Ymunwch â'r gymuned
Eisiau clywed am ein prosiectau, ymgyrchoedd a digwyddiadau diweddaraf trwy ebost?
Helpwch i Sicrhau Dyfodol gyda Choedwigoedd!
Cawsom ein syfrdanu gan yr ymosodiad treisgar a ddigwyddodd yn Southport yr wythnos ddiwethaf ac rydym wedi ein tristau’n fawr gan lofruddiaeth tair merch fach yn ogystal â’r anafiadau a achoswyd i’r dioddefwyr eraill. Cydymdeimlwn â’r dioddefwyr, eu teuluoedd a’u ffrindiau.
Mae’r ymosodiad trasig yn Southport wedi’i ddefnyddio fel cyfrwng i ysgogi casineb ac i geisio rhannu cymunedau trwy ledaenu gwybodaeth anghywir a chelwydd. Nid yw’r trais, yr hiliaeth ac Islamoffobia y mae hyn wedi’u hachosi yn cynrychioli pwy ydym ni, na barn y mwyafrif helaeth o bobl Cymru.
Nid yw’n iawn fod pobl yn ofni mynd i’r mosg rhag ofn ymosodiad, nid yw’n iawn fod plentyn yn wynebu anfri hiliol gan ei gyfoedion oherwydd lliw eu croen ac nid yw’n iawn fod dyn yn bygwth menyw am wisgo hijab. Mae’r pethau hyn yn digwydd ar strydoedd Cymru. Gallwn wneud yn well na hyn.
Rydym yn sefyll mewn undod â phobl sy’n profi casineb hiliol, Islamoffobia a gwahaniaethu. Rydym yn sefyll yn erbyn ymddygiad a fyddai’n ceisio gwahanu cymydog oddi wrth gymydog neu daflu cysgod arallrwydd ar unrhyw grŵp o bobl.
Mae gan Gymru hanes cryf a balch o groeso, amrywiaeth a chynhwysiant. Os yw Cymru am helpu i fynd i’r afael â’r heriau mawr sy’n ein hwynebu – newid hinsawdd, tŵf anghydraddoldeb economaidd, rhyfel ac anghyfiawnderau eraill – yna mae arnom angen cymdeithas sydd
wedi’i hadeiladu ar garedigrwydd, cysylltiad a pharch.
Gofynnwn i holl bobl Cymru werthfawrogi ein gilydd a chofio bod ein cryfder yn dod o’n didwylledd, ein tosturi a’n parodrwydd i ddod at ein gilydd fel ffrindiau, cymdogion a chydweithwyr – rydyn ni i gyd yn fodau dynol ar yr un blaned hon rydym ni’n ei rhannu waeth beth fo
lliw’r croen, cred grefyddol neu genedligrwydd.
Rydym ni i gyd eisiau byd tecach a mwy heddychlon – dim ond os ydym yn dewis undod dros raniad, urddas dros ddad-ddyneiddio, cariad dros gasineb, caredigrwydd dros greulondeb, y gellir cyflawni hyn.
Wrth i chi gerdded strydoedd Cymru heddiw, byddwch yn garedig, gwenwch, dywedwch helo a chofiwch, ‘mae gennym lawer mwy yn gyffredin na’r hyn sy’n ein rhannu’.
Cyfrannwch heddiw i sicrhau dyfydol gyda choedwigoedd