Mae Maint Cymru yn falch o glywed bod Pobl Frodorol Ogiek Chepkitale, Kenya wedi ennill eu hachos yn Uchel Lys Kenya yn erbyn troi eu tiroedd hynafiaethol yn warchodfa natura chael eu troi allan dan orfod.
Mae brwydr gyfreithiol 22 mlynedd o hyd i hawlio rhan o’u tiroedd hynafiaethol yn ôl wedi dod i ben gyda chanlyniad cadarnhaol i gymuned yr Ogiek Mount Elgon. Yn 2008, fe wnaethon nhw ffeilio achos i herio penderfyniad Cyngor Sir Mt. Elgon ar y pryd i droi rhan o’u tiroedd hynafiaethol yn barc cenedlaethol.
Honnodd achos y gymuned fod hyn yn anghyfansoddiadol ac yn anghyfreithlon, ac na ymgynghorwyd â’r gymuned am y cynigion. Fe wnaethant golli eu tir heb unrhyw fath o iawndal, er bod angen hyn yn ôl y gyfraith.
Er gwaethaf pobl yn cael eu troi allan, bygythiadau ac ymosodiadau parhaus, dychwelodd cymuned yr Ogiek yn ddewr i fyw ar eu tiroedd a’i reoli, ac aros am y canlyniad.
Dyfarnodd y llys bod troi’r tir yn warchodfa genedlaethol yn anghyfansoddiadol ac yn anghyfreithlon, y dylai ddychwelyd yn ôl i’w statws gwreiddiol, ac y dylid talu costau cyfreithiol cymuned yr Ogiek. Mae’r dyfarniad yn gam enfawr ymlaen yn eu nod o gofrestru eu tir cymunedol.
“Fe wnaethon ni ennill. Rwyf wrth fy modd” meddai Peter Kitelo, a arweiniodd y ddadl dros gymuned yr Ogiek ac sy’n arwain sefydliad partner Maint Cymru, Prosiect Datblygu Pobl Frodorol Chepkitale (CIPDP).
Wrth siarad ynghylch y dyfarniad, dywedodd Cadeirydd Cyngor yr Henuriaid, Chepkitale, Cosmas Murunga:
Roedden nhw eisiau ein rhannu â’n tiroedd, ein coedwigoedd a’n cyndeidiau… Mae ein cyndeidiau wedi gwrthod, a dyna pam mae’r fuddugoliaeth hon yn edrych fel gwyrth i mi.
Mae cymuned yr Ogiek wedi byw ar eu tir a stiwardio eu tir a’r goedwig am filoedd o flynyddoedd, ac maen nhw’n enghraifft glir o sut mai Pobl Frodorol yw gwarchodwyr gorau’r goedwig a bioamrywiaeth. Dangosodd darn allweddol o dystiolaeth a ystyriwyd gan y llys, bod presenoldeb cymuned yr Ogiek yn chwarae rhan allweddol wrth ddiogelu eliffantod a rhywogaethau allweddol eraill, yn ogystal ag wrth amddiffyn ac adfywio eu coedwig frodorol.

Bryn Kipkerer yn Mount Elgon.
Meddai Peter Kitelo:
Mae’r aros hir o ran ceisio cyfiawnder i gymuned yr Ogiek o Chepkitale yn Mt. Elgon wedi dod i ben. Nawr ydy’r amser i lywodraeth Kenya gefnogi awydd cymuned yr Ogiek i fod yn berchen ar ein tiroedd a’u defnyddio’n gynaliadwy nawr ac am genedlaethau i ddod.
Meddai Dirprwy Gyfarwyddwr Maint Cymru, Barbara Davies-Quy:
Mae amddiffyn coedwigoedd trofannol yn hanfodol i fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur fyd-eang. Pobl frodorol yw gwir arbenigwyr cadwraeth, felly rydym wrth ein bodd gyda’r dyfarniad hwn. Rydym yn falch o fod wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â Phobl Frodorol Ogiek am flynyddoedd lawer, gan gynnwys ariannu rhai o’u cefnogaeth gyfreithiol hanfodol a’r gwaith codi ymwybyddiaeth.
Ymunwch â ni i ddathlu’r llwyddiant haeddiannol hwn!