Mae Angie Kirby, Swyddog Eiriolaeth ac Allgymorth Maint Cymru, yn trafod sut a pham y dylech ddefnyddio cyfnod yr ŵyl i geisio ailgysylltu â natur ac amsugno harddwch naturiol Cymru yn y Gaeaf.
Yn y gymdeithas gyflym hon rydym yn byw ynddi, mae’n hanfodol datgysylltu o’r sŵn cyson a’r galw am sylw gan hysbysebion, newyddion a’r cyfryngau cymdeithasol, a chymryd amser i gysylltu â rhywbeth llawer dyfnach, hynafol ac elfennol.
Felly, y Nadolig hwn, anghofiwch am dechnoleg, lapiwch yn eich dillad tywydd gwlyb cynhesaf ac ewch am dro gwyllt, gaeafol neu syllwch i fyny ar yr awyr glir yn y nos. Mae synhwyro’r byd o’n cwmpas yn gallu ein helpu i deimlo’n ddiogel mewn amseroedd cythryblus, ac mae’n ein hatgoffa ni hefyd ein bod ni’n rhan o rywbeth mwy – y Ddaear, yr ydym yn ei rhannu â llawer o fodau byw eraill – a’r bydysawd ehangach, yr ydym ond yn ddarn bach ohono.
Mae cydnabod rhyng-gysylltedd bywyd ar y blaned hon yn gallu ein helpu i feithrin ein perthynas â’r byd naturiol a phan fyddwn yn dysgu caru natur, yr ydym yn rhan ohoni hefyd, rydym yn llawer mwy tebygol o’i diogelu.
Mae Pobl Frodorol wedi credu yn y ddoethineb hwn am flynyddoedd. Er enghraifft, mae Pobl Guarani Brasil yn gweld eu bywydau’n cydblethu ac yn gysylltiedig â bywydau pob bod arall yn y goedwig. Dydyn nhw ddim yn gweld eu hunain ar wahân i natur. Maen nhw’n bwydo, yn diogelu ac yn parchu’r ddaear, planhigion, anifeiliaid a phryfed, ac yn ystyried eu bywydau fel bod yn gyfartal, a dydyn nhw byth yn ceisio cael pŵer dros natur, nac ychwaith, ei ecsbloetio.
Er mwyn cynnal ein nhandereko – ein ffordd o fyw – rhaid cadw’r coedwigoedd a’u holl fodau yn fyw hefyd
(Ilson Karai Okaju, Commissao Guarani Yvyrupa)
Mae nifer o astudiaethau’n dangos mai’r mwyaf o gyswllt sydd gennym â natur, boed yn cerdded mewn coedwig neu’n gwerthfawrogi mannau gwyrdd lleol yn unig, y mwyaf tebygol y byddwn o ymarfer ymddygiadau o blaid yr amgylchedd. Mae union natur y rhyngweithiadau hyn yn bwysig hefyd o ran ein helpu i feithrin cysylltiad dwfn â natur – un sy’n seiliedig ar werthoedd sy’n canolbwyntio ar yr amgylchedd, yn hytrach na phryderon sy’n canolbwyntio ar bobl yn unig (anthropocentrig).
Nododd y Nature Connectedness Research Group bump llwybr cyffredin – cyswllt, emosiwn, ystyr, tosturi a harddwch – sydd yn gallu ein helpu i ddatblygu “perthynas fwy ystyrlon ac emosiynol â natur.”
Fel biolegydd esblygol, dywedodd Stephen Jay Gould, “We will not fight to save what we do not love”. Felly, cymerwch amser y Nadolig hwn i werthfawrogi’r ymdeimlad hwnnw o ryfeddod ac awch y mae natur yn ei ysbrydoli ynom. Bydd yn gwneud rhywfaint o les i ni gyd.
Ysgrifennwyd yr erthygl hon fel rhan o’n hymgyrch Coed yr Ŵyl