Mae Maint Cymru a WWF Cymru yn galw am weithredu ar frys gan Lywodraethau’r DU a Chymru yn dilyn cyhoeddi Asesiad Diogelwch Cenedlaethol Llywodraeth y DU, sy’n rhybuddio bod colli bioamrywiaeth byd-eang a chwymp ecosystemau yn fygythiad difrifol ac sy’n cynyddu i ddiogelwch cenedlaethol, cyflenwad bwyd a sefydlogrwydd economaidd.
Mae’r asesiad yn nodi’n glir nad yw dinistrio ecosystemau hanfodol, megis coedwigoedd trofannol fel yr Amazon, bellach yn fater amgylcheddol yn unig, ond yn risg uniongyrchol i ddiogelwch bwyd, cadwyni cyflenwi, sefydlogrwydd byd-eang a lles y cyhoedd.
Er gwaethaf y rhybudd hwn, mae Cymru a’r DU yn parhau i fewnforio nwyddau sy’n gysylltiedig â datgoedwigo drwy gadwyni cyflenwi bwyd ac amaeth, yn enwedig soi a ddefnyddir fel bwyd anifeiliaid, yn ogystal â thrwy lifoedd ariannol megis pensiynau a buddsoddiadau. Mae hyn yn golygu bod arferion presennol yn groes i ymrwymiad Glasgow a wnaed yn COP26 i atal a gwrthdroi datgoedwigo erbyn 2030.
“Rhybudd clir – ond rhaid i weithredu ddilyn”
“Mae’r adroddiad hwn yn ein hatgoffa’n bendant bod colli bioamrywiaeth a chwymp ecosystemau byd-eang eisoes yn effeithio ar ein diogelwch, ein systemau bwyd a’n heconomïau,” meddai Barbara Davies Quy, Dirprwy Gyfarwyddwr Size of Wales.
“Rwyf wedi gweld â’m llygaid fy hun ddinistr Coedwig yr Iwerydd, cartref pobl frodolrol y Guarani ym Mrasil, lle mae ardaloedd helaeth o goedwig drofannol gyfoethog wedi’u clirio ar gyfer cynhyrchu soi monocnwd. Pan gaiff coedwigoedd eu dinistrio fel hyn, mae’n niweidio Pobloedd Brodorol, yn cyflymu newid hinsawdd, ac yn y pen draw yn bwydo’n ôl i’r risgiau rydym yn eu hwynebu yma yng Nghymru – o ansicrwydd bwyd i lifogydd.”
Mae Maint Cymru a WWF Cymru yn dweud bod canfyddiadau’r adroddiad yn atgyfnerthu’r angen am ymgyrch #CenedlHebDdatgoedwigo, sy’n galw ar Gymru i fod y genedl gyntaf yn y byd i ddileu datgoedwigo o’i hôl troed fyd-eang.
Mae Shea Buckland Jones, Pennaeth Polisi ac Eiriolaeth WWF Cymru, yn egluro:
“Mae Cymru’n mewnforio soi risg uchel, yn enwedig ar gyfer bwyd anifeiliaid, sy’n tanio datgoedwigo rhyngwladol. Defnyddir symiau mawr o soi yn arbennig mewn ffermio llaeth a dofednod dwys. Mae soi yn cynnwys lefelau uchel o ffosfforws, sy’n cael ei ysgarthu fel tail llawn maetholion. Pan gaiff y tail hwn ei wasgaru ar dir amaethyddol, mae glaw yn golchi ffosfforws gormodol i afonydd a dŵr daear.”
“Mae’r enghraifft hon o gysylltiad uniongyrchol rhwng datgoedwigo dramor a llygredd dŵr croyw yng Nghymru yn dangos sut mae patrymau defnydd yng Nghymru nid yn unig yn cyfrannu at ddatgoedwigo, difrod amgylcheddol a cham-drin hawliau dynol dramor, ond hefyd yn cyfrannu’n sylweddol at y llygredd sy’n tagu ein hafonydd ni gartref.”
GALWADAU AR LYWODRAETH Y DU
Mae Maint Cymru a WWF Cymru yn galw ar Lywodraeth y DU i:
- Gyflwyno deddfwriaeth eilaidd ar frys o dan Ddeddf yr Amgylchedd i gryfhau rheolau diwydrwydd dyladwy ar nwyddau sy’n gysylltiedig â datgoedwigo.
- Cau bylchau sy’n caniatáu i ddatgoedwigo a cham-drin hawliau dynol barhau drwy gadwyni cyflenwi cymhleth.
- Trin datgoedwigo a fewnforir fel risg strategol i ddiogelwch cenedlaethol, nid fel mater cynaliadwyedd gwirfoddol.
GALWADAU AR LYWODRAETH CYMRU
- Gwneud caffael bwyd cyhoeddus yn rhydd o ddatgoedwigo erbyn 2030, gan gynnwys mynd i’r afael â soi sydd wedi’i ymgorffori mewn cadwyni cyflenwi cig a llaeth.
- Alinio polisïau bwyd ac amaeth â hymrwymiadau Cymru ar hinsawdd, natur a chyfrifoldeb byd-eang.
- Sicrhau nad yw pensiynau a buddsoddiadau’r sector cyhoeddus yn gyrru datgoedwigo na dinistr ecosystemau dramor.
“Mae gan Gymru gyfle gwirioneddol i arwain,” ychwanegodd Barbara Davies Quy. “Drwy fynd i’r afael â datgoedwigo sy’n gysylltiedig â bwyd, amaeth a chyllid, gallwn ddiogelu coedwigoedd a Phobloedd Brodorol dramor, tra’n diogelu ein hafonydd, ein systemau bwyd a’n dyfodol yma yng Nghymru.”