Mae’r coffi hwn yn rhan o rywbeth arbennig. Ac felly hefyd pob person sy’n ei brynu.
Mae Maint Cymru wrth eu bodd yn partneru unwaith eto gyda’r rhostwyr a’r siop goffi Hard Lines o Gaerdydd ar goffi newydd, arbennig sy’n cefnogi pobl a’u coedwigoedd trofannol. Mae pob bag sy’n cael ei werthu yn helpu i warchod coedwigoedd trofannol a chefnogi’r cymunedau sy’n gofalu amdanynt.
I Maint Cymru, mae’r bartneriaeth hon yn teimlo’n gwbl naturiol. Mae coffi’n cael ei dyfu mewn tirweddau trofannol, yn aml mewn neu o amgylch coedwigoedd. Pan gaiff ei dyfu a’i gyrchu’n gyfrifol, gall roi bywoliaethau cynaliadwy i’r cymunedau sy’n gweithio i warchod y tir. Mae’r cysylltiad hwnnw rhwng pobl, tir a choedwigoedd wrth galon ein gwaith.
Coffi sy’n blasu’n dda ac yn gwneud daioni
Colombia Mujeres yw’r coffi a ddewiswyd gan Hard Lines i gefnogi gwaith Maint Cymru, ac mae ar werth fel rhan o’u casgliad tymhorol. Mae’n cael ei ddisgrifio fel coffi llachar a llawn sudd, gydag asidedd sitrws, melysrwydd aeron a gorffeniad llyfn, tebyg i fanila; perffaith ar gyfer hidlo, coffi du, neu espresso ysgafnach. Blasus! A’r hyn sy’n ei wneud yn arbennig i ni yw’r hyn sydd y tu ôl i’r cwpan. Mae pob bag a brynir yn helpu i gefnogi ein partneriaid coedwigoedd i warchod ac adfer coedwigoedd trofannol.
Pobl Frodorol yw’r gwarchodwyr mwyaf effeithiol o’r coedwigoedd hyn, a credwn bod arweinyddiaeth y bobl frodolrol yn allweddol i gryfhau eu hawliau tir, diogelu bioamrywiaeth, a chefnogi bywoliaethau ar gyfer cenedlaethau presennol a’r dyfodol.
Partneriaeth wedi’i seilio ar werthoedd cyffredin
Dyma’r ail dro inni gydweithio gyda Hard Lines drwy eu rhaglen gweithredu cymdeithasol Ground Level, ac mae’n rhywbeth rydym wedi mwynhau’n fawr. Cododd yr ymgyrch For the Forests, £3,365 i gefnogi Cenedl y Wampís i warchod Amazon Periw. Dangoswyd beth sy’n bosibl pan ddaw coffi gwych, cyrchu moesegol a diogelu coedwigoedd o dan bwrpas cyffredin. Dyna yw gwir ystyr y bartneriaeth hon: dod o hyd i ffyrdd ymarferol a chadarnhaol o gysylltu dewisiadau bob dydd ag effaith fyd-eang.
“Mae partneru gyda Maint Cymru yn ein galluogi i fynd ymhellach wrth gefnogi diogelu coedwigoedd a mynd i’r afael â newid hinsawdd. Fel dau sefydliad o Gymru, mae’r cydweithrediad hwn yn arbennig o ystyrlon,” meddai Ruth, Pennaeth Coffi cwmni Hard Lines.
Colombia Mujeres, merched Colombia wrth wraidd y coffi
Un o’r elfennau mwyaf pwerus o’r coffi hwn yw ei darddiad. Mae Colombia Mujeres yn cael ei gynhyrchu’n gyfan gwbl gan ffermwyr benywaidd sy’n aelodau o fenter gydweithredol CENCOIC yn Cauca, Colombia. Mae CENCOIC (Central Cooperativa Indígena del Cauca) yn cefnogi Pobl Frodorol drwy amaethyddiaeth gynaliadwy, cadw diwylliant a llywodraethu cynhwysol, gan helpu i adeiladu annibyniaeth economaidd hirdymor. Mae hynny’n bwysig i ni. Nid yn unig mae’r cydweithrediad hwn yn codi arian yma yng Nghymru; mae hefyd yn tynnu sylw at y cynhyrchwyr benywaidd a’r systemau sy’n cael eu harwain gan gymunedau y tu ôl i’r coffi ei hun.
Pam mae cyrchu cyfrifol yn bwysig
Ym Maint Cymru, gwyddwn bod gwarchod coedwigoedd trofannol ym mynd law yn llaw â sut mae tir yn cael ei ddefnyddio a sut mae pobl yn gallu gwneud bywoliaeth ohono. Gall coffi fod yn rhan gadarnhaol o’r stori pan gaiff ei gyrchu’n gyfrifol. Mae’r gadwyn gyflenwi y tu ôl i’r coffi hwn yn ganolog i’r ymrwymiad hwnnw. Mae’r mewnforiwr DRWakefield yn casglu data geo-leoli ar gyfer ffermydd ac yn gweithio gydag Enveritas i gefnogi olrhain a asesu risg datgoedwigo. Nhw hefyd oedd y mewnforiwr coffi annibynnol cyntaf yn y DU i gael trwyddedau Masnach Deg ac Organig, ac yn ddiweddarach sicrhawyd ardystiad Rainforest Alliance ganddynt. Mae’r haen ychwanegol honno o onestrwydd i’r cydweithrediad yn cyfuno codi arian ag ymrwymiad gwirioneddol i gyrchu cyfrifol.
O Gymru i’r byd
Rydym yn falch bod y bartneriaeth hon wedi’i gwreiddio yng Nghymru, ond mae ei heffaith yn ymestyn ymhell y tu hwnt. Mae’n cysylltu pobl yma â choedwigoedd trofannol, cymunedau ffermio ac amddiffynwyr coedwigoedd ledled y byd. Ac mae’n dangos sut y gall rhywbeth mor bob dydd â phrynu coffi fod yn rhan o ddarlun llawer mwy.
Drwy ddewis coffi Masnach Deg, nid yn unig rydych yn cefnogi ffermwyr gyda incwm teg, ond rydych hefyd yn helpu i warchod coedwigoedd trofannol. Ers 2019, mae ardystiad Masnach Deg yn cynnwys meini prawf dim datgoedwigo, sy’n golygu bod eich dewis yn cefnogi pobl a’r blaned. Dyma sydd wrth galon ein hymgyrch Dim Datgoedwigo a’n gweledigaeth ar gyfer Cymru’n dod yn genedl Dim Datgoedwigo.
Os ydych yn chwilio am goffi gwych sydd ag effaith wirioneddol y tu ôl iddo, dyma fan cychwyn ardderchog. Mae pob bag sy’n cael ei werthu yn cefnogi ein gwaith i warchod coedwigoedd trofannol ac i sefyll gyda’r cymunedau sy’n dibynnu arnynt, ac ar hyn o bryd, drwy ymgyrch Big Give Earthrise, bydd pob rhodd yn cael ei dyblu, gan ddyblu’r effaith.
PRYNWCH EICH COFFI YMA: Colombia Mujeres – Hard Lines Coffee
DIOLCH enfawr i bawb yn Hard Lines am wneud hyn yn bosibl; rydym mor ddiolchgar am y bartneriaeth. Mwynhewch eich paned! ☕