Mae Maint Cymru yn cydnabod bod hiliaeth sydd yn deillio o Oruchafiaeth Wyn wedi’u gwreiddio’n ddwfn, yn dreiddiol, ac yn faterion cyffredin yn y sector undod byd-eang a’r DU gyfan. I gydnabod hyn – a bod ein tîm a’n bwrdd o Gymru i gyd yn Wyn – mae Maint Cymru wedi dechrau ar ei thaith gwrth-hiliaeth o ddifrif.
Ar draws y DU a thu hwnt, mae pobl wedi deffro o’r diwedd i’r realiti bod angen i ni ddatgymalu’n rhagweithiol y nifer o ffyrdd mae hiliaeth a mathau eraill o ormes yn bodoli ac yn dal i ddigwydd hyd heddiw. Mae Maint Cymru wedi ymrwymo i chwarae rhan ystyrlon wrth greu’r newid hwn.
Yn 2022, fe wnaethom benodi ymgynghorwyr – Leila Usmani o BeDiverse a Fadhili Maghiya o Watch Africa Cymru, i gefnogi’r gwaith hwn, ac i ganolbwyntio ar adolygu ac asesu gweithdrefnau mewnol Maint Cymru (polisïau ac arferion) a materion allgymorth yng Nghymru mewn perthynas â gwrth-hiliaeth, a darparu sesiynau hyfforddiant i’n tîm a’n ymddiriedolwyr. Bydd yr ymgynghorwyr yn rhannu argymhellion i wella’r ffyrdd rydym yn gweithio, gan adlewyrchu arferion gorau a dysgu yn y sector. Bydd hyn yn ein helpu i ddeall ein diffygion a’n meysydd dros newid. Yna, byddwn yn creu cynllun gweithredu i fod yn sefydliad gwrth-hiliaeth a chwblhau Polisi Gwrth-hiliaeth.
O ran gwaith partneriaeth dramor Maint Cymru, rydym wedi adeiladu ymarferion dad-drefedigaethu, cyfiawnder hinsawdd a dull cadwraeth ar sail hawliau i’n Strategaeth Goedwig 5 mlynedd (2020-2025). Mae hyn wedi llywio’r mathau o bartneriaethau a chymunedau rydym yn gweithio gyda nhw wrth symud ymlaen. Rydym wedi ymrwymo hefyd i chwyddo lleisiau a gofynion cymunedau brodorol a lleol ar lefel ryngwladol, sydd ar flaen y gad yn yr hinsawdd, natur, ac argyfyngau datgoedwigo.
Ein set nesaf o flaenoriaethau yw datblygu ffyrdd mwy teg o weithio mewn partneriaeth, gan gyfeirio mwy o gyllid yn uniongyrchol i sefydliadau ar y ddaear, a symud y ffordd rydym yn dyfarnu i’n partneriaid i ffwrdd o’r ymarfer cyffredin presennol sy’n cynnal deinamig o bŵer anghyfartal. Ffordd arall o greu partneriaethau teg yw creu prosiectau sy’n cael eu harwain gan y gymuned. Rydym yn cydnabod nad oes gennym ddealltwriaeth nac arbenigedd llawn o’r hyn sy’n digwydd ar lawr gwlad ac felly, ein bod yn dibynnu ar wybodaeth, profiad byw ac arbenigedd y cymunedau hynny.
Rydym yn cydnabod bod llawer i’w wneud, ac rydym wedi ymrwymo i’r gwaith hwn ac yn croesawu sgyrsiau heriol ac anghyfforddus, yn ystyried ffyrdd newydd o weithio a fydd yn datgymalu systemau gormesol cyfredol, ac yn ymgorffori ymarferion gwrth-hiliol a gwrth-ormesol ym mhopeth a wnawn, yng Nghymru a thramor.
Os ydych chi eisiau unrhyw wybodaeth bellach, cysylltwch â’n Hyrwyddwr Gwrth-hiliaeth a Dad-drefedigaethu, Anna Harris.
Hoffem ddiolch i’r nifer o sefydliadau amrywiol hiliol, awduron, gweithredwyr ac arweinwyr meddwl sydd wedi ein hysbysu a’n hysbrydoli hyd yma. Rydym yn cydnabod bod hwn yn ymrwymiad gydol oes. Byddwn yn rhoi ein dysgu ar waith yn ein gwaith ac yn parhau i rannu’r daith hon gyda chi, ac yn diweddaru’r dudalen hon gyda’n gweithredoedd a’n hymrwymiadau.