Mae hi’n Ddiwrnod Radio’r Byd ar ddydd Llun, 13 Chwefror.
Radio yw’r cyfryngau mwyaf fforddiadwy a hygyrch yn y de byd-eang: mae’n cael ei ymddiried ynddo, yn gynhwysol ac mae ganddo gyrhaeddiad cyflym, eang. Mae ein partner yn Uganda, Mount Elgon Tree Enterprise (METGE) wedi bod yn treialu’r dull arloesol Farmers’ Voice Radio, sy’n dod â ffermwyr ac arbenigwyr lleol at ei gilydd mewn lleoliadau cymunedol i drafod eu heriau a rhannu gwybodaeth ar y radio ar draws rhanbarth Mount Elgon yn Uganda.
Mae cymunedau ffermio bach yn Uganda o dan bwysau enfawr. Mae tyfu dwys, newid yn yr hinsawdd ac arferion amaethyddol gwael wedi arwain at ddatgoedwigo, tir diraddiedig a chynhyrchiant sy’n lleihau. Yn aml, nid oes ganddynt fynediad at yr wybodaeth sydd ei hangen arnynt i wella eu ffermio na gwerthu eu cynnyrch am bris da, sy’n golygu eu bod yn parhau mewn tlodi a’u bod yn agored iawn i unrhyw argyfwng.
I fynd i’r afael â’r mater hwn, ar ddechrau 2022, aeth METGE gyda chefnogaeth cyllid Llywodraeth Cymru, ati i sefydlu prosiect peilot i ddefnyddio pŵer radio i rannu gwybodaeth a chefnogi ffermwyr i dyfu coed a gwella eu bywoliaeth.
Y cam cyntaf oedd creu dau grŵp gwrandäwr – grŵp o 12 ffermwr oedd yn cynnwys yr un faint o ddynion a menywod, sydd wedi bod yn gweithio gyda METGE ar y prosiect tyfu coed. Fe wnaethon nhw gyfarfod yn fisol i drafod a rhannu gwybodaeth am dyfu coed a’r ffyrdd y gallant addasu i’r heriau newid hinsawdd a fyddai’n blaenoriaethu cydraddoldeb rhyw ar yr un pryd. Roedd y trafodaethau hyn yn cael eu recordio ac yna, yn cael eu gwneud yn rhaglenni radio 30 munud a gafodd eu darlledu ar orsafoedd radio lleol.
Dyma rhai o’r pynciau y gwnaethon nhw eu trafod:
- Sut i dyfu llysiau a chadw gwenyn sy’n ategu gweithgareddau tyfu coed.
- Rhannu ac egluro pwysigrwydd tyfu coed, ac awgrymiadau defnyddiol i godi egin i aeddfedrwydd.
- Manteision amaeth-goedwigaeth – arfer ffermio sy’n tyfu coed o amgylch cnydau a thir pori, sy’n gallu gwella ffrwythlondeb pridd, cynhyrchiant a bioamrywiaeth.
- Sut y gall coed helpu i atal llifogydd.
Fe wnaeth METGE weithio gyda gorsaf radio leol o’r enw Open Gate FM, a ddewiswyd oherwydd bod rhywun yn gwrando arno’n eang yn is-ranbarth Elgon ac am ei fod yn darlledu’n bennaf yn yr iaith lafar leol, Lumasaba. Mae’r sioe “Bisale Nibyo Bulamu” sy’n golygu “Trees are Life” yn cael ei darlledu bob dydd Mercher am 7pm, adeg pan mae’r rhan fwyaf o ffermwyr yn ôl adref yn eu pentrefi, yn hytrach nag yn y cae, ac yn gallu dod at ei gilydd a gwrando. Yna, gall ffermwyr o bob rhan o’r rhanbarth alw i mewn i’r orsaf radio a gofyn cwestiynau i METGE ac arbenigwyr lleol.
Dewiswyd unigolion o’r cymunedau hyn i fod yn Warcheidwaid Radio hefyd. Derbyniodd pob un o’r Gwarcheidwaid radio a hyd yn hyn, mae 54 radio wedi’u dosbarthu. Rôl y Gwarcheidwad Radio ydy dod a ffermwyr at ei gilydd yn eu cymuned a thiwnio mewn i’r rhaglen radio ar nosweithiau Mercher. Mae hyn yn sicrhau bod y cynnwys yn cael ei rannu’n helaeth yn y gymuned, ac mae hefyd yn gyfle i ffermwyr ddod at ei gilydd gyda ffermwyr cyfagos a thrafod, dysgu a rhannu yn anffurfiol yn ystod y sesiynau hyn.
Mae’r rhaglenni radio wedi rhoi hwb i gyhoeddusrwydd am y prosiect tyfu coed ac erbyn hyn, mae mwy o bobl yn dod i gasglu egin am ddim. Mae hyn yn bwysig i ranbarth sydd wedi’i datgoedwigo’n drwm fel Mount Elgon. Roedd yn bwysig iawn hefyd, bod ffermwyr yn rhannu gwybodaeth am sut y gall coed atal llifogydd mewn ymateb i lifogydd diweddar yn y rhanbarth. Ar ôl i’r sioe gael ei darlledu, cynyddodd casgliadau egin mewn meithrinfeydd yn yr ardal yr effeithiwyd arno, gan roi hwb i orchudd coed a lleihau’r risgiau o lifogydd yn y dyfodol.
Diolch i wrando ar awgrymiadau a chyngor defnyddiol yn uniongyrchol gan ffermwyr eu hunain, mae cymunedau yn copïo arferion gorau erbyn hyn. Mae hyn yn golygu bod y rhaglen tyfu coed sydd bellach yn fwy poblogaidd nag erioed yn rhedeg yn fwy effeithiol hefyd, gyda chyfraddau goroesi gwell ac arferion bywoliaeth mwy integredig fel cadw gwenyn ac amaeth-goedwigaeth. A’r gorau oll, mae’r dysgu hwn yn cael ei drosglwyddo o un aelod o’r gymuned i’r llall.
Ms Asha Musuya yn siarad ar fudd plannu coed yn ystod un o’r darllediadau radio:
“Mae coeden yn bwysig iawn; cafodd y coed hynny oedd wedi egino ac aeddfedu’n naturiol i goed mawr eu diwreiddio a’u symud i lefydd eraill er mwyn creu lle i ambell un i dyfu’n dda. Cofiwch, mae coed yn ein helpu i dewychu ein pridd, ac yn gweithredu fel torwyr gwynt i atal ein heiddo rhag cael eu torri gan wynt. Rydyn ni hefyd yn cael coed tân o’r coed yma, pren a phethau rydym yn bwydo arnyn nhw, fel mangos a jacffrwythau, ymysg eraill.”
Gallwch roi arian yma i gefnogi gwaith METGE ym Mbale gyda chymunedau i dyfu miliynau o goeden ac adeiladu bywoliaethau cynaliadwy.