Mae cadw gwenyn yn chwarae rôl hanfodol mewn ardaloedd trofannol, trwy gefnogi natur a bywoliaethau pobl. Mae gwenyn yn helpu i beillio planhigion a chnydau, cadw coedwigoedd yn iach ac yn helpu ffrwythau, llysiau a chnau i dyfu. Mae hyn yn arbennig o bwysig yn yr ardaloedd trofannol, gan fod llawer o fywyd planhigion ac anifeiliaid yn dibynnu ar beillio. I gymunedau lleol, mae cadw gwenyn yn cynnig ffordd rad o wneud incwm trwy gynhyrchion fel mêl a chŵyr gwenyn. Mae hefyd yn helpu ffermwyr i dyfu mwy o fwyd, ac mae’n gallu darparu incwm rheolaidd, hyd yn oed yn ystod cyfnodau anodd fel sychder.
Mae partner Maint Cymru, Menter Tyfu Coed Mount Elgon (METGE), yn cefnogi cymunedau i ddechrau cadw gwenyn a sefydlodd y fenter, sy’n rhan o’r prosiect Hyrwyddo Cydraddoldeb Rhywedd er Budd Cadernid ac Ymaddasu i’r Hinsawdd, sydd yn cael ei ariannu gan CGGC a Llywodraeth Cymru, trwy weithio gyda dau grŵp (Butta Environmental Energy Integrated Association a Namawanga Initiatives). Cafodd y rheiny a gymerodd ran yn y prosiect hyfforddiant ar bynciau cyflwyniadol i gadw gwenyn. Roedd y rhain yn cynnwys bioleg gwenyn, offer cadw gwenyn sylfaenol, dewis gwenynfa ac archwilio nythfeydd. Fe wnaeth METGE ddosbarthu offer cadw gwenyn hanfodol hefyd i’r ddau grŵp lleol, fel cychod gwenyn, bocsys dal gwenyn, siwtiau gwenyn ac offer.
Mae’r cychod gwenyn wedi cael eu lleoli a’u coloneiddio’n gyflym diolch i gefnogaeth dechnegol gan METGE, sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn mewn defnyddio lemonwellt i ddenu gwenyn, cadw eu gwenynfeydd yn lân, a rhoi cychod mewn ardaloedd cynnes, isel. Gyda’i gilydd, cafodd cyfanswm o 60 o aelodau eu cefnogi (48 o fenywod a 12 o ddynion) yn y ddau grŵp cadw gwenyn. Fe wnaeth 37 allan o’r 40 o gychod gwenyn goloneiddio, (77%) a chasglwyd 15kgs o fêl.