Ymunwch â'r gymuned
Eisiau clywed am ein prosiectau, ymgyrchoedd a digwyddiadau diweddaraf trwy ebost?
Helpwch i Sicrhau Dyfodol gyda Choedwigoedd!
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru £50,000 arall ar gyfer Cenedl y Wampís yn dilyn y cyfarfod, er mwyn parhau i gefnogi’r gwaith o adeiladu cychod sy’n cael eu pweru gan yr haul.
Yn ystod eu hamser yng Nghymru, fe wnaeth yr arweinwyr Brodorol hyn gyfarfod â Llywodraeth Cymru, Aelodau’r Senedd, a phobl ifanc o bob cwr o’r wlad. Bydd eu trafodaethau’n canolbwyntio ar waith hanfodol y Wampís i ddiogelu coedwig law yr Amazon, ac yn archwilio sut y gall cenhedloedd fel Cymru gefnogi mentrau hinsawdd dan arweiniad pobl Frodorol.
Wrth i’r argyfwng hinsawdd waethygu, mae’r ymweliad yn tynnu sylw at sut y gall cenhedloedd llai, fel Cymru, gyfrannu at weithredu byd-eang ystyrlon. Mae eu hymweliad yn cyd-fynd ag Uwchgynhadledd COP29 y Cenhedloedd Unedig yn Azerbaijan hefyd, sydd yn ychwanegu brys pellach at eu neges.
Mae arweinwyr y Wampís yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn annog cronfeydd pensiwn sector cyhoeddus Cymru i ddatblygu polisïau sy’n sicrhau bod buddsoddiadau yn rhydd o danwyddau ffosil a datgoedwigo. Rydym hefyd yn galw ar Lywodraeth y DU i gyflwyno Deddf Busnes, Hawliau Dynol a’r Amgylchedd (BHREA) i ddiogelu hawliau dynol a’r amgylchedd, ac i sicrhau bod cwmnïau a sectorau cyhoeddus yn atal, cyfeirio, ac yn datrys niwed o fewn cadwyni cyflenwi domestig a byd-eang.
Mae Cenedl y Wampís yn gorchuddio 1.3 miliwn hectar, mwy na hanner maint Cymru, ond nid yw mwy na dwy ran o dair o diriogaeth y Wampís wedi’i diogelu’n gyfreithiol gan Wladwriaeth Periw. Mae hyn yn gadael llawer o’u tiriogaeth hynafol yn agored i gael eu dinistrio, trwy gyfrwng torri coed yn anghyfreithlon, mwyngloddio aur a chwilio am olew.
Mewn ymateb i’r cyhoeddiad am y £50,000 ychwanegol, dywedodd Pamuk Teófilo Kukush Pati,
“Rydym yn ddiolchgar iawn, bydd eich cefnogaeth ariannol yn ein helpu i ariannu mwy o gychod llai, a fydd yn helpu i gludo cleifion o’r gymuned i glinigau iechyd bach, fel y gallant dderbyn triniaeth.”
“Mae hon yn foment bwerus i Gymru, ac yn croesawu arweinwyr brodorol sydd wedi teithio o galon yr Amazon i rannu eu gwybodaeth a’u profiad ym maes stiwardiaeth amgylcheddol,” meddai Barbara Davies-Quy, Dirprwy Gyfarwyddwr Maint Cymru.
“Mae eu dewrder a’u hymroddiad i ddiogelu eu tiriogaeth yn ysbrydoledig, ac mae eu profiadau yn atgof pwerus o’r hyn y gellir ei gyflawni pan fyddwn yn sefyll gyda’n gilydd ar draws cenhedloedd.”
