Bum mlynedd ers cyhoeddi’r adroddiad pwysig cyntaf ar ôl troed datgoedwigo trofannol Cymru mewn perthynas â’r prif nwyddau sy’n peri risg i goedwigoedd, mae Maint Cymru a WWF Cymru wedi ailedrych ar y data sy’n ymwneud â bwyd i weld beth, os o gwbl, sydd wedi newid.
Pan gyhoeddwyd yr adroddiad gwreiddiol yn 2021, ymrwymodd dros 140 o wledydd i atal datgoedwigo erbyn 2030; ac eto, yn 2025, collwyd 4.3 miliwn hectar o goedwigoedd trofannol ar draws y byd, ac mae cyfanswm allyriadau Cymru o ddim ond pedwar nwydd sy’n gysylltiedig â datgoedwigo, (sef soia, olew palmwydd, coffi a choco), wedi codi o 1.37 miliwn i 1.4 miliwn o dunelli. Mae hyn er gwaethaf y ffaith bod Llywodraeth Cymru, yn ystod COP26, wedi ymrwymo i “wneud rhywbeth i leihau, a gobeithio dileu, ein hôl troed dramor ac adref.”
Yr adroddiad
Mae Cymru a Chyfrifoldeb Byd-eang II yn edrych ar effaith fyd-eang ein defnydd o bum nwydd bwyd cyffredin, sef soia (sydd yn cael ei ddefnyddio yn bennaf mewn bwyd anifeiliaid), cig eidion wedi’i fewnforio, olew palmwydd, coco a choffi. Mae’n edrych ar o ble mae’r nwyddau hyn yn dod, a’u cysylltiadau â cholli coedwigoedd a chynefinoedd, allyriadau nwyon tŷ gwydr, llafur plant a llafur gorfodol, a cham-drin hawliau Pobl Frodorol.
Mae’r adroddiad newydd hwn yn dangos, er gwaethaf ymrwymiadau byd-eang i atal a gwrthdroi datgoedwigo, fod y sefyllfa, ar y cyfan, wedi gwaethygu. Er bod rhywfaint o ostyngiad wedi bod mewn mewnforion cig eidion o wledydd fel Brasil, mae cyfran y soia sy’n cael ei fewnforio ar gyfer porthiant anifeiliaid wedi cynyddu’n sylweddol, o 80% yn ystod 2011–18 i 91% yn ôl y data diweddaraf. Mae’r ffigurau ar gyfer y nwyddau eraill wedi aros fwy neu lai yr un fath. (Darllenwch yr adrodiad llawn yma.)
Pam rydyn ni’n defnyddio cymaint o soia?
Roedd Cymru’n mewnforio 186,000 tunnell y flwyddyn ar gyfartaledd rhwng 2011 a 2025, gan ddefnyddio arwynebedd o dir sy’n cyfateb i faint Conwy. Dim ond tua naw y cant o’r soia hwn sy’n cael ei fwyta’n uniongyrchol gan bobl. Mae’r gweddill yn cael ei ddefnyddio i fwydo da byw, gyda dros hanner ohono’n cael ei ddefnyddio mewn ffermio dofednod dwys. Wrth i nifer y dofednod sy’n cael eu cadw mewn unedau dofednod dwys yng Nghymru gynyddu, mae’r galw am soia hefyd yn cynyddu. Mae soia yn ffa sy’n llawn protein ac sy’n darparu’r egni sydd ei angen i ddofednod sy’n cael eu magu’n ddwys i dyfu’n gyflymach.
Mae’r rhan fwyaf o’r soia hwn yn dod o wledydd lle mae risg uchel o ddatgoedwigo a/neu niwed cymdeithasol, fel Brasil, Paraguay a’r Ariannin. Nid yw hyd yn oed soia sy’n cael ei fewnforio o dan y model ardystio cydbwysedd màs yn gwarantu bod y bwyd anifeiliaid ei hun wedi’i gynhyrchu mewn ffordd gynaliadwy. Mae amcangyfrif diweddar yn awgrymu mai dim ond 22% o’r soia sy’n cael ei fewnforio i’r DU sydd wedi’i ddilysu fel soia nad yw’n gysylltiedig â datgoedwigo na throsi tir (Mae trosi tir yn golygu newid y ffordd y caiff tir ei ddefnyddio, er enghraifft, troi coedwig drofannol yn dir amaethyddol lle mai dim ond soia sy’n cael ei dyfu.)
