Dadansoddiad
O ystyried y pethau hyn i hyd, comisiynodd Maint Cymru a WWF-Cymru Ymgynghoriaeth cynaliadwyedd byd-eang, Eunomia, i asesu’r hyfywedd o rolio allan bwydlen Livewell / Dim Datgoedwigo mewn ysgolion yng Nghymru. Mae’r canllaw Eatwell presennol wedi cael ei ailfodelu gan WWF-UK i greu’r deiet Livewell. Bwriad y deiet ydy darparu bwyd iach a maethlon, sy’n bodloni canllawiau a chynghorion maeth y DU ac ar yr un pryd, lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a dylanwadau amgylcheddol eraill, a bod yn dderbyniol ar lefel gymdeithasol. Mae ymgyrch Hyrwyddwyr Dim Datgoedwigo Maint Cymru yn gweithio gyda chyrff cyhoeddus, busnesau, ysgolion a chymunedau i godi ymwybyddiaeth o effaith nwyddau sy’n risg i goedwigoedd, ac yn cymryd camau i leihau eu hôl troed datgoedwigo dramor.
Fe wnaeth Eunomia asesu opsiynau ar gyfer sawl cynhwysyn allweddol sy’n ymddangos yn rheolaidd ar gylchoedd bwydlenni ysgol, a dadansoddi’r gost, gwerth maeth, allyriadau CO2e [10] cysylltiedig, a’r effaith gymdeithasol ac amgylcheddol ehangach, gan gynnwys datgoedwigo a throsi cynefinoedd. Dewiswyd pum cynnyrch sy’n cwmpasu ystod o nwyddau sy’n risg i goedwigoedd, gan gynnwys cig eidion o America Ladin, cyw iâr sydd wedi cael ei fwydo ar soia, cynnyrch llaeth o wartheg sydd wedi cael eu pesgi ar soia/palmwydd, coco ac olew palmwydd, ac fe gawsant eu hasesu yn erbyn cynhwysion amgen posibl, gan gynnwys opsiynau sydd wedi cael eu cyrchu o ffynonellau moesegol.
Beth oedd y canlyniadau?
Daeth y dadansoddiad ymchwil i’r casgliad y byddai bwydlen ysgol Livewell yng Nghymru sydd ddim yn cynnwys cynhwysion sy’n achosi datgoedwigo, yn darparu llawer o gyfleoedd amgylcheddol ac economaidd cymdeithasol, gan gynnwys lleihau ôl troed datgoedwigo Cymru dramor, cefnogi adfer natur, lleihau allyriadau carbon ac adeiladu gwydnwch i dywydd eithafol ar ffermydd, cefnogi’r trawsnewid i ddefnyddio arferion ffermio sy’n gyfeillgar i natur, gwella iechyd corfforol a meddyliol plant a’u cyflawniad addysgol, cynyddu’r galw am fwyd lleol (cefnogi ffermwyr Cymru a’r economïau gwledig), gwella llesiant ffermwyr a thyfwyr rhyngwladol, a lleihau costau i ysgolion drwy ddefnyddio cynhwysion rhatach, fel pylsys.
Fe wnaeth yr adroddiad ddod o hyd i rwystrau a risgiau posibl hefyd mewn cysylltiad â rholio allan bwydlen Livewell / Dim Datgoedwigo, gan gynnwys argaeledd data cymhleth a rhannol ar wahanol fathau o brotein anifeiliaid yn seiliedig ar arferion cynhyrchu, gwahaniaethau rhwng rhai tystysgrifau moesegol a diffyg tryloywder, llai o apêl oherwydd eu bod yn cynnwys bwydydd anghyfarwydd, fel pylsys a ffa, cynnydd mewn costau, er enghraifft, oherwydd hyfforddiant staff a chynhwysion mwy costus (e.e. cyw iâr organig), gwrthwynebiad i newid a diffyg cefnogaeth, a diffyg tryloywder mewn cysylltiad â’r gadwyn gyflenwi a monitro prydau ysgol.
Mae neges yr adroddiad yn glir ynghylch cig a chynnyrch llaeth, – rhaid inni fabwysiadu model “llai, ond gwell” o gynhyrchu a bwyta cig a chynnyrch llaeth. Nid yw ein cyfradd bresennol o fwyta cig yn gynaliadwy, hyd yn oed petasem yn mabwysiadu arferion cynhyrchu mwy moesegol yn gyffredinol – ac mae’r arferion hyn yn hanfodol i leihau’r risgiau sydd yn cael eu hachosi gan gynhesu byd-eang a cholli natur.
