Ymunwch â'r gymuned
Eisiau clywed am ein prosiectau, ymgyrchoedd a digwyddiadau diweddaraf trwy ebost?
Helpwch i Sicrhau Dyfodol gyda Choedwigoedd!
Mae Eyes Open Media (EOM) yn gwmni cynhyrchu’r cyfryngau annibynnol o Gaerdydd sy’n arbenigo mewn adrodd straeon creadigol. O’r cychwyn cyntaf, fe wnaeth sylfaenydd EOM, a’r prif wneuthurwr ffilmiau a’r storïwr, Joseph Blake, addewid cyhoeddus i ymrwymo i weithio mewn ffyrdd ac i gaffael cynnyrch sydd ddim yn achosi datgoedwigo, ac ers hynny, mae wedi ennill statws Hyrwyddwr Dim Datgoedwigo! Llongyfarchiadau Joe! Diolch am gymryd camau i ddiogelu coedwigoedd trofannol, pobl a natur!
Meddai Joe: “Rydyn ni wrth ein bodd ein bod ni wedi ennill ein statws Hyrwyddwr Dim Datgoedwigo! Mae’r diwydiant gwneud ffilmiau angen cymorth sylweddol i wella ei effaith ar yr amgylchedd, ac rydym yn bwriadu dangos nad oes rhaid i gynnwys gwych fod yn niweidiol i’r blaned.”
Cyfrannwch heddiw i sicrhau dyfydol gyda choedwigoedd