Mae Maint Cymru yn credu y gall Cymru fod yn arweinydd byd-eang wrth fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur.
Wrth i Gymru agosáu at etholiad nesaf y Senedd, mae ein maniffesto yn amlinellu ein gweledigaeth ar gyfer Cymru sy’n gyfrifol yn fyd-eang, gan ddangos sut y gall ein cenedl chwarae rôl adeiladol wrth ymateb i heriau byd-eang megis newid hinsawdd, datgoedwigo trofannol ac anghyfiawnder amgylcheddol.
Mae’n tynnu ar ein profiad o weithio gyda Phobloedd Brodorol, cymunedau a phartneriaid yng Nghymru ac yn rhyngwladol, ynghyd â thystiolaeth a dysgu o bolisi, ymarfer a phrofiad byw. Bwriedir i’r maniffesto lywio trafodaeth yn ystod cyfnod yr etholiad ac i gefnogi ystyriaeth ofalus o gyfrifoldebau byd-eang Cymru.
Rydym yn galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i barhau i edrych tuag allan ac i gymryd camau beiddgar i wneud Cymru yn Genedl Dim Ddatgoedwigo. Mae hyn yn cynnwys trawsnewid caffael cyhoeddus, systemau bwyd ac amaethyddiaeth yng Nghymru; cryfhau addysg hinsawdd a dinasyddiaeth fyd-eang; parhau i gefnogi rhaglenni plannu coed dramor; a sefyll mewn undod â Phobloedd Brodorol sydd ar reng flaen yr argyfwng hinsawdd.
Mae gennym amser cyfyngedig i atal cynhesu byd-eang trychinebus. Mae gan Gymru gyfle unigryw i ddangos arweinyddiaeth ym maes cyfrifoldeb byd-eang a chynaliadwyedd, ac wrth wneud hynny, i sicrhau manteision gwirioneddol gartref. Gall cymryd camau i leihau ôl-troed byd-eang Cymru gryfhau systemau bwyd lleol, cefnogi ffermwyr Cymru, gwella iechyd y cyhoedd, creu swyddi gwyrdd, ac adeiladu gwydnwch hinsawdd hirdymor. Drwy ddewis llwybrau moesegol, cynaliadwy a rhydd o ddatgoedwigo, gall Cymru ddiogelu natur, cefnogi cymunedau ledled y byd, a chreu dyfodol iachach, tecach a mwy diogel i bobl Cymru.
Lawrlwythwch ein maniffesto yma (PDF)https://sizeofwales.org.uk/wp-content/uploads/2026/01/Size-of-Wales-–-Our-Vision-for-a-Globally-Responsible-Wales-CY-DIGITAL.pdf


