Ymunwch â'r gymuned
Eisiau clywed am ein prosiectau, ymgyrchoedd a digwyddiadau diweddaraf trwy ebost?
Helpwch i Sicrhau Dyfodol gyda Choedwigoedd!
Mae Maint Cymru wedi cynhyrchu cyfres o adnoddau i’ch cefnogi ar eich taith Dim Datgoedwigo. I gyflawni eich Gwobr Hyrwyddwr Busnes Dim Datgoedwigo, bydd angen i chi gwblhau eich Cynllun Gweithredu a’ch Amcanion, sy’ dangos tystiolaeth o unrhyw newidiadau rydych chi’n eu gwneud. Mae cymorth ychwanegol ar ddefnyddio’r pecyn cymorth ar gael o Maint Cymru.*
(*I fusnesau sy’n cymryd rhan yn yr ymgyrch beilot yn Sir Fynwy, gallwn gynnig sesiynau Dim Datgoedwigo 1-2-1, a fydd yn cefnogi’ch amcan dysgu ac yn eich tywys drwy’r templedi archwilio risg i goedwigoedd, i helpu i nodi rhywfaint o gamau gweithredu pendant.)
Mae Busnes Dim Datgoedwigo yn rhan o’n cynllun peilot ymgyrch Cymunedau Dim Datgoedwigo, sy’n ceisio dod ag ysgolion, busnesau, cymunedau ffermio, llywodraeth leol a grwpiau cymunedol ynghyd i leihau ein heffaith ar goedwigoedd, pobl a natur. Mae’r ymgyrch hon yn cael ei hariannu gan y Co-op Foundation, a bydd yn para am 2 flynedd tan fis Mawrth 2024.
Dilynwch y camau hyn i gyflawni eich Gwobr Hyrwyddwr Busnes Dim Datgoedwigo, ac ymunwch â chymuned fyd-eang, sy’n tyfu, sy’n sefyll fyny dros goedwigoedd, pobl a natur.
Dysgwch am sut a lle y cynhyrchir nwyddau sy’n risg i goedwigoedd, eu heffeithiau, a pha fathau o gamau sydd yn gallu helpu i leihau’r risg o ddatgoedwigo, fel defnyddio ardystiadau moesegol neu fodelau economi gylchol i atal gwastraff e.e., ailddefnyddio ac adnewyddu.
Yn fewnol. Cymerwch amser i fyfyrio ar eich polisïau ac arferion mewnol fel busnes, e.e., oes gennych chi bolisi cyrchu moesegol neu ydych chi wedi gwneud ymrwymiadau cynaliadwyedd? Ydy’r polisïau hyn yn diogelu coedwigoedd ac ecosystemau hanfodol eraill ac yn gwarchod hawliau dynol?
Yn allanol. Edrychwch at eich cyflenwyr e.e. oes ganddynt bolisïau i atal effeithiau cymdeithasol yn eu cadwyni cyflenwi, neu a ydynt wedi gwneud unrhyw ymrwymiadau datgoedwigo?
Ewch ati i gynnal archwiliad o’r nwyddau sy’n risg i goedwigoedd rydych chi’n eu prynu fel busnes. Bydd hyn yn darparu llinell sylfaen ar gyfer y meintiau a’r mathau o gynnyrch a chynhwysion sy’n risg i goedwigoedd rydych chi’n eu prynu, boed yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, e.e. drwy wasanaethau fel arlwyo, ac yn helpu i nodi lle y gellir gwneud newidiadau.
Rydych chi bellach yn gwybod am y meysydd yn eich busnes sy’n cario’r risg fwyaf mewn perthynas â datgoedwigo, felly nawr yw’r amser i ddechrau gwneud newidiadau.
Gall hyn ddechrau drwy ymrwymo’n gyhoeddus i gyrchu’n gynaliadwy a newid rhai o’ch nwyddau sy’n risg i goedwigoedd e.e. dechrau ar y broses o newid, a dechrau defnyddio cynnyrch Masnach Deg neu gynnyrch anifeiliaid wedi’u ardystio’n foesegol, sydd yn cael eu cynhyrchu’n lleol.
Pa bynnag gamau rydych chi’n eu cymryd gyntaf, rhaid i chi ymrwymo i wneud mwy o newidiadau yn y dyfodol. Os ydych chi’n fusnes mwy gyda chynllun pensiwn gweithwyr, gallai hyn olygu ymrwymo i newid i ddefnyddio darparwr pensiwn moesegol.
