Ym mis Tachwedd 2024, achosodd glaw trwm dirlithriadau yn is-sir Buluganya, Ardal Bulambuli, a arweiniodd at fyw na 1,000 o bobl yn cael eu dadleoli, ac at golli o leiaf 38 o fywydau. Dinistriodd y tirlithriadau, a gafodd eu gwaethygu gan newid hinsawdd a glaw trwm, gartrefi, tir fferm a bywoliaethau.
Yn ôl Llywodraeth Leol Rhanbarth Bulambuli, effeithiwyd ar oddeutu 2,000 o bobl yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, gyda 100 o unigolion yn cael eu nodi fel rhai sy’n agored i niwed difrifol. Cafodd menywod a phlant eu heffeithio, gyda llawer yn colli eu heiddo ac yn wynebu heriau yn ymwneud ag urddas. Collodd llawer dir fferm ffrwythlon hefyd ar gyfer tyfu coffi.
Fe wnaeth y goroeswyr adleoli i Wersyll Ailsefydlu Bunambutye, yn wynebu caledi sylweddol, gan gynnwys diffyg cyflenwadau hanfodol ac amodau byw annigonol. Mewn ymateb, cyfrannodd Llywodraeth Cymru, trwy bartner Maint Cymru, Menter Tyfu Coed Mount Elgon (METGE), £11,000 trwy gyfrwng cronfa gymorth i gefnogi’r cymunedau yr effeithiwyd arnynt. Y nod oedd ateb anghenion uniongyrchol y goroeswyr.
Gweithiodd METGE a’r partneriaid gweithredu, BRDC a MEACCE, gyda’i gilydd i ddarparu eitemau hanfodol i’r goroeswyr yng Ngwersyll Ailsefydlu Bunambutye, trwy gymorth Llywodraeth Cymru. Roedd yr eitemau hyn yn cynnwys; blancedi a matiau, sebon, olew coginio, cartonau o laeth, reis a phadiau misglwyf y gellir eu hailddefnyddio.
Mynegodd Cyfarwyddwr Gweithredol METGE, Mr. George Micheal Sikoyo, ei ddiolch i Lywodraeth Cymru am eu hymyrraeth amserol:
“Hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru a phobl Cymru am eu cefnogaeth hael i ddioddefwyr y tirlithriadau dinistriol hyn. Rydym eisiau grymuso cymunedau i addasu i’r hinsawdd sy’n newid.”
Yn ogystal â darparu cymorth brys, mae METGE wedi ymrwymo i fynd i’r afael â’r heriau hirdymor sy’n wynebu’r rhanbarth. Bydd hyn trwy fentrau tyfu coed i gynyddu gorchudd coed yn rhanbarth Mynydd Elgon, yn ogystal â gwella cadwraeth pridd a dŵr. Mae Meithrinfa Bunambutye, un o feithrinfeydd coed cymunedol METGE, yn cynhyrchu 90,000 o eginblanhigion coed bob blwyddyn i gefnogi ymdrechion ailgoedwigo yn yr ardal ailsefydlu.
Mae’r rhoddion wedi darparu cefnogaeth hanfodol i’r goroeswyr ar adeg dyngedfennol.
Mynegodd Namataka Jessica, a gollodd ei gŵr yn ystod y tirlithriad, yr effaith ddwys mae’r drasiedi wedi’i chael ar y gymuned:
“Pan darodd y tirlithriad, fe laddodd fy ngŵr, a dinistrio ein cartrefi, ein bywoliaethau a’r breuddwydion roedd gennym i’n teuluoedd hefyd. Roedd yn foment o anobaith i bawb yn ein cymuned, heb unrhyw lwybr clir ymlaen. Rydym eisiau diolch i Lywodraeth Cymru a METGE am eu cymorth a’u cefnogaeth. Mae eich ymyrraeth yn llinell bywyd i ni. Mae wedi ein helpu i godi o’r lludw, ac wedi darparu bwyd a lloches a’r anogaeth oedd eu hangen arnom i ailadeiladu. Mae eich haelioni wedi dangos i ni, hyd yn oed yn yr amseroedd mwyaf heriol, bod yna bobl sy’n poeni’n fawr am les pobl eraill. Rydym yn ddiolchgar dros ben am eich ymrwymiad i helpu cymunedau agored i niwed fel ein un ni. Mae eich caredigrwydd wedi cael effaith barhaol, a byddwn yn trysori’r gobaith rydych chi wedi’i ddod i’n bywydau am byth. Diolch am fod yn esiampl go iawn o dosturi yn ystod ein cyfnod o angen.”