Mae adroddiad newydd wedi datgelu sut mae dewisiadau bwyd bob dydd yng Nghymru yn cyfrannu at ddinistrio coedwigoedd trofannol, achosion o gam-drin hawliau dynol a llygredd – o’r Amazon i afonydd Cymru. Wedi’i gyhoeddi ar y cyd gan Maint Cymru a WWF Cymru, mae Bwyd, Coedwigoedd ac Anghyfiawnder: Y Cyswllt Cudd rhwng Cymru a Brasil yn datgelu sut mae system fwyd Cymru wedi’i chlymu mewn gwe fyd-eang o ddatgoedwigo, niwed amgylcheddol ac anghyfiawnder.
Caiff yr adroddiad ei gyhoeddi i gyd-fynd â COP30 ym Melém, Brasil, a elwir yn “Forest COP”, lle bydd arweinwyr y byd yn cyfarfod i drafod datgoedwigo a newid hinsawdd. Mae coedwigoedd trofannol yn hanfodol i sefydlogrwydd hinsawdd y byd, bioamrywiaeth a lles dynol. Serch ymrwymiad COP26 i atal a gwrthdroi datgoedwigo erbyn 2030, mae colli coedwigoedd ar draws y byd yn parhau ar gyflymder brawychus gyda 6.7 miliwn hectar o goedwig drofannol wedi diflannu yn 2024 – tua pum cae pêl-droed y funud yn yr Amazon yn unig.
“Pob tro y byddwn yn prynu cyw iâr rhad sy’n cael ei fwydo ar soi, neu gornbiff wedi’i fewnforio o wledydd De America sy’n gysylltiedig â datgoedwigo, mae Cymru’n cyfrannu at system sy’n gyrru dinistr yr Amazon a’r Goedwig Atlantig ac yn niweidio Pobloedd Brodorol,” meddai Barbara Davies-Quy, Dirprwy Gyfarwyddwr Maint Cymru. “Mae’r hyn rydym yn ei fwyta a’i gynhyrchu yma yng Nghymru’n cael effaith ddofn ar ddyfodol coedwigoedd a’r cymunedau sy’n dibynnu arnynt.”
Yn ôl yr adroddiad, mae Cymru’n mewnforio tua 190,000 tunnell o soi a 12,000 tunnell o gig eidion bob blwyddyn – llawer ohono’n gysylltiedig â datgoedwigo a meddiannu tir ym Mrasil. Mae tua 80% o’r soi a ddaw i Gymru yn cael ei ddefnyddio fel bwyd anifeiliaid, yn enwedig mewn ffermydd dwys dofednod a llaeth.
Mae’r soi hwn, a dyfir yn aml ar dir sydd wedi’i ddatgoedwigo ym Mrasil, nid yn unig yn sbarduno colled natur dramor ond hefyd yn cael effaith uniongyrchol ar afonydd Cymru. Mae soi, sy’n gyfoethog mewn ffosfforws, yn troi’n lygredd pan gaiff ei ysgarthu mewn tail sy’n cael ei wasgaru ar dir fferm, gan arwain at lifogydd o ffosfforws i’r afonydd. Mae hyn yn cyfrif am lefelau sylweddol o lygredd mewn afonydd fel yr Wysg, y Cleddau a’r Gwy – gan ladd pysgod a bywyd gwyllt a bygwth iechyd pobl.
Mae’r adroddiad yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi ffermwyr drwy’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy i fabwysiadu systemau bwydo adfywiol a heb ddatgoedwigo, gan leihau’r dibyniaeth ar soi wedi’i fewnforio.
Yn ne-orllewin Paraná, Brasil, mae pobl Avá Guarani wedi gweld eu tiroedd hynafol yn cael eu dinistrio gan blanhigfeydd soi enfawr sy’n cyflenwi’r diwydiant da byw byd-eang. Mae’r ehangu hwn wedi arwain at ddinistr y Goedwig Atlantig, un o’r ecosystemau sydd fwyaf dan fygythiad y byd, gyda dim ond 10% o’i chynefin gwreiddiol yn weddill.
“Cyrhaeddodd amaeth-fusnes a dinistrio popeth – ein hafonydd, ein coedwigoedd, ein bwyd. Mae’r tir yn sâl. Nid yw’n gallu anadlu,” meddai Karai Okaju, arweinydd Avá Guarani.
Mae Brasil bellach yn gyfrifol am 20% o holl ddefnydd plaladdwyr y byd, gan ddangos maint y dinistr amgylcheddol sy’n deillio o’r galw byd-eang am gig, wyau a llaeth sy’n seiliedig ar soi.
Dywedodd Shea Buckland Jones, Pennaeth Polisi ac Eiriolaeth WWF Cymru:
“Yn anffodus, mae dibyniaeth Cymru ar soi a chig eidion wedi’i fewnforio’n gadael llwybr o ddinistr – o goedwigoedd Brasil i afonydd Cymru. Nid yn unig mae mewnforio soi risg uchel ar gyfer porthiant da byw yn gyrru datgoedwigo ym Mrasil ac yn cyflymu newid hinsawdd, ond mae hefyd yn cyfrannu’n sylweddol at y llygredd sy’n tagu ein hafonydd. Er ein bod yn genedl fach, gallwn arwain drwy weithredu’n fyd-eang – gan gael gwared ar ddatgoedwigo o’n cadwyni cyflenwi ac ymladd dros ddyfodol teg i bobl, natur a’r hinsawdd.”
Mae’r adroddiad yn galw ar Lywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus a busnesau i ymrwymo i gadwyni cyflenwi dim datgoedwigo erbyn 2028, gan sicrhau nad yw caffael cyhoeddus yn cefnogi cynhyrchion sy’n gysylltiedig â cholled coedwigoedd neu gam-drin hawliau dynol. Mae hefyd yn galw am wahardd ar gig eidion sy’n gysylltiedig â datgoedwigo, gan gynnwys cornbiff o Frasil, a hyrwyddo deietau cynaliadwy gyda “llai, ond gwell” cig a llaeth Cymreig, mwy o fwydydd llysieuol, ac unoliaeth hirdymor â Phobloedd Brodorol sy’n gweithredu fel gwarchodwyr y goedwig.
Er gwaethaf ei ganfyddiadau pryderus, mae’r adroddiad yn tynnu sylw at enghreifftiau cadarnhaol o arweinyddiaeth yng Nghymru – fel Cynghorau Sir Fynwy a Chaerffili sy’n arwain ar brydau ysgol heb ddatgoedwigo, a dros 30 o ysgolion a busnesau Cymreig sydd wedi ymuno â’r rhaglen Pencampwyr Heb Ddatgoedwigo.
“Os newidiwn yr hyn sydd ar ein platiau, gallwn newid y blaned,” ychwanegodd Barbara Davies-Quy. “Mae’r dewisiadau a wnawn yma yng Nghymru’n siapio dyfodol coedwigoedd trofannol, a dyfodol cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol– ond gall pob pryd hefyd fod yn rhan o’r ateb.”
Mae’r adroddiad, Bwyd, Coedwigoedd ac Anghyfiawnder: Y Cyswllt Cudd rhwng Cymru a Brasil, wedi’i awduro gan Maint Cymru a WWF Cymru, wedi’i ariannu gan y Joseph Rowntree Charitable Trust, ac mae ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Mae’r adroddiad ar gael yma: Bwyd, Coedwigoedd ac Anghyfiawnder: Y Cyswllt Cudd rhwng Cymru a Brasil