Mae Irene yn Hyrwyddwr Rhywedd ar gyfer prosiect sy’n gweithio gydag aelodau’r gymuned ym mhentref Lukuma, Ardal Manafwa yn Nwyrain Uganda. Nod y prosiect yw sicrhau bod y rhaglen tyfu coed yn integreiddio ymagwedd sy’n gynhwysol o ran rhywedd, a sicrhau bod menywod yn fwy presennol ac yn allweddol wrth wneud penderfyniadau sy’n effeithio ar ddyfodol eu cymunedau.
Mae’r prosiect cydraddoldeb rhywedd newydd hwn yn derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru, ac wedi cael ei sefydlu gan Maint Cymru mewn partneriaeth â’n partner lleol, METGE (Mount Elgon Tree Growing Enterprise) fel rhan o Raglen Plannu Coed Mbale, dan reolaeth CGGC.

Irene gyda’i phump o blant, Marvin, Fambula, Faith Rebecca, Proscovia a Susan
Fy enw i yw Irene Nabulobi a dwi’n byw ym mhentref Lukuma, Butta Sub County, Uganda. Mae gen i ŵr a phump o blant – un mab 14 oed a phedair merch 13, 9, 7 a 6 oed. Dwi’n athrawes, a phan dwi ddim yn yr ysgol, dwi’n ffermio’r tir.
Dwi’n deffro am 6am, gan fod yr ysgol rwy’n gweithio ynddi yn bell i ffwrdd. Dwi’n tyfu matoke, india-corn a chnau daear (g nuts), tatws melys a llysiau. Pan dwi ar y fferm, dwi’n chwynnu, plannu a gofalu am yr anifeiliaid. Dwi’n torri’r glaswellt a’r Calliandra i lawr ar gyfer yr anifeiliaid hefyd. Mae gen i fuwch, pum gafr, 25 iâr ac un mochyn.
Mae fy mhlant i gyd yn mynd i’r ysgol. Mae’r rhai iau yn mynd i’r ysgol ddydd ac mae’n cymryd 30 munud i gerdded yno. Mae’r tri hynaf yn mynd i’r ysgol breswyl yn yr is-sir nesaf. Mae’r ffioedd ysgol yn ddrud iawn. Ar ben hynny, mae’n rhaid i mi dalu am y wisg ysgol a’r llyfrau.
Plannu coed
Dechreuais fod yn rhan o waith METGE yn 2023, pan wnes i helpu yn y feithrinfa newydd yn Butta. Fe wnes i helpu i botio eginblanhigion. Hwn oedd y tro cyntaf i mi gasglu’r hadau. Yn gyntaf, mae’n rhaid i chi gymysgu’r pridd â thail, yna llenwi’r bagiau potio ac yna, rydych chi’n rhoi’r hadau sydd wedi egino i mewn. Gelwir hyn yn pricio.
Mae tyfu coed yn bwysig, oherwydd mae’n un o’r ffyrdd o liniaru newid hinsawdd a lleihau nifer y coed sy’n cael eu torri i lawr ar gyfer coed tân. Mae coed yn darparu bwyd ar gyfer anifeiliaid hefyd, ac maent yn helpu i reoli erydiad pridd.
Dwi wedi plannu coed ar fy nhir – tua 500 i gyd. Dwi wedi plannu coed Calliandra, bathdavia, grevilia, afocado a mango.
Hyrwyddo cydraddoldeb rhywedd er budd cadernid ac ymaddasu i’r hinsawdd
Hyrwyddo rhywedd: Roeddwn i’n rhan o’r hyfforddiant ar rolau rhywedd, ac rwy’n hyrwyddwr rhywedd. Fe wnes i’r hyfforddiant arweinyddiaeth, a dysgais am gydraddoldeb rhywedd a sut y dylai fy ngŵr fy nhrin a sut y dylswn i ei drin o. Dysgais hefyd am drais ar sail rhywedd ac am rymuso menywod a gwneud penderfyniadau. O’r blaen, roeddwn i’n meddwl mai rôl y dyn yw darparu ar gyfer popeth, a buaswn bron â marw eisiau bwyd weithiau. Diolch i’r sesiynau hyfforddi, dwi wedi dysgu fy mod i’n gallu gwneud pethau i fi fy hun a nawr, dwi’n gallu talu ffioedd ysgol ar gyfer fy mhlant a chael rhywfaint o dir i dyfu llysiau.
Fel hyrwyddwr rhywedd, mae gen i rôl i rannu’r hyn rydw i wedi’i ddysgu gyda’r gymuned. Dwi ddim wedi derbyn yr wybodaeth, a pheidio gwneud dim gyda’r wybodaeth honno. Dwi wedi rhannu’r wybodaeth gyda phobl eraill. Pan fydd gan ŵr a gwraig broblem, dwi wedi ymyrryd i helpu i leihau gwrthdaro.
Cynilion: Dwi hefyd yn ysgrifennydd VSLA (Village Savings and Loans Association) ar gyfer fy ngrŵp. Mae gennym 30 o aelodau – 27 o ferched a thri dyn. Sefydlwyd fy nhîm diolch i METGE. Rydym wedi dysgu sut i sefydlu grŵp. Fe wnaethom ddechrau cynilo 2,000UGX (44c) yr un ond nawr, rydym yn cynilo 10,000 UGX (£2.20) yr un ddwywaith y mis (ar y 15fed a’r 30ain o’r mis). Mae gennym gronfa gymdeithasol hefyd, lle rydym yn cynilo 1,000 UGX yr un (22c). Mae’r gronfa gymdeithasol yn cael ei defnyddio ar gyfer salwch neu argyfwng. Gallwn gael gafael ar arian heb log. Dwi wedi defnyddio’r gronfa honno i brynu llyfrau ar gyfer fy mhlant.
Dwi wedi defnyddio’r brif gronfa i dalu am ffioedd ysgol. Fe wnes i dalu’r arian yn ôl mewn dau randaliad. Fe wnes i fenthyg 150,000 UGX (£33), a thalais 165,000 UGX (£36) yn ôl mewn dau randaliad. Mae hyn yn cynnwys llog o 10%.
Stofiau lorena: Dwi’n un o’r 30 o ferched sydd wedi’u hyfforddi i wneud stofiau lorena. Rwy’n gwybod sut i’w gwneud nhw nawr, ac mae’n cymryd tuag awr, a gallaf eu hadeiladu ar fy mhen fy hun. Dwi wedi gwneud un ar gyfer fy mam-yng-nghyfraith a hefyd, wedi adeiladu un ychwanegol i mi fy hun.

