Mae elusen newid hinsawdd Cymru, Maint Cymru, yn dathlu ar ôl i Raglen Tyfu Coed Mbale sydd yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru, daro’r targed o dyfu 25 miliwn o goed erbyn 2025 yn Uganda.
I ddathlu’r cyflawniad enfawr hwn, bydd Maint Cymru yn croesawu Deborah Nabulobi i Gymru yn ystod yr wythnos yn dechrau 10 Mawrth 2025. Mae Deborah yn rheolwr meithrinfa goed lleol ac yn hyrwyddwr rhywedd sydd wedi cael cefnogaeth gan METGE, sef Menter Tyfu Coed Mount Elgon, partner Maint Cymru.
Bydd Deborah yn rhannu straeon o lygaid y ffynnon am yr effaith mae newid hinsawdd yn ei chael ar gymunedau yn Uganda, a pha gamau maen nhw’n eu cymryd i addasu i’r argyfwng a lliniaru’r effaith yn ystod cyfres o ddigwyddiadau ar draws Cymru. Mae cydraddoldeb rhywedd a hyrwyddo arweinyddiaeth ymhlith menywod yn thema sy’n rhedeg ar draws yr holl weithgareddau o fewn y rhaglen.
Mae gan Uganda un o’r cyfraddau uchaf o golli coedwigoedd yn y byd. Yn seiliedig ar dueddiadau cyfredol, mae perygl y bydd yn colli ei orchudd cyfan erbyn 2040.
Er mwyn mynd i’r afael â’r broblem hon, mae METGE, trwy rwydwaith o feithrinfeydd coed sydd yn cael eu rhedeg gan y gymuned, wedi plannu 25 miliwn o goed ifanc i ffermwyr ac ysgolion lleol ar draws rhanbarth Mbale yn Nwyrain Uganda. Mae’r rhaglen yn cefnogi ffermwyr lleol, yn enwedig menywod, i hyrwyddo bywoliaethau cynaliadwy hefyd.
Yn ogystal â mynd i’r afael â newid hinsawdd, mae coed yn amddiffyn pobl leol yn rhanbarth Mynydd Elgon rhag effeithiau erydiad pridd, sydd yn gallu achosi tirlithriadau marwol. Mae’r coed yn darparu cysgod i gymunedau lleol, cysgod ar gyfer cnydau, ffrwythau ffres, cnau a phorthiant anifeiliaid, pren cynaliadwy a phorthiant i wenyn hefyd, i gefnogi amaethyddiaeth leol, ac maen nhw’n ffynhonnell bwysig o incwm.
Mae’r ymweliad hwn yn rhan o nifer o weithgareddau ymwybyddiaeth newid hinsawdd a fydd yn digwydd yn ystod yr wythnos yn dechrau 10 Mawrth 2025.
Bydd hyn yn cynnwys cwrdd â disgyblion yn Ysgol Gynradd Litchard, Pen-y-bont ar Ogwr a Jane Hutt, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip, a fydd yn plannu coeden yn eu hysgol i ddathlu’r garreg filltir o dyfu 25 miliwn o goed, ac fel arwydd o undod a phartneriaeth rhwng Cymru ac Uganda. Mae Ysgol Gynradd Litchard yn gweithio gyda Maint Cymru i ddod yn Hyrwyddwr Ysgolion Dim Datgoedwigo ac i hyrwyddo cyfrifoldeb byd-eang yn eu cymuned.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt:
“Mae’r cyflawniad rhyfeddol hwn yn dangos beth ellir ei gyflawni pan fydd gwledydd yn gweithio gyda’i gilydd i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd. Trwy bartneriaethau fel Maint Cymru a METGE, mae Cymru’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn fyd-eang. Mae dosbarthu 25 miliwn o goed yn Nwyrain Uganda nid yn unig yn helpu i frwydro yn erbyn newid hinsawdd – mae’n trawsnewid bywydau, yn enwedig i fenywod a phobl ifanc ledled Uganda. Rwy’n edrych ymlaen at ymuno â disgyblion Ysgol Gynradd Litchard i blannu coeden i nodi’r achlysur, gan ddathlu’r garreg filltir hon a’r cysylltiadau rhwng ein dwy genedl.”
Meddai Deborah Nabulobi, Hyrwyddwr Rhywedd METGE:
“Cyn ymyrraeth METGE, roedd ein hardal yn hynod o sych. Torrwyd yr ychydig goed oedd gennym i lawr ar gyfer llosgi golosg a gwneud brics. Doedd gennym ddim cysgod, a phan ddaeth glaw trwm, byddai’r pridd yn cael ei olchi i ffwrdd.
“Mae’r 25 miliwn o goed a ddosbarthwyd gan METGE wedi gwneud gwahaniaeth enfawr yn ein cymunedau. Rydw i yn bersonol wedi plannu dros un erw o goed. Nawr, mae Bukiende yn trawsnewid yn araf, gyda mwy o goed yn sefyll a’r amgylchedd yn gwella.
“Trwy gefnogaeth METGE, mae menywod wedi cael eu grymuso i gadw gwenyn heb ofn. Mae hyn wedi dangos bod menywod yn gallu gwneud yr un fath â dynion — a’i wneud hyd yn oed yn well. Yn ogystal, rydym yn tyfu llysiau, ac rydym yn eu gwerthu i ennill incwm. Mae hyn wedi galluogi menywod i gyfrannu at anghenion cartrefi fel prynu llyfrau i’n plant, a lleihau’r baich ariannol ar ddynion. O ganlyniad, mae trais domestig yn ein cymuned wedi gostwng oherwydd bod dynion a menywod yn gweithio gyda’i gilydd erbyn hyn i ddarparu ar gyfer y teulu”.
Meddai Barbara Davies-Quy, Dirprwy Gyfarwyddwr Maint Cymru:
“Mae plannu coed yng Nghymru ac Uganda yn hanfodol er mwyn helpu i fynd i’r afael â newid hinsawdd, ac yn helpu plant Cymru i deimlo cysylltiad personol â’u hamgylchedd.
“Mae cyrraedd y targed o dyfu 25 miliwn o goed yn Uganda yn gyflawniad enfawr, ac yn un y dylai Cymru fod yn falch iawn ohono. Mae’r rhaglen wedi bod yn gweithio tuag at y pwynt hwn ers blynyddoedd lawer, ac mae llawer o bobl yng Nghymru ac Uganda wedi buddsoddi angerdd aruthrol i gyflawni hyn. Ar adeg pan fo tymereddau byd-eang yn codi, mae angen i ni gymryd camau brys i liniaru effeithiau’r argyfwng hinsawdd, ac mae coed yn rhan allweddol o’r ateb.”