Ymunwch ag Elon wrth iddi geisio cael help gan ei grŵp o eliffantod i atal peiriannau rhag ceisio dinistrio ei choedwig.
Mae’r antur ddwyieithog hon yn cael ei lleisio gan Iwan Rheon a Charlotte Church. Mae’r llyfr yn archwilio rhyfeddodau coedwigoedd trofannol, ac yn tynnu sylw at yr her mewn perthynas â datgoedwigo, sy’n achosi dinistr ar draws y byd.
Mae’r argyfwng hinsawdd yn fater sy’n pryderu llawer o blant, ac mae Elon yma i ddangos i ni y gallwch wneud rhywbeth i helpu, dim ots pa mor ifanc ydych chi.
Mae Elon ar gael o siopau llyfrau annibynnol ledled Cymru (rhestr isod). Cofiwch ei brynu o un o’r siopau hyn os gallwch chi, ond mae hefyd ar gael i’w brynu trwy’r cyhoeddwr Atebol.
Mae antur ysbrydoledig Elon wedi cael ei chreu gan Laura Murphy, Rheolwr Addysg ac Ymgysylltu Ieuenctid Maint Cymru, ac mae wedi cael ei ysgrifennu gyda help Nia Parry ac wedi’i ddarlunio gan Elin Vaughan Crowley. Mae’n cael ei ddosbarthu gan Gyngor Llyfrau Cymru.