Ymunwch â'r gymuned
Eisiau clywed am ein prosiectau, ymgyrchoedd a digwyddiadau diweddaraf trwy ebost?
Helpwch i Sicrhau Dyfodol gyda Choedwigoedd!
Gyda chymorth Maint Cymru, Cyngor Sir Fynwy, Sefydliad y Co-op, a’r ‘Cookalong Clwb’, mae disgyblion o bedair ysgol yn Sir Fynwy wedi cymryd materion i’w dwylo eu hunain i ailgynllunio cinio ysgol poblogaidd sy’n iach, yn flasus ac sydd ddim yn gysylltiedig â dinistrio coedwigoedd trofannol rhagor.
Mae mynychwyr Gŵyl Fwyd y Fenni eleni yn mynd i gael trêt wrth iddynt gael blas ar y creadigaethau korma hyn. Ond mae’n fwy na blasu’n unig, bydd y myfyrwyr yn cyflwyno eu syniadau i ‘Give Chickpeas a Chance,’ ac yn dangos sut y gall newidiadau syml i’n prydau ysgol gael effaith enfawr ar ein planed, un pryd ar y tro. Bydd yn cael ei gynnal am 2:30 pm, 22 Medi, ar y llwyfan lleol a lleisiol, ar Dir y Castell yn y Fenni – gallwch ôl eich tocyn yma.
Mae cynllun peilot ymgyrch arloesol gan yr elusen Maint Cymru, elusen unigryw sy’n gwneud Cymru’n rhan o’r ateb byd-eang i newid hinsawdd, wedi bod yn gweithio gyda’r gymuned leol i helpu Trefynwy ar ei thaith i fod yn dref dim datgoedwigo.
Hyrwyddwyr Dim Datgoedwigo ydy’r ymgyrch gyntaf o’i math, a’i nod ydy lleihau’r defnydd o gynhyrchion sy’n ysgogi datgoedwigo mewn lleoedd fel Coedwig Law yr Amazon, diolch i gyllid gan Sefydliad y COOP.
Y llynedd, collwyd ardal o goedwig drofannol sy’n cyfateb i ddwywaith maint Cymru i ddatgoedwigo, oherwydd y cynhyrchion a ddefnyddir yma bob dydd. Mae hyn yn ysgogi newid hinsawdd a cholli natur, ac yn arwain at effeithiau cymdeithasol eang ar draws y byd, gan gynnwys llafur plant a cham-drin hawliau Pobl frodorol.
Yn yr ŵyl, bydd enillydd MasterChef, James Nathan, yn blasu ac yn beirniadu’r prydau dim datgoedwigo hyn, ac yn rhoi ei farn ynghylch p’un a ddylem roi cynnig ar ffacbys.
Dywedodd Nichola James, Swyddog Ymgyrch Cymunedau Dim Datgoedwigo Maint Cymru: “Nid yn unig mae’r bwyd yn flasus, ond mae’n pacio neges bwerus. Mae’r arloeswyr ifanc hyn yn ysgogi newid yn Sir Fynwy i sicrhau dyfodol gyda choedwigoedd. Mae’n bryd ehangu’r neges hon ar draws Cymru a thu hwnt.”
Ychwanegodd Lucie Parkin, Cyfarwyddwr Gŵyl AFF: “Am fenter anhygoel dan arweiniad pobl ifanc Sir Fynwy. Rwy’n falch ac yn gyffrous i’w cael nhw i gymryd rhan yng Ngŵyl Fwyd y Fenni ym mis Medi. Pwysigrwydd yr hyn rydym yn ei fwyta a gwybod o ble mae’n dod yw un o brif atyniadau Gŵyl Fwyd y Fenni. Mae’r bobl ifanc hyn yn dangos bod newid yn bosibl. Rydym yn llwyr gefnogi’r genhadaeth i wneud Sir Fynwy y sir dim datgoedwigo gyntaf yn y byd!”
Ymunwch â ni yng Ngŵyl Fwyd y Fenni i weld y cyfuniad ysbrydoledig hwn o greadigrwydd coginio ac actifiaeth amgylcheddol — lle gall pob tamaid helpu i achub coedwigoedd trofannol.
Cyfrannwch heddiw i sicrhau dyfydol gyda choedwigoedd