Ymunwch â’n digwyddiad panel ar-lein, i lansio ymgyrch newydd ar sut y gall Cymru ddod yn Genedl Dim Datgoedwigo gyntaf y byd.
Ymunwch â'r gymuned
Eisiau clywed am ein prosiectau, ymgyrchoedd a digwyddiadau diweddaraf trwy ebost?
Helpwch i Sicrhau Dyfodol gyda Choedwigoedd!
Ymunwch â’n digwyddiad panel ar-lein, i lansio ymgyrch newydd ar sut y gall Cymru ddod yn Genedl Dim Datgoedwigo gyntaf y byd.
Mae Cymru ar groesffordd hollbwysig yn ei hanes, ac mae angen iddi fynd i’r afael â nifer o argyfyngau – adferiad COVID-19 a’r argyfwng hinsawdd a natur. Mae Maint Cymru, gyda chefnogaeth RSPB Cymru a WWF Cymru, yn lansio ymgyrch uchelgeisiol yn galw ar Gymru i ddod y Genedl Dim Datgoedwigo gyntaf i ymateb i’r argyfyngau hyn.
Cofrestrwch yma i fod yn rhan o lansiad ar-lein yr ymgyrch, ac i glywed pa gamau y gall Cymru a Llywodraeth Cymru eu cymryd i ddileu datgoedwigo a fewnforiwyd o’i chadwyn cyflenwi, a lleihau ei hôl troed carbon dramor, drwy ei pholisïau bwyd, amaethyddol, caffael, masnach a chysylltiadau rhyngwladol a chyllid.
Dyddiad ac amser:
Dydd Llun, 23 Tachwedd 2020,10:00 – 11:15 YB GMT
Siaradwyr:
Peter Davies – Cadeirydd, Maint Cymru
Rhys Evans – Swyddog Polisi, RSPB Cymru
Barbara Davies-Quy – Pennaeth Rhaglenni, Maint Cymru
Shea Buckland-Jones – Rheolwr Polisi Bwyd, Defnydd Tir a Natur, WWF-Cymru
Nia Higginbotham – Cymru Masnach Deg
Cyfrannwch heddiw i sicrhau dyfydol gyda choedwigoedd