Heddiw, mae clymblaid o elusennau yng Nghymru wedi lansio ymgyrch i Gymru ddileu datgoedwigo a fewnforiwyd o’i heconomi i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd, colli natur, ac i adeiladu cydnerthedd yn erbyn pandemigau.
Cyn etholiadau’r Senedd yn 2021, mae’r ymgyrch dan arweiniad Maint Cymru, ac sydd yn cael ei gefnogi gan RSPB Cymru, yn galw ar bleidiau i ymrwymo i bolisïau a fyddai’n gwneud Cymru yn genedl dim datgoedwigo gyntaf y byd.
Heddiw, mae’r ymgyrch wedi cyhoeddi adroddiad “Gwneud Cymru’n Genedl Dim Datgoedwigo” sy’n amlinellu sut y gall llunwyr polisi, busnesau a sefydliadau cyhoeddus weithio gyda’i gilydd i gyflawni’r nod hwn.
Ar hyn o bryd, mae ôl troed ecolegol Cymru bum gwaith yn fwy na maint y genedl ei hun.. Mae llawer o hyn yn cael ei achosi drwy fwyta bwydydd bob dydd, sy’n cynnwys cig eidion, soi (a geir mewn porthiant anifeiliaid ar gyfer anifeiliaid sydd wedi’u magu ar gyfer cig, wyau a llaeth), olew palmwydd (sydd yn cael ei ddarganfod mewn bron hanner y cynnyrch wedi’u pecynnu yn ein harchfarchnadoedd, sy’n cynnwys bisgedi a siampŵ), cacao (sydd yn cael ei ddefnyddio i wneud siocled), a choffi.
Mae diogelu ac adfer ecosystemau naturiol, gan gynnwys coedwigoedd glaw, yn hanfodol i sicrhau cynefinoedd bywyd gwyllt, i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd, ac i leihau risg gyffredinol ac amlder pandemigau yn y dyfodol. Heb ein coedwigoedd, ni fyddwn yn gallu cyfyngu cynhesu byd-eang i’r 1.5ᵒC sydd yn cael ei gefnogi gan wyddonwyr a chytundeb Paris ar y Newid yn yr Hinsawdd. Mae datgoedwigo’n cael ei sbarduno mewn llecynnau poblogaidd o ran bioamrywiaeth sy’n cynnwys coedwigoedd yn Indonesia, sy’n gartref i rywogaethau sydd mewn perygl fel yr orangwtang.
Mae’r adroddiad heddiw’n egluro sut mae pawb yng Nghymru yn chwarae rhan yn yr economi datgoedwigo, a sut y gall symud i ffwrdd oddi wrth gynhyrchion sy’n cyfrannu at ddatgoedwigo leihau ôl troed ecolegol ein cenedl.
Mae’r adroddiad yn cynnig deg prif argymhelliad, sy’n cynnwys cymell a chefnogi busnesau drwy Gontract Economaidd Llywodraeth Cymru i sicrhau nad yw eu cadwyni cyflenwi yn cynnwys arferion datgoedwigo, adolygu buddsoddiadau pensiwn Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol, gwneud newidiadau i arferion ffermio a bwyd, a chreu label ‘dim datgoedwigo’ ar gyfer cynnyrch sydd yn cael eu gwneud yng Nghymru.
Meddai Barbara Davies-Quy, Pennaeth Rhaglenni Maint Cymru:
Bob blwyddyn, mae’r blaned yn colli 18 miliwn hectar o goedwig, sy’n cyfateb i naw gwaith maint Cymru. Ar ôl dod yn Genedl Masnach Deg a chyhoeddi argyfwng hinsawdd y llynedd, mae Cymru yn gallu profi ei hun i fod yn gyfrifol ar lefel fyd-eang, a chreu hanes drwy ymrwymo i ddileu datgoedwigo a fewnforiwyd o’n heconomi ac ar yr un pryd, annog gweddill y Deyrnas Unedig a’r byd i ddilyn ei hesiampl.
Meddai Rhys Evans, Swyddog Polisi RSPB Cymru:
O gofio bod dros 80% o Gymru’n cael ei ffermio, mae ein system bwyd a ffermio yn allweddol i fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd ac ecolegol. Mae annog systemau ffermio agroecolegol a chyfeillgar i natur sy’n lleihau arferion sy’n niweidio’r hinsawdd fel defnyddio gwrtaith nitrogen artiffisial a phorthiant da byw a fewnforiwyd, yn gallu ein helpu i leihau ein heffaith amgylcheddol, yng Nghymru a thu hwnt. Dylai polisi rheoli tir amaethyddol a chynaliadwy newydd yng Nghymru helpu ffermwyr i newid i ddefnyddio system ffermio agroecolegol, a gwobrwyo ffermwyr yn llawn am y manteision amgylcheddol mae’r systemau ffermio hyn yn eu darparu.
Bydd y sefydliadau y tu ôl i’r ymgyrch yn lansio eu cynigion yn ffurfiol mewn digwyddiad cyhoeddus a fydd yn cael ei gynnal ar-lein ar ddydd Llun, 23 Tachwedd am 10yb.
DIWEDD
Nodiadau i olygyddion:
- Gallwch ddod o hyd i fersiwn dan embargo o’r adroddiad gydag argymhellion llawn yma.
- Byddwn yn cyhoeddi fideo i lansio’r ymgyrch yn fuan, sy’n cynnwys ardystiadau gan y cyn Brif Weinidog Carwyn Jones, y gantores Charlotte Church, yr actor Iwan Rheon a Poppy, Llysgennad Hinsawdd Ieuenctid Cymru,16 oed.
- Mae adroddiad ‘Risker Business’ WWF a’r RSPB yn 2020 yn amlinellu sut mae nwyddau sydd yn cael eu mewnforio I Brydain yn sbarduno datgoedwigo a newid yn yr hinsawdd dramor.
- Canfu arolwg gan YouGov yn 2019 bod 87 y cant o’r cyhoedd ym Mhrydain eisiau gweithredu ar ddatgoedwigo.
- Ar hyn o bryd, amcangyfrifir bod tua 18 miliwn hectar o goedwig yn cael ei cholli ar draws y byd bo blwyddyn, sy’n cyfrif am tua 15 y cant o allyriadau byd-eang.
- Mae’r elusennau sy’n rhan o’r ymgyrch hon eisoes yn cynnal trafodaethau gyda phleidiau gwleidyddol Cymru, a thrafodwyd yr ymgyrch gan Arweinydd yr Wrthblaid a’r Prif Weinidog yn y Senedd ar 11 Tachwedd.
- Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ystyried gweithredu deddfwriaeth i fynd i’r afael â datgoedwigo dramor, ond dim ond 50% o weithgareddau datgoedwigo byd-eang sy’n anghyfreithlon, mae’r 50% sy’n weddill yn gyfreithlon yn y gwledydd y mae’n digwydd ynddynt. Gallwch weld barn Maint Cymru yma.
Cysylltu: Jamie Green, Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata, Maint Cymru ar [email protected]