Carfan Menywod Cymru yn taclo newid hinsawdd drwy gydweithio â Maint Cymru
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru (FAW) wedi ymuno â’r elusen hinsawdd Maint Cymru i ddechrau cydweithio i gefnogi menywod Brodorol sy’n gweithio i warchod coedwigoedd trofannol ac i ddod yn sefydliad fydd yn hyrwyddo’r ymgyrch #dimdatgoedwigo.
Lawnsiwyd yr ymgyrch mewn sesiwn ar y cyd yng ngwersyll Tîm Merched Cymru cyn eu gêm yn erbyn Tsiecia. Yn ystod y sesiwn, dysgodd y chwaraewyr a’r staff fwy am rôl hanfodol coedwigoedd trofannol wrth fynd i’r afael â’r argyfwng natur a hinsawdd byd-eang. Rhannwyd sut mae Pobl Frodorol yn arwain o ran diogelu rhai o ecosystemau mwyaf bioamrywiol y byd, a pha gamau y gallant eu cymryd fel sefydliad i ddod yn hyrwyddwyr di-ddatgoedwigo.
Mae Maint Cymru yn gweithio mewn partneriaeth hirdymor â Phobl Frodorol a chymunedau lleol i warchod coedwigoedd trofannol maint Cymru. Mae’r elusen hefyd yn codi ymwybyddiaeth yng Nghymru o sut y gall prynu a chaffael yng Nghymru achosi datgoedwigo trofannol filoedd o filltiroedd i ffwrdd, ac yn dangos sut y gellir osgoi hyn.
Mae coedwigoedd trofannol yn hanfodol i’r ymdrechion i gyfyngu cynhesu byd-eang i 1.5°C. Datgoedwigo sy’n cyfrif am tua 20% o allyriadau byd-eang; sy’n llawer mwy na ehediadau awyrennau (sy’n cyfrif am oddeutu 2%). Yn 2024 yn unig, collwyd 67 miliwn hectar o goedwigoedd trofannol, sef tair gwaith maint Cymru. Mae hynny’n cyfateb i tua 18 cae pêl-droed o goedwig yn cael eu colli yn ystod un gêm bêl-droed 90 munud gan Gymru.
Drwy’r cydweithio hwn, bydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru a Maint Cymru yn archwilio cyfleoedd i godi ymwybyddiaeth o effeithiau datgoedwigo trofannol a chefnogi camau i leihau ôl-troed amgylcheddol byd-eang Cymru, yn unol ag ymrwymiadau cynaliadwyedd y Cymdeithas Bêl-droed Cymru i hyrwyddo Cymru Leol Fyd-eang a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru.
Dywedodd Barbara Davies-Quy, Dirprwy Gyfarwyddwr Maint Cymru:
“Roedd hi’n wych ymuno â Thîm Cenedlaethol Merched Cymru yn ystod eu Gwersyll Gwanwyn yr wythnos hon i rannu mwy am bwysigrwydd coedwigoedd trofannol wrth fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur. Rydym yn falch iawn o gydweithio â Chymdeithas Bêl-droed Cymru i weld sut y gall pêl-droed Cymru chwarae rhan wrth gefnogi menywod Brodorol sy’n gweithio i warchod coedwigoedd trofannol, a sut y gall y gêm ddefnyddio ei llwyfan, ei llais a’i chyrhaeddiad i ysbrydoli gweithredu ledled y wlad.”
Ychwanegodd Helen Antoniazzi, Pennaeth Materion Allanol a Chynaliadwyedd Cymdeithas Bêl-droed Cymru:
“Fel sefydliad, rydym wedi ymrwymo i ddeall a lleihau ein heffaith amgylcheddol. Mae gweithio gyda Maint Cymru yn cynnig cyfle ystyrlon i ddysgu gan ac i gefnogi’r rhai sy’n diogelu rhai o ecosystemau pwysicaf y byd, ac i weithredu i sicrhau bod yr hyn rydym yn ei brynu ddim yn cyfrannu at ddatgoedwigo trofannol ymhell i ffwrdd.”
Dywedodd chwaraewraig ganol cae Cymru, Hayley Ladd:
“Roedd hi’n ddiddorol iawn dysgu mwy am sut mae datgoedwigo trofannol yn gysylltiedig â chynhyrchion bob dydd a’r effaith fyd-eang y mae’n ei chael. Fel chwaraewyr, rydym eisiau deall yn well y rôl y gallwn ei chwarae wrth gefnogi newid cadarnhaol, ar y cae ac oddi ar y cae.”
Ers 2021, mae Maint Cymru wedi arwain yr ymgyrch i Gymru ddod yn genedl di-ddatgoedwigo, gan weithio gyda Llywodraeth Cymru, cyrff cyhoeddus, busnesau, ysgolion, ffermwyr a grwpiau cymunedol i leihau ôl-troed datgoedwigo tramor Cymru. Mae’r cydweithio hwn â Chymdeithas Bêl-droed Cymru yn cynnig cyfle i ymgysylltu â staff, chwaraewyr a’r gymuned bêl-droed ehangach yng Nghymru i ddeall pwysigrwydd coedwigoedd trofannol a gweithredu i’w gwarchod.