Dewch yn Hyrwyddwr Dim Datgoedwigo, ac ysbrydoli eraill i weithredu. Gall hyn fod drwy ymgysylltu â chyflenwyr ynghylch nwyddau sy’n risg i goedwigoedd, neu ysgrifennu at eich darparwr pensiwn am bensiynau moesegol. Efallai y byddwch eisiau ysgrifennu blog neu ddatganiad i’r wasg hefyd, cyhoeddi fideo ar y cyfryngau cymdeithasol i helpu i ledaenu’r gair, neu drefnu digwyddiad cymunedol i godi ymwybyddiaeth. Mae cwmpas a chreadigrwydd yn cael ei annog.
Ar ôl i chi gyflawni eich amcanion, llenwch y ffurflen adrodd yn eich pecyn adnoddau i wneud cais am eich statws Busnes Dim Datgoedwigo.
Bydd angen i chi ysgrifennu crynodeb byr o’ch gweithredoedd, a chasglu unrhyw dystiolaeth ategol, er enghraifft lluniau, erthyglau i’r wasg, blog neu ddolenni fideo. Yna, bydd angen i chi uwchlwytho/anfon eich cais at: [include hyperlink or email address] a bydd y tîm Dim Datgoedwigo yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl.
Ar ôl i chi gwblhau eich Cynllun Gweithredu a’ch Amcanion, byddwch yn derbyn eich Gwobr Hyrwyddwr Busnes Dim Datgoedwigo, sy’n cynnwys:
Mae’r Pecyn Cymorth Busnesau Dim Datgoedwigo (BDD) hwn wedi’i lunio gan Maint Cymru i helpu busnesau i sicrhau nad yw’r cynhyrchion, y nwyddau a’r gwasanaethau y byddant yn eu prynu, yn eu cynhyrchu neu’n buddsoddi ynddynt, yn achosi datgoedwigo mewn mannau trofannol, dinistrio cynefinoedd ac effeithiau cymdeithasol negyddol dramor.
Gallwch ei ddefnyddio i gofnodi unrhyw nwyddau sy’n risg i goedwigoedd rydych chi’n eu prynu fel busnes, ynghyd ag unrhyw ardystiadau moesegol, sgoriau risg a gwybodaeth berthnasol arall.
Y bwriad yw darparu llinell sylfaen ar gyfer y symiau a’r mathau o gynnyrch/cynhwysion sy’n risg i goedwigoedd rydych chi’n eu caffael, boed yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, e.e. drwy wasanaethau fel arlwyo, a helpu i ddarganfod ble y gellir gwneud newidiadau.
Bwriad y pecyn yma ydy eich helpu i ymchwilio i’ch ymddygiad o ran archebu fel busnes ac ymddygiad eich cyflenwr/wyr. Gall eich helpu:
Dysgwch am rhywfaint o ffeithiau allweddol ynghylch olew palmwydd, a darganfyddwch beth fedrwch chi wneud i leihau eich ôl troed olew palmwydd.
Dysgwch am effeithiau cymdeithasol ac amgylcheddol cig eidion wedi’i fewnforio, a sut mae cynnyrch anifeiliaid Cymru yn cysylltu â datgoedwigo trofannol.
Darganfyddwch pa gamau fedrwch chi eu cymryd i ddiogelu coedwigoedd a phobloedd Frodorol rhag effeithiau datgoedwigo ac amaethyddiaeth ddwys.
Dysgwch am yr effeithiau o gynhyrchu coco a choffi, a pa gamau fedrwch chi eu cymryd i leihau eich ôl troed coedwigoedd trofannol.
Darganfyddwch rhywfaint o ffeithiau allweddol am y defnydd o goed, papur a mwydion coed yng Nghymru, a dysgwch pa gamau fedrwch chi eu cymryd i leihau eich ôl troed coedwigoedd trofannol.
Darganfyddwch sut mae’r ffordd rydyn ni’n arbed arian yn gallu cael ei glymu i weithgareddau sy’n niweidiol i’r amgylchedd, fel datgoedwigo.
Dysgwch am yr hyn y gallwch ei wneud i atal eich cynilion, pensiynau a buddsoddiadau rhag cael eu defnyddio i ariannu diwydiannau dinistriol.
Darllenwch yr astudiaeth achos ysbrydoledig hwn am bartneriaeth busnes bwyd o Gymru sy’n rhoi sylw helaeth i gynaliadwyedd moesegol a lleol.
Astudiaeth achos ysbrydoledig gan y gadwyn archfarchnad Co-op ar eu mesurau i fynd i’r afael â datgoedwigo mewn cadwyni cyflenwi, a gweithio tuag at ddyfodol iachach a mwy cynaliadwy.