Daeth COP31 i ben yn Antalya, Twrci, heb gytundeb hinsawdd cyffredin, ar ôl i lywodraethau fethu â goresgyn eu gwahaniaethau ynghylch tanwydd ffosil. Mae Maint Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio’r pwerau sydd ganddi i warchod coedwigoedd trofannol a chefnogi’r cymunedau sy’n gofalu amdanynt.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae cymunedau ledled Cymru wedi wynebu tonnau gwres, tanau gwyllt a llifogydd sydyn, tra bo gwasanaethau cyhoeddus dan bwysau ariannol sylweddol. Pan fo cyllidebau dan bwysau, mae’n ddealladwy bod pobl am ganolbwyntio ar anghenion mwyaf dybryd eu cymunedau. Mae gwarchod yr ecosystemau rydym i gyd yn dibynnu arnynt yn rhan o ddiwallu’r anghenion hynny, yn awr ac yn y blynyddoedd i ddod.
Mae asesiad Llywodraeth y DU o ecosystemau byd-eang yn rhybuddio y gall difrod ecolegol amharu ar gyflenwadau bwyd a dŵr. Mae coedwigoedd trofannol yn helpu i reoleiddio patrymau glawiad ac yn storio carbon. Pan gaiff ecosystemau eu difrodi a chynaeafau eu heffeithio, gall teuluoedd yng Nghymru deimlo’r effaith wrth dalu am eu siopa wythnosol. Y teuluoedd sydd â’r cyllidebau tynnaf sydd â’r gallu lleiaf i ymdopi â chostau cynyddol.
Mae Cronfa Cyfiawnder Hinsawdd yr Alban yn dangos sut y gall cenedl ddatganoledig gefnogi gweithredu ar yr hinsawdd dan arweiniad cymunedau yn y De Byd-eang. Mae gan Gymru ei sail ei hun ar gyfer arwain yn rhyngwladol. Mae Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang yn un o saith nod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015. Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru a’r cyrff cyhoeddus eraill y mae’n berthnasol iddynt bennu amcanion llesiant sydd wedi’u cynllunio i sicrhau eu bod yn cyfrannu cymaint â phosibl at y nodau hynny, a chymryd pob cam rhesymol i gyflawni’r amcanion hynny. Un cam ymarferol yw mynd i’r afael â datgoedwigo yn y cadwyni cyflenwi sy’n darparu bwyd i’n hysgolion, ein hysbytai a’n gwasanaethau cyhoeddus eraill.
Dywedodd Nicola Pulman, Cyfarwyddwr Maint Cymru:
“Mae teuluoedd a gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru yn wynebu pwysau ariannol sylweddol. Ond nid yw gwarchod coedwigoedd trofannol a gwarchod cymunedau yma yng Nghymru yn flaenoriaethau sy’n cystadlu â’i gilydd. Mae cysylltiad sylfaenol rhyngddynt.
“Nid yw newid hinsawdd yn cydnabod ffiniau cenedlaethol. Mae dinistrio coedwigoedd trofannol yn cael goblygiadau i’n diogelwch bwyd, biliau ein cartrefi a gwydnwch ein cymunedau yma yng Nghymru.
“Drwy ein gwaith gyda Phobloedd Brodorol, ffermwyr, ysgolion, busnesau a llunwyr polisi, rydym yn gweld yr hyn y gall Cymru ei gyflawni pan fydd yn cymryd ei chyfrifoldebau byd-eang o ddifrif.
“Pan fydd trafodaethau rhyngwladol yn methu â gwneud cynnydd, mae gan genhedloedd bach gyfle i arwain drwy esiampl. Dyma’r amser i Gymru ddangos beth mae bod yn genedl sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang yn ei olygu mewn gwirionedd; nid drwy gymryd cam yn ôl, ond drwy gymryd cam ymlaen.”
Dywedodd yr Athro John Hunt, Dirprwy Gadeirydd Maint Cymru:
“Mae gobaith yn fflam werthfawr a bregus, yn enwedig i’r rheini ohonom sy’n gweithio ym maes yr amgylchedd a llesiant. Ers tri degawd, mae trafodaethau hinsawdd COP wedi meithrin y gobaith hwnnw. Pe bawn i wedi dweud wrth fy myfyrwyr ôl-raddedig ym maes newid hinsawdd 30 mlynedd yn ôl y byddwn, ryw ddydd, yn gyrru car trydan i’r gwaith, wedi’i wefru gartref â thrydan adnewyddadwy, byddent wedi meddwl fy mod wedi colli ar fy nghoed. Ond dyna’n union rwy’n ei wneud.
“Mae canlyniad COP31 yn peryglu’r gobaith hwnnw. Rhaid inni gadw’r fflam yn fyw ar gyfer ein pobl ifanc, ac mae gan Gymru ran i’w chwarae. Gwn fod newid yn bosibl. Rwy’n ei brofi yn fy mywyd bob dydd, a gall pob un ohonom greu newid.”