Ymunwch â'r gymuned
Eisiau clywed am ein prosiectau, ymgyrchoedd a digwyddiadau diweddaraf trwy ebost?
Helpwch i Sicrhau Dyfodol gyda Choedwigoedd!
Mewn digwyddiad a drefnwyd gan Miller Research a Chomisiwn Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, mae busnesau wedi bod yn clywed am waith pwysig y Wampís i ddiogelu coedwig law yr Amazon, ac archwilio sut y gall busnesau yng Nghymru uno a chefnogi mentrau hinsawdd dan arweiniad pobl Frodorol. Tynnodd y digwyddiad sylw hefyd at sut y gall busnesau ddefnyddio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol i hyrwyddo cyfrifoldeb byd-eang.
Yn ystod eu hamser yng Nghymru, mae’r arweinwyr brodorol hyn wedi cyfarfod â Llywodraeth Cymru, Aelodau’r Senedd, a phobl ifanc o bob cwr o’r wlad hefyd.
Wrth i’r argyfwng hinsawdd waethygu, mae’r ymweliad yn tynnu sylw at sut y gall cenhedloedd llai, fel Cymru, gyfrannu at weithredu byd-eang ystyrlon. Mae eu hymweliad yn cyd-fynd ag Uwchgynhadledd COP29 y Cenhedloedd Unedig yn Azerbaijan hefyd, sydd yn ychwanegu mwy o frys at eu neges.
Mae arweinwyr y Wampís yn argymell bod busnesau’n adolygu eu buddsoddiadau pensiwn a’u harferion caffael, i sicrhau nad ydynt yn cyfrannu at ddatgoedwigo ac at gam-drin hawliau dynol sy’n gysylltiedig â hyn. Maen nhw hefyd yn argymell bod busnesau yn tynnu mwy o sylw at leisiau a chyfranogiad pobl Frodorol, ac yn defnyddio eu platfformau i annog eraill i weithredu.
Mae Cenedl y Wampís yn gorchuddio dros 1.3 miliwn hectar, mwy na hanner maint Cymru, ond nid yw mwy na dwy ran o dair o diriogaeth y Wampís wedi’i diogelu’n gyfreithiol gan Wladwriaeth Periw. Mae hyn yn gadael llawer o’u tiriogaeth hynafol yn agored i gael eu dinistrio, trwy gyfrwng torri coed yn anghyfreithlon, mwyngloddio aur a chwilio am olew.
Mae eu hymweliad â Chymru yn enghraifft o sut y gall dwy wlad “fechan,” sydd wedi’u gwahanu gan gyfandiroedd ond wedi’u huno gan yr un gwerthoedd, godi eu lleisiau yn y mudiad hinsawdd byd-eang.
Mae hon yn foment bwerus i Gymru, ac yn croesawu arweinwyr brodorol sydd wedi teithio o galon yr Amazon i rannu eu gwybodaeth a’u profiad ym maes stiwardiaeth amgylcheddol,” meddai Barbara Davies-Quy, Dirprwy Gyfarwyddwr Maint Cymru.
Mae eu dewrder a’u hymroddiad i ddiogelu eu tiriogaeth yn ysbrydoledig, ac mae eu profiadau yn atgof pwerus o’r hyn y gellir ei gyflawni pan fyddwn yn sefyll gyda’n gilydd ar draws cenhedloedd.
Cyfrannwch heddiw i sicrhau dyfydol gyda choedwigoedd