Mae’r actores sydd wedi serennu yng nghyfres ‘Y Golau’ a ‘Iaith ar Daith, S4C’, Joanna Scanlan, newydd ei chyhoeddi’n Llysgennad newydd i Maint Cymru, wrth i’r elusen gyrraedd ei phen-blwydd yn 15 oed.
Yn wreiddiol o ogledd Cymru, mae Joanna Scanlan, a ymddangosodd yn ddiweddar yn y ddrama gan y BBC Riot Women, ac a enillodd BAFTA am ei pherfformiad clodwiw yn After Love, yn angerddol dros gyfiawnder cymdeithasol, cydraddoldeb a chyfrifoldeb amgylcheddol.
Fel Llysgennad, bydd Joanna Scanlan yn cefnogi Maint Cymru yn eu gwaith o gryfhau lleisiau Pobl Frodorol sy’n amddiffyn coedwigoedd trofannol a herio newid hisawdd. Bydd yn eu cefnogi i godi ymwybyddiaeth o effeithiau newid hinsawdd, a chryfhau’r achos dros i Gymru barhau i gymryd cyfrifoldeb am ei hôl troed amgylcheddol y tu hwnt i’w ffiniau.Mae Maint Cymru yn gweithio a addysgu ac ysbrydoli pobl yng Nghymru am newid hisawdd a chyfrifoldeeb byd-eang ac mae Joanna Scanlan yn credu’n gryf y gall Cymru chwarae rhan allweddol yn hyn.
“Rwy’n falch iawn o ddod yn Llysgennad i Maint Cymru”, dywedodd. “Mae eu gwaith yn dangos sut y gall cenedl fach gymryd cyfrifoldeb ystyrlon am ei heffaith fyd-eang, drwy sefyll mewn undod â chymunedau Brodorol sy’n amddiffyn rhai o’r ecosystemau pwysicaf ar y blaned. Mewn cyfnod pan fo’r argyfwng hinsawdd yn galw am ddewrder, mae Maint Cymru yn cynnig model pwerus a gobeithiol.”
Ychwanegodd Nicola Pulman, Cyfarwyddwr Maint Cymru:
“Wrth i ni nodi 15 mlynedd o Maint Cymru, rydym yn falch o groesawu Joanna Scanlan yn Llysgennad. Mae ei gwaith ar y sgrin a’i gwerthoedd oddi ar y sgrin yn cyd-fynd yn agos â’n cenhadaeth i sicrhau bod Cymru’n parhau i chwarae ei rhan wrth ddiogelu coedwigoedd y byd a sefyll ochr yn ochr â Phobl Frodorol. Bydd ei llais yn amhrisiadwy wrth i ni edrych ymlaen at bennod nesaf ein gwaith.”