chael ar gymunedau yn Uganda, a pha gamau maen nhw’n eu cymryd i addasu i’r argyfwng a lliniaru’r effaith yn ystod cyfres o ddigwyddiadau ar draws Cymru. Mae cydraddoldeb rhywedd a hyrwyddo arweinyddiaeth ymhlith menywod yn thema sy’n rhedeg ar draws yr holl weithgareddau o fewn y rhaglen. Gallwch ddarllen mwy am y rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru yma.
Mae gan Uganda un o’r cyfraddau uchaf o golli coedwigoedd yn y byd. Yn seiliedig ar dueddiadau cyfredol, mae perygl y bydd yn colli ei orchudd cyfan erbyn 2040.
Esboniodd Deborah Nabulobi am yr effaith y mae plannu coed wedi’i chael arni hi a’i chymuned leol:
“Mae’r 25 miliwn o goed a ddosbarthwyd gan METGE wedi gwneud gwahaniaeth enfawr yn ein cymunedau. Rydw i yn bersonol wedi plannu dros un erw o goed, gan gynnwys coed ffrwythau a choed ffin o amgylch ein tir. Er nad yw menywod yn draddodiadol yn berchen ar dir yma, rydw i wedi siarad gyda fy ngŵr, ac rydym bellach yn gweithio gyda’n gilydd i blannu coed ar ein tir. Fel hyrwyddwr rhywedd, rwy’n parhau i annog menywod eraill i blannu coed a chymryd rhan yn y gwaith o adfer ein hamgylchedd.
“Rwy’n gwerthfawrogi’n fawr y prosiect plannu coed a gyflwynwyd gan METGE yn Bukiende Bumaena. Cyn ymyrraeth METGE, roedd ein hardal yn hynod o sych. Torrwyd yr ychydig goed oedd gennym i lawr ar gyfer llosgi golosg a gwneud brics. Doedd gennym ddim cysgod, a phan ddaeth glaw trwm, byddai’r pridd yn cael ei olchi i ffwrdd.
“Gyda chefnogaeth METGE, rydym wedi plannu coed ac wedi dosbarthu eginblanhigion i aelodau’r gymuned. Fel hyrwyddwr rhywedd, rwyf wedi sensiteiddio menywod ac aelodau eraill o’r gymuned ynghylch y pwysigrwydd o blannu a gofalu am goed. Nawr, mae Bukiende yn trawsnewid yn araf, gyda mwy o goed yn sefyll a’r amgylchedd yn gwella.”
Trwy blannu coed, rydym bellach yn cadw gwenyn — arfer sydd yn cael ei ystyried yn draddodiadol yn rhywbeth i ddynion yn unig. Trwy gefnogaeth METGE, mae menywod wedi cael eu grymuso i gadw gwenyn heb ofn. Mae hyn wedi dangos bod menywod yn gallu gwneud yr un fath â dynion — a’i wneud hyd yn oed yn well.
“Cawsom hyfforddiant hefyd ar wneud stofiau Lorena, sy’n defnyddio llai o goed tân. Yn hytrach na thorri coed cyfan i lawr, dim ond ychydig o ganghennau sydd angen i ni eu torri. Mae’r stofiau hyn yn arbed tanwydd, yn amddiffyn ein hamgylchedd, ac yn gwneud coginio’n haws.
“Yn ogystal, rydym yn tyfu llysiau, ac yn eu gwerthu i ennill incwm. Mae hyn wedi galluogi menywod i gyfrannu at anghenion cartref fel prynu llyfrau i’n plant, gan leihau’r baich ariannol ar ddynion. O ganlyniad, mae trais domestig yn ein cymuned wedi lleihau oherwydd bod dynion a menywod yn darparu ar gyfer y teulu erbyn hyn.
“Drwy’r prosiect rhywedd, rydym hefyd wedi ffurfio Cymdeithasau Cynilo a Benthyciadau Pentref (VSLAs), sy’n ein helpu i arbed arian a buddsoddi mewn busnesau bach”
Siaradodd Deborah Nabulobi am ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yng Nghymru:
“Cyn ymyrraeth METGE, doeddwn i ddim yn gwybod dim am Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod. Dydw i erioed wedi ei ddathlu nac yn cydnabod ei bwysigrwydd. Fodd bynnag, trwy’r hyfforddiant, rwyf bellach yn deall ac yn dathlu’r diwrnod fel symbol o gyflawniadau a hawliau menywod.
“Rwy’n hyrwyddwr rhywedd oherwydd METGE. Cefais fy hyfforddi nid yn unig fel hyrwyddwr rhywedd ond hefyd, mewn arweinyddiaeth, sydd wedi magu fy hyder i godi llais. Rwy’n cael fy ngrymuso — a thrwy’r grymuso hwn, rwyf wedi ysbrydoli menywod eraill yn fy nghymuned hefyd.
“Rwy’n fwy hyderus i fynd i’r afael â materion rhywedd, diolch i’r wybodaeth rydym wedi’i derbyn. Mae menywod bellach yn rhydd i gystadlu am swyddi arweinyddiaeth. Yn wir, rwy’n bwriadu cystadlu fel cynghorydd — rhywbeth na wnes i erioed ei ddychmygu o’r blaen oherwydd ofn a diffyg hyder. Nawr, rwy’n teimlo fy mod i wedi fy ngrymuso i weithio mewn rolau arweinyddiaeth.
“Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni yn mynd i fod yn arbennig iawn i mi. Doeddwn i erioed wedi bod i Kampala o’r blaen, heb sôn am faes awyr. Nawr, oherwydd gwaith METGE, dwi’n mynd i hedfan am y tro cyntaf a theithio dramor — rhywbeth nad oeddwn i erioed wedi breuddwydio amdano. Rwy’n hapus ac yn ddiolchgar am y cyfle newid bywyd hwn.”