Ymunwch â'r gymuned
Eisiau clywed am ein prosiectau, ymgyrchoedd a digwyddiadau diweddaraf trwy ebost?
Helpwch i Sicrhau Dyfodol gyda Choedwigoedd!
Dros 2 flynedd yn ôl, mynychodd Maint Cymru uwchgynhadledd hinsawdd COP y Cenhedloedd Unedig yn Glasgow, lle addawodd dros 140 o wledydd i atal a gwrthdroi datgoedwigo erbyn 2030. Mae Llywodraeth Cymru wedi addo lleihau ôl troed datgoedwigo byd-eang Cymru hefyd, a’r gobaith yw y bydd yn cael gwared ar ôl troed datgoedwigo byd-eang Cymru. Wrth i ni agosáu at COP29, pa gynnydd sydd wedi cael ei wneud i sicrhau bod Cymru’n mynd i’r afael â’i hôl troed datgoedwigo byd-eang sydd yn cael ei achosi gan fewnforion Cymreig a buddsoddiadau?
Mae Maint Cymru a Global Canopy wedi lansio adroddiad ar amlygiad pensiwn cyhoeddus Cymru i ddatgoedwigo byd-eang. Yr adroddiad yw’r cyntaf o’i fath yn y DU, ac mae’n archwilio sut mae wyth Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol Cymru, o dan ymbarél Partneriaeth Pensiwn Cymru, yn agored i’r risg o ddatgoedwigo trwy eu gweithgareddau cyllido, fel buddsoddiadau a daliadau. Mae’n datgelu bod bron i £10 biliwn, neu 54% o’r buddsoddiadau sydd wedi’u gwneud gan wyth cronfa pensiwn cyhoeddus Cymru, mewn perygl o gyllido datgoedwigo.
Y gronfa bensiwn sydd â’r gyfran fwyaf o’i chleientiaid/daliadau mewn sectorau risg uchel yw Dyfed, gyda 15% o’i buddsoddiadau mewn cleientiaid/daliadau risg uchel.
Pe bai datgoedwigo yn wlad, hon fyddai’r trydydd allyrrydd nwyon tŷ gwydr uchaf yn y byd. O ystyried bod datgoedwigo’n sbardun hollbwysig mewn newid hinsawdd, ni ellir cyrraedd targedau sero net heb weithredu ar y mater hwn. Mae coedwigoedd yn gartref i 80% o fywyd y byd ar dir, ac maen nhw’n hanfodol i gynnal bioamrywiaeth. Er ein bod yn gweld rhai arwyddion cadarnhaol o gynnydd, yn 2023, dinistriwyd bron i 4 miliwn hectar o goedwig drofannol – ardal bron ddwywaith maint Cymru.
Mae datgoedwigo yn aml yn cael ei ragflaenu neu yn cyd-fynd â cham-drin hawliau dynol hefyd, gan gynnwys bygythiadau a thrais yn erbyn pobl frodorol, coedwigoedd, tir, ac amddiffynwyr hawliau dynol sydd ar reng flaen datgoedwigo. Mae ein partneriaid ym Mrasil, Pobl y Guarani, wedi cael eu dadleoli oddi ar eu tiroedd i wneud lle i blanhigfeydd soia mawr.
Mae hyn wedi cael effaith ddifrifol ar eu bywoliaeth a’u diwylliant, ac mae wedi achosi datgoedwigo dinistriol mewn perthynas yng Nghoedwig yr Iwerydd, bïom byd-eang allweddol. Yn bryderus, mae plaladdwyr sydd wedi’u chwistrellu ar gnydau yn niweidiol i’w hiechyd, gyda llawer yn cael eu hystyried yn wenwynig dros ben neu’n wenwynig iawn, ac yn gysylltiedig â chlefydau cronig fel canser a cham-ffurfio ffetws, ac maen nhw wedi cael eu gwahardd yn yr UE.
Mae’r Guarani yn galw ar Gymru a gwledydd ar draws y byd i weithredu i sicrhau nad ydy buddsoddiadau mewn cronfeydd pensiwn yn arwain at ddinistrio eu cartref yng nghoedwig yr Iwerydd. Mae’n rhaid i ni gredu y gall y byd fod yn wahanol.
Felly, mae cronfeydd pensiwn cyhoeddus Cymru nid yn unig yn agored i’r risg o ddatgoedwigo drwy’r sectorau a’r diwydiannau maen nhw’n buddsoddi ynddynt ond hefyd, i gam-drin hawliau dynol cysylltiedig. O ganlyniad, mae ganddynt allu unigryw i helpu i ysgogi newid, o fewn eu buddsoddiadau eu hunain ac ar draws y sector cyllid yn ehangach.
