Mae grŵp o bobl frodorol ifanc o Genedl y Wampís wedi rhyddhau fideo cerddoriaeth. Mae’r gân yn canolbwyntio ar bwysigrwydd gofalu am yr Amazon, gan rannu’r diwylliant a’r iaith.
Mae’r gân Iña Nunke yn cyfieithu o iaith y Wampís i Ein Tiriogaeth. Fe’i cyfansoddwyd gan 16 o Wampís ifanc yn ystod cyfres o weithdai, diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru, yn dilyn perthynas hirsefydlog rhwng y Wampís a Maint Cymru.
Mae’r bobl ifanc yn perthyn i’r Ysgol Arweinwyr Sharian. Nod yr ysgol hon – sy’n wahanol i addysg a ddarperir gan dalaith Periw – yw cryfhau gallu a hunan-barch arweinwyr ifanc y Wampís a thrwy hynny sicrhau bod eu tiriogaeth a hawliau Cenedl y Wampis yn cael eu hamddiffyn.

Y gweithdai: Rhannodd hynafwr doeth y Wampís, Roman Yankur wybodaeth ei hynafiaid am gerddoriaeth a diwylliant y Wampís

Y gweithdai: Cynhaliodd Búho Teatro Hip Hop (Theatr Hip Hop y Dylluan), a rapiwr y Wampís Eddy H, sesiynau ar gerddoriaeth rap a chynhyrchu fideos
Mae Iña Nunke yn cyfuno cerddoriaeth draddodiadol y Wampís a elwir yn nampet â cherddoriaeth rap sy’n boblogaidd ymhlith ieuenctid y Wampís. Mae’r gân yn cael ei chanu ym mamiaith y Wampís ac wedi ei chyfieithu i Sbaeneg, Saesneg a’r Gymraeg. Mae perthynas glos pobl a’u tir yn cael ei hadlewyrchu mewn ieithoedd brodorol, fel mamiaith y Wampís a’r Gymraeg. Fel yr amlygwyd gan Ddegawd Ieithoedd Brodorol UNESCO, mae gwarchod ieithoedd brodorol yn hanfodol oherwydd bod hyn yn mynd law yn llaw â deall a diogelu ein byd naturiol.
Gwyliwyd y perfformiad cyntaf gan gynulleidfaoedd ledled y byd, gan rannu’r stori am y modd y mae’r Wampís yn amddiffyn eu tiriogaeth a’u coedwigoedd rhag y bygythiadau sy’n eu hwynebu’n rheolaidd, megis mwyngloddio aur yn anghyfreithlon a thorri coed. Nod y gân hefyd yw meithrin cefnogaeth Cenedl y Wampís, a’u hannog i wrthwynebu gweithgareddau anghyfreithlon.
Dywed un o’r penillion:
Amddiffyn ein tiriogaeth gyda nerth
Peidiwch â gadael iddynt ecsbloetio‘r olew
Dewch gyda llawenydd
Dewch gyda Chenedl y Wampis
Rydym yn peryglu ein bywyd wrth amddiffyn ein tiriogaeth
Enillwch y weledigaeth, dewch ’mlaen, sefwch i fyny dewch ’mlaen
Yn ystod proses cyfansoddi’r gân, cyfarfu ieuenctid y Wampís hefyd ar-lein ag ymgyrchwyr hinsawdd Cymru, Llysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid, a band uniad Ysgol Uwchradd Fitzalan a greodd gân ar themâu tebyg. Roedd yr holl bobl ifanc a ymgyfrannodd yn teimlo bod y cyfnewid diwylliannol a’r broses ysgrifennu caneuon yn werthfawr.
“Mae’n anhygoel! Er bod y frwydr yn anodd iawn, mae’r neges yn gadarnhaol… pwerus a chadarnhaol” meddai Shenona Mitra, Is-Gadeirydd a Swyddog Cyfathrebu Llysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid a gyfarfu llynedd ag arweinwyr Cenedl y Wampís yn COP26 yn Glasgow.

Cynrychiolydd y Wampis, yr Is-Lywydd Galois Flores yn cwrdd â Julie James, Gweinidog Cymru dros Newid Hinsawdd yn COP 26, Glasgow 2021 (Credyd: Tomos Sion)

Aelodau Llysgenhadaeth Hinsawdd Ieuenctid yn cyfarfod â Pumak (Llywydd) y Wampís, Teofilo Kukush a’r Is-lywydd, Galois Flores yn COP26.
Dywedodd Molly Hucker, aelod arall o’r Llysgenhadaeth Hinsawdd Ieuenctid:
Roedd y fideo cerddoriaeth yn anhygoel; roedd negeseuon am fod yn llais unedig yn erbyn trachwant corfforaethol a chamddefnydd o bŵer yn ennyn teimlad o rym. Mae gwaith y Wampis yn ysbrydoledig, mae negeseuon undod drwyddi draw mor bwysig.
Vicente Sumpa, a student at the School of Sharian Leaders and one of the composers of the song Iña Nunke said:
“We have loved making these musical creations. We want to be able to make more music, perhaps cumbia or reggaeton, carrying the important message of the Wampís Nation about the care of our territory and our fight against the threats of oil, logging and illegal mining.”
Bydd y fideo’n cael ei gyflwyno’n swyddogol i’r cyhoedd rhyngwladol yn ystod Uwchgynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar Amrywiaeth Fiolegol (COP15) a gynhelir ym Montreal, Canada. Mae gan y gân neges bwysig i arweinwyr byd-eang oddi wrth bobl ifanc sydd wedi’u grymuso ac sy’n barod i amddiffyn eu tiroedd er lles pawb ar y blaned hon
Gallwch wylio’r fideo drwy’r ddolen isod; cofiwch ddefnyddio’r isdeitlau. Mae hefyd ar gael i’w lawrlwytho am ddim ar Soundcloud.