Mewn cyd-destun prydau ysgol, gallai model “llai ond gwell” gynnwys yr un ryseitiau, ond ryseitiau sy’n defnyddio cynhwysion sydd wedi cael eu cyrchu o ffynonellau moesegol, ryseitiau sydd wedi cael eu hail-greu yn defnyddio cymysgedd o broteinau anifeiliaid a phlanhigion sydd wedi cael eu cyrchu’n foesegol i leiihau faint o gig sydd yn cael ei fwyta, ac i gynnwys llai o brydau sydd yn cynnwys cig, a mwy o brydau planhigion ym mhob cylch bwydlen tair wythnos. Pan fydd cig a chynnyrch llaeth yn cael eu cyrchu, dylid eu cyrchu gan gyflenwyr Cymreig, lle mae anifeiliaid yn cael eu magu mewn ecosystemau iach, sydd yn ffafrio deietau naturiol ar ffermydd sydd yn cael eu rheoli’n dda, ac sydd yn darparu llesiant uchel. Gallai hyn gynnwys arferion cynhyrchu organig ac/neu adfywio, lle mae safonau cynhyrchiant yn gallu cael eu profi. Dylai ysgolion ac awdurdodau lleol weithio gyda chymuned yr ysgol gyfan, a chynnwys plant a rhieni yn y broses ddylunio, i hwyluso newid ymddygiad a chynyddu’r defnydd o brydau ysgol am ddim. Byddai’r newidiadau hyn o fudd i blant mewn sawl ffordd, gan gynnwys cynyddu eu mynediad at amrywiaeth ehangach o fwydydd iach, gwella cyrhaeddiad addysgol, a chefnogi eu hiechyd a’u llesiant hirdymor.
Yn nhermau olew palmwydd, lleihau lefel y Bwydydd Wedi’u Prosesu’n Helaeth (UPFs) mewn prydau ysgolion yw’r cam pwysig cyntaf – a fyddai o fudd i ganlyniadau iechyd plant – ac yna, defnyddio olew palmwydd sydd wedi cael ei ardystio gan y Ford Gron ar Olew Palmwydd Cynaliadwy (RSPO). Dylai hyn ddod o gadwyni cyflenwi y gellir eu holrhain yn llawn, hynny yw Olew Palmwydd Wedi’i Wahanu neu Wedi’i Gadw ar Wahân, yn hytrach na systemau Balans Más neu gredydau’r Ford Gron ar Olew Cynaliadwy, oherwydd dydy’r rhain ddim yn sicrhau bod y cynnyrch heb gael eu creu yn defnyddio cynhwysion sydd ddim yn achosi datgoedwigo. O ran coco, yn syml, mae newid a dechrau prynu coffi neu goco Masnach Deg yn ateb hawdd i leihau’r risg o effeithiau cymdeithasol ac amgylcheddol cudd, er wrth gwrs, efallai y byddwn yn gweld lleihad mewn prydau melys, sydd yn cynnwys coco, oherwydd y diweddariad ar reoliadau maethol.
Mae angen i’r holl waith hwn ar fwyd ac ar beth mae pobl yn eu prynu yn y sector cyhoeddus gael ei gefnogi gan bolisi bwyd cryf yng Nghymru, gan gynnwys strategaeth fwyd cenedlaethol sy’n hyrwyddo cadwyni cyflenwi O’r Fferm i’r Fforc lleol, cynaliadwy ac sy’n defnyddio cynnyrch wedi’u cyrchu’n foesegol o dramor yn unig. O edrych ar y cyd-destun masnach ehangach, mae’n rhaid i Lywodraeth y DU roi deddfwriaethau diwydrwydd dyladwy cryf ar waith- rhan o Ddeddf yr Amgylchedd (2021) – i atal cynnyrch sydd yn gysylltiedig â datgoedwigo a throsi cynefinoedd rhag cael eu mewnforio yn y lle cyntaf. Mae siopau a manwerthwyr mawr yn galw am hyn yn barod, ac am i ddeddfwriaeth y DU gyd-fynd â Rheoliad Datgoedwigo’r UE (EUDR), a fydd yn dod i rym ym mis Rhagfyr 2026, ac a fydd yn effeithio ar lawer o fusnesau Prydain sy’n allforio cynnyrch i’r UE.
Er gwaethaf ymrwymiadau yn y digwyddiad COP26 yn Glasgow i atal a gwrthdroi datgoedwigo a diraddio tir yn llwyr erbyn 2030, mae’r DU, a’r byd, yn dal i fod ymhell o gyflawni hyn. Er bod rhywfaint o gynnydd wedi cael ei wneud, mae cymaint mwy i’w wneud. Yng Nghymru, mae gennym gyfle yn awr i’r sector cyhoeddus arwain y ffordd, a mabwysiadu ffordd fwy teg a mwy cynaliadwy o ddarparu bwyd. Ni ddylem wastraffu’r cyfle hwn.
Nid ni ydy’r unig rai sy’n galw am newid. Mae Cynghrair Polisi Bwyd Cymru yn gynghrair o sefydliadau a rhanddeiliaid sy’n adeiladu ac yn hyrwyddo gweledigaeth ar y cyd ar gyfer system fwyd Cymru. – ac yn atseinio ein galwad trwy ei maniffesto Put Food at the Heart of Welsh Government (Saesneg yn unig).
Angie Kirby, Rheolwr Polisi yn Maint Cyrmu