Mae pensiynau i fod i ddarparu sicrwydd ar gyfer ein dyfodol ond, fel y dengys yr ymchwil, mae eu lefel sylweddol o amlygiad i ddatgoedwigo yn peryglu’r dyfodol. Mae bron i £1 o bob £10 o fuddsoddiadau a wneir gan yr wyth cronfa bensiwn mewn perygl uchel o ariannu datgoedwigo. Mae hyn yn cyfateb i £1.8 biliwn ar draws y bartneriaeth. Mae 44% arall o fuddsoddiadau mewn cleientiaid neu ddaliadau sy’n debygol o ddod i gysylltiad â’r risg o ddatgoedwigo.
Mae’r cronfeydd pensiwn ym Mhartneriaeth Pensiwn Cymru yn cael eu buddsoddi mewn miloedd o gwmnïau ar draws cannoedd o sectorau, gan gynnwys y rhai sy’n brif ysgogwyr datgoedwigo, trawsnewid tir a cham-drin hawliau dynol cysylltiedig. Mae hyn yn cynnwys banciau amrywiol, y sector dillad, fferyllol, bwydydd wedi’u pecynnu a chigoedd, a metelau.
Dylai pensiynau cyhoeddus Cymru weithredu i ddileu datgoedwigo sy’n cael ei achosi gan nwyddau o’u portffolios ariannol. Mae’r Cenhedloedd Unedig wedi datgan bod angen i hyn ddigwydd erbyn 2025 i gyflawni targedau sero net erbyn 2050. Er bod 2025 yn agosáu, mae digon o amser i bensiynau cyhoeddus Cymru arwain y ffordd yn y DU, drwy weithio tuag at ddileu datgoedwigo, trawsnewid tir, a cham-drin hawliau dynol cysylltiedig.
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus, gan gynnwys llywodraeth genedlaethol, llywodraeth leol a byrddau iechyd yng Nghymru, ystyried effaith hirdymor eu penderfyniadau yn ystyrlon, a gweithio tuag at wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.
Mae un o’r saith nod llesiant yn galw am i Gymru fod yn ‘Genedl sy’n Gyfrifol ar Lefel Fyd-eang’. Pwrpas hyn ydy sicrhau bod gan Gymru effeithiau byd-eang cadarnhaol o unrhyw gamau a gymerir yma sy’n ceisio gwella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol y genedl. Er mwyn i ni fod yn genedl sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang, buaswn yn dadlau bod angen i ni edrych ar fuddsoddiadau pensiwn, a sicrhau nad yw £1 o bob £10 o fuddsoddiadau pensiwn cyhoeddus mewn perygl uchel o gyllido datgoedwigo.
Mae’r cyfoeth o ganllawiau a data sydd ar gael yn golygu na fu erioed yn haws i bensiynau weithredu. Un o’r pethau cyntaf y gall cronfa bensiwn ei wneud ydy deall sut y gallent fod yn agored i’r risg o ddatgoedwigo trwy eu gweithgareddau ariannu. O’r fan honno, gallant lunio polisi datgoedwigo cryf, ac ymrwymo i sicrhau y bydd eu buddsoddiadau’n rhydd o ddatgoedwigo, yn ddelfrydol erbyn 2025. Os na wneir cynnydd, a bod angen ailgyfeirio’r cyllid, dylai’r cyllid hwn sydd yn cael ei ailgyfeirio gyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
Fel rhan o daith ein cenedl i fod yn gyfrifol ar lefel fyd-eang, rhaid gwneud y penderfyniadau ariannol cywir i alluogi cenedlaethau’r dyfodol i ffynnu. Rydym eisoes wedi gweld rhywfaint o gamau gweithredu yn barod, gyda chronfa bensiwn Dinas a Sir Abertawe yn sianelu mwy o’i chyfoeth i mewn i fuddsoddiadau gwyrdd, ac yn gobeithio cyrraedd sefyllfa “sero net” erbyn 2037. Mae Partneriaeth Pensiwn Cymru wedi lansio Is-gronfa Ecwiti Gweithredol Cynaliadwy hefyd, sy’n cynnwys targedau sero net penodol ac sy’n eithrio buddsoddiadau mewn olew palmwydd. Ond mae angen cymryd camau pellach i symud buddsoddi i ffwrdd o fod yn gysylltiedig â datgoedwigo – ateb gorau natur i’r argyfwng hinsawdd. Trwy ymgysylltu â’u rheolwyr asedau neu’n uniongyrchol â’u cleientiaid/daliadau, gall cronfeydd pensiwn ei gwneud yn ofynnol i’r cleientiaid/daliadau y maent yn buddsoddi ynddynt wella eu harferion, gyda bygythiad sy’n rhwym o amser o ailgyfeirio cyllid – a sbarduno newid go iawn ar lawr gwlad.
Rwy’n gobeithio, un diwrnod, y gallwn alw ein hunain yn Genedl sy’n Gyfrifol ar Lefel Fyd-eang, lle mae buddsoddiadau’n cyfrannu at ddyfodol cynaliadwy yma ac ar draws y byd, a lle nad yw’r buddsoddiad hwnnw’n peryglu’r dyfodol hwnnw.
Cyfrannwch heddiw i sicrhau dyfydol gyda choedwigoedd