Yn 2021, mynychodd Maint Cymru a Chenedl y Wampís ddigwyddiad COP26 yn Glasgow, lle gwnaethant gyfarfod â’r cyn Weinidog Newid Hinsawdd, Julie James ac eto, yn y digwyddiad COP Bioamrywiaeth ym Montreal yn 2022. Drwy’r trafodaethau hyn, mae Llywodraeth Cymru, drwy Maint Cymru, wedi dyrannu cyllid i gefnogi nod y Wampís o symud at ddefnyddio ynni adnewyddadwy 100%. Mae’r cyllid hwn wedi galluogi’r Wampís i adeiladu cwch sy’n cael ei bweru gan yr haul- y cyntaf o’i fath ym Mheriw – a’u cefnogi i fonitro eu tiriogaeth ar gyfer gweithgareddau anghyfreithlon a chael mynediad at wasanaethau hanfodol fel gofal iechyd ac addysg.
Mewn ymateb i’r cyhoeddiad am y £50,000 ychwanegol, dywedodd Pamuk Teófilo Kukush Pati,
“Rydym yn ddiolchgar iawn, bydd eich cefnogaeth ariannol yn ein helpu i ariannu mwy o gychod llai, a fydd yn helpu i gludo cleifion o’r gymuned i glinigau iechyd bach, fel y gallant dderbyn triniaeth.”
Meddai Huw Irranca-Davies, Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig,
“Mae wedi bod yn bleser croesawu Teófilo Kukush Pati a Tsanim Wajai Asamat i Gymru. Rydym yn gwybod bod pobl Frodorol ar draws y byd yn cael eu taro’n anghymesur gan effeithiau newid hinsawdd, ond mae clywed hyn wyneb yn wyneb yn bwerus dros ben, a dim ond yn ychwanegu at ein hymrwymiad yng Nghymru i gefnogi gwaith Pobl Frodorol.
Os ydym o ddifrif am fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, mae’n rhaid i ni weithio ar draws ffiniau rhyngwladol. Mae Pobl Frodorol eisoes yn addasu i effeithiau hinsawdd sy’n newid, a gall pob un ohonom ddysgu o’r ffordd maen nhw’n gofalu am eu hadnoddau naturiol a’n eu gwerthfawrogi. Ni allwn gymryd hynny’n ganiataol, a rhaid i ni ddangos ein cefnogaeth a gweithio gyda’n gilydd i gyrraedd ein nodau o greu byd mwy cynaliadwy a thecach.”
Fe wnaeth y Wampís gyfarfod gyda Phwyllgorau’r Senedd hefyd oedd yn gyfrifol am newid hinsawdd a chysylltiadau rhyngwladol, ac fe wnaethant drefnu dwy gynhadledd newid hinsawdd ieuenctid, YouthCOP Cymru, yng Nghaerdydd a Wrecsam. Roedd y digwyddiadau hyn yn caniatáu i bobl ifanc ar draws Cymru rannu eu syniadau eu hunain ar weithredu ar yr hinsawdd yn uniongyrchol gyda llunwyr polisi.
Ychwanegodd Julie James, y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflenwi,
“Rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i gwrdd ag aelodau o Genedl y Wampís mewn digwyddiadau COP blaenorol, ac rwyf wrth fy modd eu bod wedi gwneud y daith yma i Gymru. Mae eu stori, eu hysbryd a’u hymrwymiad diwyro i ddiogelu eu tiriogaeth, wedi cyffwrdd fy nghalon bob tro.
Bydd yr hyn a wnawn nawr i fynd i’r afael ag achosion newid hinsawdd yn diffinio beth sy’n digwydd nesaf. Mae’r gwaith sydd yn cael ei wneud gan y Wampís a Phobl Frodorol eraill yn ei wneud yn hanfodol, ac mae’n rhaid i ni gydnabod eu rôl ar frys. Rwy’n falch bod Llywodraeth Cymru yn cyfrannu at y gwaith sydd yn cael ei wneud gan y Wampís, a byddwn yn parhau i adeiladu ar y berthynas hon wrth symud ymlaen.”
Cyfrannwch heddiw i sicrhau dyfydol gyda choedwigoedd