Cig eidion
Er bod mewnforion cig eidion wedi gostwng yn gyson ers 2011, mae cig eidion, ynghyd â soia, yn dal i gyfrif am rai o olion traed tir mwyaf Cymru, sef 121,000 hectar a 114,000 hectar y flwyddyn ar gyfartaledd. Gyda’i gilydd, mae hyn yn gyfwerth ag arwynebedd o dir maint Sir Gaerfyrddin.
Brasil sy’n cyfrif am ôl troed tir tramor mwyaf Cymru, drwy fewnforion soia, cig eidion a choffi. Mae hefyd yn gartref i Bobl Frodorol y Guarani, y mae eu tiriogaethau hynafol yng Nghoedwig yr Iwerydd sydd dan fygythiad – un o bum prif ardal fioamrywiaeth y byd. Mae’r adroddiad yn nodi bod y DU yn mewnforio soia a chig eidion o ardaloedd trefol sy’n cynnwys tiriogaethau’r Guarani. Mae hyn yn tynnu sylw at y risg wirioneddol bod cysylltiad agos rhwng cadwyni cyflenwi soia Cymru a cham-drin hawliau Pobl Frodorol.
Olew palmwydd a choffi yw’r nwyddau sydd fwyaf tebygol o ddod o wledydd sydd wedi’u categoreiddio fel rhai â risg uchel neu uchel iawn o achosi datgoedwigo a/neu niwed cymdeithasol. Eto, mae ôl troed tir soia mor fawr nes bod yr ardal risg uchel ble mae’n cael ei gynhyrchu bron ddwywaith maint yr ardal ar gyfer olew palmwydd.
Rhwng 2011 a 2025, roedd angen arwynebedd o dir dramor bob blwyddyn, ar gyfartaledd, sy’n cyfateb i faint Sir Benfro a Cheredigion gyda’i gilydd i gynhyrchu’r pum nwydd hyn a fewnforiwyd i Gymru. Mae’r allyriadau sy’n gysylltiedig â datgoedwigo a throsi tir ar gyfer dim ond pedwar o’r nwyddau hyn, sef soia, coffi, coco ac olew palmwydd, wedi cynyddu o 1.37 miliwn tunnell o CO₂e yn ystod 2011–18 i 1.40 miliwn tunnell o CO₂e. Mae hyn yn cyfateb i chwarter allyriadau trafnidiaeth blynyddol Cymru.
Dewisiadau gyda chanlyniadau byd-eang
Nid yw cyfrifoldeb byd-eang yn ddewis erbyn hyn – mae’n hanfodol er mwyn diogelu bywydau, bywoliaethau a diogelwch economaidd pobl, gartref a thramor. Mae Asesiad Diogelwch Cenedlaethol diweddar gan Lywodraeth y DU yn dangos bod colli bioamrywiaeth a chwymp ecosystemau yn fygythiad difrifol i ddiogelwch cenedlaethol, cyflenwadau bwyd a sefydlogrwydd economaidd. O dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, mae gan Gymru ddyletswydd gyfreithiol i ystyried effaith fyd-eang penderfyniadau a wneir yma. Ond mae amser yn brin Yn 2025, collwyd 4.3 miliwn hectar o goedwig drofannol gynradd, sy’n cyfateb yn fras i 11 cae pêl-droed bob munud. Mae effaith y fath ddinistr hefyd i’w theimlo yma yng Nghymru, gan gyfrannu at brisiau bwyd uwch, cadwyni cyflenwi ansefydlog a chostau cynyddol i aelwydydd ar draws Cymru. Pan fydd cnydau’n methu neu farchnadoedd byd-eang yn amrywio, mae prisiau nwyddau bob dydd, o fara i goffi, yn codi.
Ar yr un pryd, mae’r trychineb amgylcheddol hwn yn cyflymu newid hinsawdd, gan arwain at dywydd eithafol amlach a mwy difrifol yma yng Nghymru, gyda stormydd, llifogydd a sychder yn difrodi cartrefi ac yn tarfu ar ein cymunedau.
Gweithredu i atal datgoedwigo
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae rhywfaint o gamau cadarnhaol wedi cael eu cymryd i leihau’r risg i Gymru sy’n deillio o ddatgoedwigo, ond mae angen gweithredu’n gryfach ac yn fwy radical, h.y. nid camau gwirfoddol yn unig sydd eu hangen, ond camau ymarferol a phendant sy’n arwain at newid go iawn. Rhaid inni sicrhau bod cynhyrchu bwyd moesegol a chynaliadwy, o’r fferm i’r fforc, yn rhan annatod o’n polisïau a’n harferion, er enghraifft ym maes caffael cyhoeddus. Mae angen inni gefnogi ffermwyr i symud oddi wrth ddefnyddio porthiant anifeiliaid sy’n cynnwys soia ac olew palmwydd, gan annog pobl ar yr un pryd i fwyta mwy o blanhigion sy’n llawn protein, fel codlysiau a phys. Dylem hefyd fwyta llai o gig, cynnyrch llaeth ac wyau, ond gwell, a dewis, er enghraifft, cynnyrch sydd wedi’u cynhyrchu yn unol â safonau agroecolegol, fel safonau organig. Bydd angen i wahanol sectorau gydweithio i sicrhau bod pawb yn gallu cael gafael ar fwyd fforddiadwy, iach a maethlon sydd hefyd yn gyfeillgar i natur.
