We don’t conserve. It’s the way we live that conserves.
Mae cymunedau brodorol sy’n byw yn y goedwig yn wynebu cael eu troi allan o’u tiroedd ar draws Kenya gyfan, yn enw ‘cadwraeth coedwigoedd’ drwy’r system ‘Shamba’. Y gwir amdani yw, heb bresenoldeb y grwpiau hyn – sy’n draddodiadol yn byw mewn harmoni gyda’u hamgylchfyd i warchod tiroedd cysegredig eu hynafiaid, mae’r tir yn agored i weithgareddau fel datgoedwigo a photsio.
Dyna’r achos ar gyfer y boblogaeth Ogiek sy’n byw yn Chepkitale, ar Fynydd Elgon yng ngorllewin Kenya. Er eu bod wedi profi eu hunain fel gwarchodwyr gorau’r goedwig, cafodd eu presenoldeb ar eu tiroedd eu hunain ei wneud yn anghyfreithlon yn 2000, pan gafodd eu tir ei droi’n warchodfa hela genedlaethol heb eu caniatâd. Ers hynny, maen nhw wedi wynebu cael eu troi allan, trais a’u cartrefi’n cael eu llosgi hyd yn oed gan Wasanaeth Coedwig Kenya.
Mae dinistrio’r coedwigoedd hyn ar Fynydd Elgon nid yn unig yn achosi allyriadau nwyon tŷ gwydr, ond dirywiad hefyd yng ngallu’r ardal i reoleiddio llif y dŵr i’r ffermwyr yn y tiroedd trwchus eu poblogaeth. Yn yr un modd, wrth i’w hadnoddau naturiol leihau, mae’n niweidio llesiant a ffordd o fyw’r boblogaeth Ogiek. Maen nhw’n dibynnu ar yr adnoddau hyn fel planhigion meddyginiaethol ar gyfer y gymuned, blodau ar gyfer gwenyn i greu mêl, a phorfa ar gyfer eu da byw.
Nod cyffredinol y prosiect hwn ydy cefnogi’r boblogaeth Ogiek i sicrhau hawliau cyfreithiol dros eu tiroedd, a chryfhau trafodaethau rhwng y boblogaeth Ogiek a chyrff allanol, gan gynnwys asiantaethau cadwraeth a’r llywodraeth leol.
Dyma’r nodau penodol:
Mae’r prosiect hwn yn ymwneud yn uniongyrchol ag anghenion y boblogaeth Ogiek i ddiogelu eu hawliau dros eu tir. Mae hyn wedi cynnwys:
Mae tua 5,000 o bobl yn rhan o’r boblogaeth Ogiek. Mae eu tiriogaeth yn gorchuddio ardal o 178,000 hectar o gynefin tebyg i goedwig a rhostir. Maen nhw’n byw 3,500m uwchlaw lefel y môr ar Fynydd Chepkitale, sy’n rhan o Fynydd Elgon, ac maen nhw’n adnabyddus am eu hamrywiaeth ragorol o blanhigion, y mae llawer ohonynt yn endemig i’r llethrau hyn. Mae’n gweithredu fel ‘tŵr dŵr’ hefyd ar gyfer aneddiadau’r rhanbarth islaw’r bryniau.
Mae tua 240 o rywogaethau o adar, mamaliaid mwy, pryfed ac ymlusgiaid yn rhan o ecosystem Mynydd Elgon, ac mae arolwg gan yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur (IUCN) wedi darganfod bod 22 o famaliaid, 2 bryf a 13 o rywogaethau o adar sy’n byw ym Mynydd Elgon yn cael eu hystyried dan fygythiad ar draws y byd.
Mae ymchwil wedi dangos bod eliffantod yn treulio dros 80% o’u hamser ar dir y boblogaeth Ogiek, oherwydd eu bod yn teimlo’n fwy diogel yma o’i gymharu â’r Parc Cenedlaethol cyfagos, lle mae’r holl boblogaeth Ogiek wedi cael eu troi allan yn orfodol a lle mae potswyr, i bob diben, yn gallu symud yn gymharol rydd yno. Mae staff Gwasanaeth Bywyd Gwyllt Kenya (KWS) wedi dweud “os ydy’r boblogaeth Ogiek yn cael ei throi allan, gallwch chi fwy neu lai ddweud hwyl fawr wrth yr eliffantod”.
Article: 5 Ways Indigenous Groups Are Fighting Back Against Land Seizures. Source: Eco-Watch. 21/06/2018
Article: Kenya’s forest people hope reforms will stem graft and evictions. Source: Place. 23/04/2018
Article: Ogiek of Kenya win landmark land rights case. Source: Forest Peoples Programme. 26/05/2017
Chronology: Ogiek chronology 1991-2001. Source: Forest Peoples Programme. 01/01/2001
Forest Peoples Programme (FPP) are based in the UK but work with forest-dwelling communities across the globe, supporting them to promote an alternative vision of how forests should be managed and controlled, based on respect for the rights of the peoples who know them best.