Irene gyda stofiau lorena
Dwi’n defnyddio’r stofiau oherwydd eu bod yn arbed coed tân o’i gymharu â’r dull tair carreg. Hefyd, does dim mwg, a dydy fy mhlant ddim yn cael unrhyw ddamweiniau. Mae hefyd wedi lleihau salwch oherwydd nawr, dwi ddim yn pesychu a does dim dagrau.
Nawr, dwi angen tri darn o goed tân i wresogi’r stôf ac mae’n aros yn gynnes tan y bore wedyn. O’r blaen, roeddwn i angen 10 darn. Buaswn i’n prynu coed tân o’r blaen ac yn talu 2,000 UGX (44c). Nawr, oherwydd bod gen i Calliandra, does dim angen i mi brynu coed tân
Arferion rheoli tir cynaliadwy: Dwi wedi dysgu sut i gloddio ffosydd ac i atal pridd rhag erydu, ac i wella ffrwythlondeb pridd a rheoli’r dŵr. Yr wythnos ddiwethaf, pan roedd lot o law, doedd gen i ddim dŵr ffo, ac roedd y ffosydd yn casglu’r dŵr. Roedd gan bobl eraill yn fy nghymuned, oedd heb ffosydd, lawer o ddŵr yn eu plotiau fferm, a chafodd planhigion eu golchi i ffwrdd ac aeth dŵr i’w cartrefi.
Cefais hadau hefyd i dyfu planhigion wy, bresych deiliog a sbigoglys. Dwi’n cael llawer o gwsmeriaid i werthu iddynt. Buaswn yn cael 10,000 UGX (£2.20) am bowlen o blanhigion wy. Dwi ddim yn siŵr faint ‘dwi wedi’u gwerthu.
Cyn hynny, dim ond tomatos oedd gen i, a byddai’n rhaid i mi brynu llysiau yn y farchnad sy’n ddrud iawn ond nawr, does dim angen i mi eu prynu. Nawr, dim ond cig sydd angen i mi ei brynu.

Irene gyda pheth o’i chynnyrch
Newidiadau yn ei bywyd: O’r blaen, buaswn yn ffraeo bob dydd gyda fy ngŵr. Mae hefyd wedi cymryd rhan yn y prosiect, ac roedd yn rhan o’r hyfforddiant. Diolch i’r sesiynau hyfforddi, dydyn ni ddim yn ffraeo bellach, a does dim angen i mi ofyn iddo am arian mwyach. Os oes angen unrhyw beth arnaf, gallaf fynd i’r VSLA.
Cyn i mi gael swydd Ysgrifennydd ein grŵp, roeddwn i’n swil iawn. Mae wedi fy ngorfodi i siarad, a phan dydy’r cadeirydd ddim yno, dwi’n arwain y cyfarfodydd.

Irene gyda’i gŵr Simon