Ymunwch â'r gymuned
Eisiau clywed am ein prosiectau, ymgyrchoedd a digwyddiadau diweddaraf trwy ebost?
Helpwch i Sicrhau Dyfodol gyda Choedwigoedd!
Hyrwyddwr Dim Datgoedwigo
Mae Sefydliad Waterloo (TWF) yn sefydliad teuluol annibynnol yng Nghymru, sy’n darparu cyllid ar gyfer elusennau byd-eang; mae eu gwaith yn canolbwyntio ar bedwar maes allweddol: datblygu’r byd, datblygu plant, yr amgylchedd a phrosiectau sy’n benodol i Gymru.
Cyn cychwyn ar eu taith Dim Datgoedwigo, roedd TWF eisoes wedi addo eu cefnogaeth i Divest Invest – mudiad i ddylanwadu ar waredu tanwydd ffosil – ac roedd yn gefnogwr balch o Fasnach Deg. Mae’r amgylchedd yn brif flaenoriaeth ariannol i TWF, yn enwedig gwarchod coedwigoedd glaw trofannol, ac maen nhw wedi cefnogi Maint Cymru ers amser maith, felly roedd cofrestru i fod yn Hyrwyddwr Busnes Dim Datgoedwigo yn ymddangos fel y cam nesaf rhesymol, a fyddai’n eu helpu i gyflawni eu hamcanion cynaliadwyedd, nodi’r risgiau i goedwigoedd o fewn eu cadwyni cyflenwi a’u harferion, a gweithio gyda’u cyflenwyr i ddylanwadu ar newid ehangach. Mae cynaliadwyedd yn rhan fawr o’u hethos, ac roeddent eisiau cymhwyso hyn i weithgareddau ymarferol dydd i ddydd y sefydliad, nid dim ond i’r gwaith maen nhw’n ei ariannu yn unig.
“Mae coedwigoedd trofannol yn bwysig dros ben ar gyfer bioamrywiaeth, ar gyfer ein tywydd, ar gyfer ein dŵr, hinsawdd, pobl, incwm ac ar gyfer bywyd ei hun.” (Steph, TWF)
I ddechrau ar eu taith, darllenodd Sarah a Steph o TWF drwy adnoddau dim datgoedwigo Maint Cymru, a chwrdd â’r tîm i drafod y gwaith roeddent yn ei wneud yn barod, a dod o hyd i risgiau i goedwigoedd yn eu harferion. Yna, cynhaliodd TWF werthusiad gwaelodlin i ddod o hyd i’r cynnyrch sy’n risg i goedwigoedd maen nhw’n eu defnyddio yn y swyddfa, lle maen nhw’n eu prynu, a pha wasanaethau maen nhw’n eu defnyddio, e.e. arlwyo a bancio, a chynhaliodd ymarferion diwydrwydd dyladwy i nodi tarddiad bwyd, cynhyrchion glanhau, ymrwymiadau moesegol ac ati. Fe wnaethant greu tîm i arwain y gwaith ac ymgysylltu â’r sefydliad ehangach a thrwy hynny, sicrhau bod pawb yn cymryd rhan ac yn teimlo eu bod yn gallu cyfrannu.
“Rydym yn ariannu amrywiaeth eang o brosiectau, ac mae gennym ystod eang o werthoedd ar draws y sefydliad, felly nid yw achos da un person o reidrwydd yr un fath ag un rhywun arall, ond roedd angen i ni gyd ddod at ein gilydd ar gyfer y prosiect penodol hwn, gan fod amcanion yr ymgyrch Dim Datgoedwigo yn cysylltu gyda’r holl brosiectau rydym yn eu hariannu.” (Sarah, TWF
Er eu bod yn anochel wedi dod ar draws rhai heriau, fel newid i bensiwn moesegol, sy’n ymrwymiad tymor hwy, a sicrhau bod cyflenwyr yn ymwybodol o’r newidiadau, e.e. newid i ddefnyddio cynhyrchion glanhau moesegol, fe wnaeth TWF ddarganfod bod y broses yn eu helpu mewn sawl ffordd, gan gynnwys mapio allan a lleihau effeithiau, gwell cyfathrebu a gweithredu, ymgysylltu allanol a chodi ymwybyddiaeth, a mwy o newid mewn ymddygiad y tu hwnt i’r swyddfa. Roedd y broses yn glir, yn systematig ac yn syml:
“‘Dyw e ddim yn anodd i’w wneud. Mae rhai pethau’n fach iawn… dydy o ddim y gwaith caled rydych chi’n meddwl y gallai fod. Mae’n haws mewn gwirionedd.” (Steph, TWF)
Cefnogodd Angie Kirby, Swyddog Allgymorth Eiriolaeth Maint Cymru, TWF, ar eu taith Dim Datgoedwigo:
“Roedd yn wych gweithio gyda’r Sefydliad Waterloo, o’r sgwrs gychwynnol hyd at ddyfarnu eu statws Dim Datgoedwigo iddynt. Roeddwn mor falch o weld sut roeddent wedi teilwra’r templedi pecyn cymorth, trwy gynnwys camau ychwanegol iddynt eu hystyried fel sefydliad, a sut roeddent wedi cynnwys meini prawf Dim Datgoedwigo yn eu polisïau presennol. Roedd yn gyffrous gweld yr holl waith hwnnw’n esblygu, a’u helpu ar eu taith Dim Datgoedwigo.”
Wrth edrych tua’r dyfodol, bydd TWF yn parhau i adolygu eu gweithredoedd, i sicrhau eu bod bob amser yn ystyried y pethau maen nhw’n eu prynu a’u gwasanaethau, ac i edrych ar eu hymddygiadau gydag arferion dim datgoedwigo mewn cof. Byddant hefyd yn gweithio ar eu darpariaeth pensiwn, fel rhan o’u hymrwymiad tymor hwy i fod yn Hyrwyddwr Dim Datgoedwigo.
Cyfrannwch heddiw i sicrhau dyfydol gyda choedwigoedd