Mae’r Bythefnos Masnach Deg 2021 (22 Chwefror – 7 Mawrth 2021) yn canolbwyntio ar gyfiawnder hinsawdd a’r heriau cynyddol mae ffermwyr a gweithwyr yn eu hwynebu mewn hinsawdd sy’n newid, fel tywydd poeth, sychder, llifogydd, clefyd cnydau a chynhaeaf sy’n lleihau.
Mae llawer o’r bwyd a diod a fwytawn yng Nghymru yn cael ei dyfu gan gymunedau ffermio sydd ar reng flaen yr argyfwng newid yn yr hinsawdd – cymunedau sydd wedi cyfrannu lleiaf at yr argyfwng hinsawdd ond eto, sy’n dioddef fwyaf yn sgil ei ganlyniadau. Te, coffi, cacao a bananas yw dim ond ychydig o’r nwyddau hyn, ac mae pob un ohonynt yn brif gynnyrch rheolaidd sydd yn cael eu bwyta yma yng Nghymru.
Masnach gonfensiynol
Trwy ddulliau confensiynol o fasnachu, mae llawer o ffermwyr a gweithwyr wedi cael eu trapio mewn system sy’n gwahaniaethu yn erbyn y bobl hynny sydd fwyaf agored i niwed. O ganlyniad, mae llawer yn cael prisiau sy’n disgyn llawer is na gwerth y farchnad, sy’n golygu na allant ddiwallu eu hanghenion sylfaenol, fel deiet maethlon, addysg eu plant, a gofal iechyd. Mae byw islaw’r llinell dlodi yn golygu na all ffermwyr addasu a lliniaru yn erbyn hinsawdd sy’n newid, sy’n eu gwneud nhw’n fwy agored i ergydion economaidd. Ni allant ychwaith, fforddio mabwysiadu arferion ffermio mwy cynaliadwy.
Sut mae Masnach Deg yn wahanol
Mae Masnach Deg yn sicrhau telerau a phrisiau teg, cynaliadwyedd lleol ac amodau gwaith teilwng i ffermwyr a gweithwyr yn y De byd-eang difreintiedig. Drwy sicrhau incwm teg i ffermwyr lleol, maen nhw’n gallu addasu a goroesi’r argyfwng hinsawdd yn well. Mae safonau diogelu’r amgylchedd yn elfen allweddol o’r broses ardystio, a thrwy hyfforddiant, mae ffermwyr yn cael eu cefnogi i newid i arferion sy’n fwy ecogyfeillgar, fel annog bywyd gwyllt i helpu i reoli plâu a chlefydau.
Ers 2019, mae Masnach Deg wedi cynnwys meini prawf dim datgoedwigo hefyd, sy’n golygu, yn ogystal â chefnogi ffermwyr, y gallwn leihau datgoedwigo a fewnforiwyd yng Nghymru hefyd, drwy ddewis cynnyrch Masnach Deg.
Oeddech chi’n gwybod: Mae saith deg tri y cant o’r holl ddatgoedwigo trofannol yn cael ei achosi gan nifer fach o nwyddau amaethyddol allweddol, gan gynnwys coffi a cacao?
Mae’r pandemig COVID-19 wedi rhoi sylw i’n perthynas gymhleth â natur, ac wedi tynnu sylw at yr angen am ddulliau cynaliadwy o ymdrin ag amaethyddiaeth a masnach. Mae 75 y cant o glefydau heintus sy’n dod i’r amlwg yn rhai milheintiol – wedi’u gwasgaru o anifeiliaid i bobl – ac mae cyfraddau cynyddol o ddatgoedwigo trofannol yn rhoi cyfle perffaith i glefydau milheintiol ymledu, drwy ddod â phobl ac anifeiliaid gwyllt i gysylltiad agosach fyth.
Drwy gysylltu’r dotiau rhwng fferm a fforc, gallwn weld bod ein hymddygiad defnyddwyr yma yng Nghymru, e.e. pa gynnyrch rydym yn eu prynu a p’un a ydynt yn cael eu cynhyrchu’n gynaliadwy, yn gallu cael effaith uniongyrchol ar gymunedau, coedwigoedd trofannol, bioamrywiaeth, yr hinsawdd ac iechyd.
Felly, drwy ddewis Masnach Deg a thalu pris teg am y nwyddau rydym yn eu defnyddio yng Nghymru, rydym yn cefnogi bywoliaethau cynaliadwy, ac yn cynyddu’r gallu i wrthsefyll effeithiau’r hinsawdd, helpu i gryfhau systemau bwyd byd-eang, a lleihau’r risg o ragor o bandemigau yn y dyfodol.
Masnach ôl-Brexit
Gan fod y DU bellach yn dechrau gweithio ar berthnasoedd masnachu newydd ar draws y byd, rydym yn wynebu risgiau a chyfleoedd. Mae pryder y gallai trefniadau masnachu newydd ar ôl Brexit arwain at leihad mewn safonau, gydag effeithiau negyddol ar bobl a’r blaned. Felly, mae’n hanfodol ein bod ni’n cefnogi Masnach Deg ac yn annog llunwyr polisïau yng Nghymru a’r DU i sicrhau y bydd unrhyw bolisïau masnach yn y dyfodol yn gwarantu safonau amgylcheddol a hawliau dynol, ac yn cefnogi cynhyrchwyr graddfa fach sydd eisoes yn gweld effeithiau’r argyfwng hinsawdd.
Coffi a cacao Masnach Deg
Beth am roi cynnig ar Jenipher’s Coffi – coffi newydd sydd yn cael ei gynhyrchu i safonau Masnach Deg gan ffermwyr ar lethrau Mount Elgon yn Uganda, a’i rostio â llaw yng Nghymru. Mae’r coffi’n cael ei dyfu o dan gysgod coed a blannwyd diolch i gefnogaeth Maint Cymru a Llywodraeth Cymru. Drwy brynu coffi Jenipher, gallwch gefnogi’r ffermwyr i fasnachu’n deg ac ymateb i’r argyfwng hinsawdd.
P’un ai’n prynu drosom ni ein hun a’n teuluoedd neu’n caffael nwyddau fel busnes neu gorff sector cyhoeddus, fel defnyddwyr, mae gennym y pŵer cyfunol i ddylanwadu ar farchnadoedd a helpu i greu newid tuag at nwyddau mwy cynaliadwy sy’n gweithio i bobl a’r blaned. Felly, a wnewch chi ymuno â ni i helpu i hyrwyddo’r Bythefnos Masnach Deg a chyfiawnder hinsawdd, a rhoi rhywfaint o gynnyrch Masnach Deg yn eich basged siopa?
–
Mewn partneriaeth â WWF Cymru a’r RSPB Cymru, mae Maint Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru, cyrff y Sector Cyhoeddus, busnesau a’r cyhoedd i helpu Cymru i droi’n ‘Genedl Dim Datgoedwigo’ a symud tuag at ddileu datgoedwigo tramor o economi Cymru. Gallwch gael rhagor o wybodaeth yma.