Felly, beth sydd wedi digwydd yng Nghymru hyd yn hyn?
Ar lefel genedlaethol, mae Llywodraeth Cymru wedi cynnwys meini prawf ar ddatgoedwigo a throsi tir yn ei hadnodd Asesu Risg Cynaliadwyedd Caffael, y disgwylir i gyrff cyhoeddus ei gwblhau ar gyfer contractau gwerth dros £25,000, er nad yw hyn yn orfodol. Mae’r Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus wedi sicrhau bod nodau llesiant Cymru, o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, yn rhan annatod o gaffael cyhoeddus, ac mae rhai meini prawf sy’n ymwneud â chyfrifoldeb byd-eang wedi’u cynnwys yn y canllawiau statudol. Yn 2025, argymhellodd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru y dylai sector cyhoeddus Cymru ddod yn rhydd o ddatgoedwigo a throsi tir erbyn 2028.
Ar lefel fwy lleol, pleidleisiodd Cyngor Sir Fynwy a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i ddod yn Gynghorau Hyrwyddo Dim Datgoedwigo, ac i weithio gydag ysgolion a busnesau i leihau’r risg o ddatgoedwigo yn eu cadwyni cyflenwi arlwyo, “un pryd ar y tro”. Mae mwy na 30 o ysgolion wedi dod yn Ysgolion sy’n Hyrwyddo Dim Datgoedwigo, gyda disgyblion yn dysgu am bwysigrwydd coedwigoedd trofannol i bobl a byd natur, yn archwilio bwydlenni i nodi cynhwysion sy’n peri risg i goedwigoedd, yn codi ymwybyddiaeth ac yn datblygu dewisiadau mwy cynaliadwy mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol.
Mae partneriaethau rhyngwladol Cymru hefyd wedi cefnogi plannu coed yn Uganda a diogelu coedwigoedd dan arweiniad Pobl Frodorol yn yr Amazon, Periw. Mae hyn yn dangos y gall gweithredu yng Nghymru sbarduno newid ar draws y byd, er budd pawb.
Argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru
- Cryfhau’r ymrwymiad i’r Canllawiau Statudol o dan Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru), sy’n cynnwys meini prawf ar gyfer atal datgoedwigo, gyda’r nod o gynyddu faint o fwyd a deunyddiau sy’n dod o ffynonellau cyfrifol ac ar yr un pryd, lleihau faint o nwyddau sy’n peri risg i goedwigoedd rydym yn eu defnyddio yng Nghymru.
- Datblygu cynllun cydnerthedd bwyd cenedlaethol, gyda thargedau i gynyddu cynhyrchiant bwyd lleol, adfywiol ac organig, hyrwyddo dull “llai ond gwell” o fwyta cig, cynnyrch llaeth ac wyau, a chynyddu’r broses o gynhyrchu a bwyta proteinau sy’n dod o blanhigion yn uniongyrchol.
- Sicrhau bod y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn cyd-fynd â nodau Cymru o atal datgoedwigo, a chefnogi ffermwyr i gynhyrchu bwyd o ansawdd uchel heb ddibynnu ar borthiant anifeiliaid wedi’i fewnforio sy’n seiliedig ar soia ac olew palmwydd.
- Trawsnewid bwyd mewn ysgolion fel ei fod yn dod o ffynonellau cyfrifol, a symud oddi wrth fwydydd wedi’u prosesu’n helaeth, sy’n niweidio iechyd pobl ac ecosystemau.
- Ehangu addysg ar ddinasyddiaeth fyd-eang, yr hinsawdd a bwyd ar draws y ddarpariaeth addysg.
- Cefnogi Pobl Frodorol a phrosiectau sy’n diogelu coedwigoedd
- Pwyso ar Lywodraeth y DU i gyflwyno rheoliadau cadarn ar nwyddau sy’n peri risg i goedwigoedd, ynghyd â gofynion diwydrwydd dyladwy gorfodol.