I ddathlu Diwrnod y Llyfr 2021, mae’n bleser gan Maint Cymru gyhoeddi stori newydd i blant am bwysigrwydd coedwigoedd glaw a’r hyn y gallwn ei wneud i’w hamddiffyn.
Mae ‘Tim Tom a’r Goedwig Law’ wedi cael ei hysgrifennu Laura Murphy, Rheolwr Addysg ac Ymgysylltu â Phobl Ifanc Maint Cymru, a’n Swyddog Addysg ac Allgymorth, Elin Crowley. Mae Elin wedi tynnu darluniau gwych hefyd, i ddod â’r stori’n fyw ac i ennyn diddordeb plant yn ei naratif.
Wrth edrych drwy lygaid TimTom yr Orangutang, mae darllenwyr yn cael mynd ar daith i weld sut mae eitemau bob dydd, fel coffi a siocled, yn achosi datgoedwigo niweidiol sy’n cael effaith enfawr ar yr amgylchedd. Mae’n dangos hefyd, beth allwn ni ei wneud i ddiogelu coedwigoedd a chreaduriaid fel TimTom.
Mae PDF am ddim o’r llyfr ar gael yma, ynghyd â fideo o’r stori sydd yn cael ei hadrodd gan Elin. Bydd Maint Cymru yn defnyddio’r stori fel adnodd mewn gweithdai mewn ysgolion yn y dyfodol, ac yn gobeithio cyhoeddi straeon newydd yn y dyfodol.
Dysgwch fwy am y stori ac am sut y cafodd ei gwneud yn y sesiwn holi ac ateb isod.
Os ydych chi’n gweithio mewn ysgol sydd â diddordeb mewn gwahodd Maint Cymru i gynnal gweithdy, dysgwch fwy yma, a chysylltwch â ni.
Sesiwn holi ac ateb gyda’r awduron a’r darlunwyr
Elin: Beth wnaeth eich ysbrydoli chi i ysgrifennu’r stori?
Fel swyddog addysg allgymorth ar gyfer Maint Cymru, rwyf bob amser yn meddwl am y ffordd orau bosibl o egluro pwysigrwydd y goedwig law i blant, a pha ffordd well o wneud hynny nag mewn stori? Dwi’n artist, ac wedi bod yn ystyried gweithio ar lyfr plant ers amser maith, felly dyma’r cyfle perffaith! Fe wnes i fwynhau dod â Tim Tom yn fyw yn y darluniau, a gobeithio y bydd y plant yn mwynhau darllen amdani, a dysgu rhywbeth ar yr un pryd.
Laura: Dywedwch wrthym am gymeriad Tim Tom
Roeddem eisiau defnyddio anifail cariadus i ymgysylltu â’r plant ieuengaf iawn, ond un a allai rannu’r neges bwysig o ddiogelu ein coedwigoedd trofannol gyda phob oedran hefyd. Mae’r darllenydd yn gweld y problemau drwy lygaid Tim Tom ac ar unwaith, eisiau ei hamddiffyn hi a’i chartref. Mae gennym byped Tim Tom hefyd, sy’n dod draw i’n gweithdai mewn ysgolion!
Elin: Mae’r darluniau’n hyfryd, sut maen nhw’n cael eu creu?
Yn gyntaf, dwi’n meddwl am y cymeriadau yn y stori, ble maen nhw, a beth sydd o’u cwmpas. Dwi’n meddwl am y lle gorau i’w gosod ar y dudalen, a gadael lle i ychwanegu’r geiriau yn nes ymlaen.
Yna, dwi’n braslunio’r dudalen gyda phensil, yna’n ei lliwio mewn gyda dyfrlliw. Unwaith y bydd wedi sychu, dwi’n ychwanegu’r llinellau tywyll gyda beiro. I orffen, dwi’n ei sganio mewn i’r cyfrifiadur ac yn defnyddio rhaglen o’r enw Photoshop i’w dacluso, gwneud yn siŵr bod y lliwiau’n gywir, ac ychwanegu’r geiriau.
Laura: Mae’r llyfr yn rhannu neges bwysig – beth yw hon?
Y neges yw bod angen i bob un ohonom wneud ein rhan i helpu i ddiogelu’r coedwigoedd glaw, ac mae ffyrdd syml o helpu, fel bod yn fwy ymwybodol pan fyddwn yn siopa am gynnyrch. Bydd adnoddau dilynol yn tywys athrawon a phlant drwy’r pwnc o olew palmwydd cynaliadwy, ond mae’r stori’n fan cychwyn hyfryd, syml i’w thrafod.
Elin: Pam ei bod mor bwysig addysgu plant am goedwigoedd glaw a datgoedwigo?
Mae’r goedwig law yn bwysig i bob person ar y blaned, ac mae datgoedwigo yn broblem enfawr. Efallai na fyddwn yn sylweddoli ei fod yn digwydd, gan ein bod ni’n byw yng Nghymru, ond mae’n bwysig deall bod gan bob un ohonom gyfrifoldeb i wneud beth y gallwn i’w hachub. Mae’r coedwigoedd glaw yn bwysig i’r anifeiliaid a’r bobl sy’n byw yno, ac i’r Ddaear, gan eu bod yn cael gwared â chymaint o Garbon sy’n niweidiol i’n planed.
Laura: Pwy ydych chi’n gobeithio fydd yn darllen y stori hon?
Unrhyw un a phawb o 1 i 100! Byddai’n wych gweld athrawon yn defnyddio’r llyfr gyda phlant o bob oed i’w hysbrydoli i weithredu, ond hoffwn feddwl ei bod yn stori hyfryd i’w darllen a’i hailddarllen adeg gwely hefyd.