Mae llyfr newydd argraffiad cyfyngedig yn adrodd hanes pymtheg mlynedd gyntaf Maint Cymru, gan ddathlu’r bobl, y partneriaethau a’r cymunedau sydd wedi helpu i droi syniad Cymreig beiddgar yn weithredu byd-eang dros goedwigoedd trofannol.
Ysgrifennwyd Maint Cymru: Yr Hanes Hyd Yma / Size of Wales: The Story So Far gan Nicola Baird, ac fe’i lansiwyd fel rhan o ddathliadau pen-blwydd Maint Cymru yn 15 oed yn y Deml Heddwch yng Nghaerdydd.
Mae’n gyfrol ddwyieithog, clawr caled sy’n olrhain taith yr elusen o’i gwreiddiau’n 2011, pan aeth Cymru ati i helpu i warchod ardal o goedwig drofannol gyfwerth â’i maint ei hun, hyd at y mudiad prysur heddiw, sydd erbyn hyn yn cysylltu cymunedau ledled Cymru â Phobloedd Frodorol a chymunedau lleol sy’n gwarchod coedwigoedd ledled y byd.
Drwy straeon, ffotograffau a myfyrdodau gan y bobl sydd wedi bod yn rhan o’r gwaith, mae’r llyfr yn llawn hanesion partneriaethau Maint Cymru mewn gwledydd gan gynnwys Brasil, Periw, Kenya, Uganda ac Indonesia. Mae hefyd yn tynnu sylw at y gweithredu sy’n digwydd yma yng Nghymru drwy ysgolion, cymunedau, busnesau, cyrff cyhoeddus ac ymgyrchoedd dros gadwyni cyflenwi di-ddatgoedwigo.
Mae’r llyfr yn dathlu’r hyn sydd wedi’i gyflawni drwy bymtheg mlynedd o bartneriaeth a chydsafiad, gan edrych hefyd tua’r dyfodol at uchelgais Maint Cymru i helpu i wneud Cymru’r genedl ddi-ddatgoedwigo gyntaf yn y byd.
Cyhoeddwyd y llyfr fel argraffiad cyfyngedig ac mae ambelll gopi ar gael i’w prynu. Cysylltwch gyda [email protected] er mwyn prynu cyfrol.
Isod, mae Cadeirydd Maint Cymru, Tim Birch, yn olrhain hanes enw’r elusen, pam mae coedwigoedd trofannol yn bwysig i bobl yng Nghymru, a’r gwaith sydd eto i’w wneud.
Pam mae Maint Cymru yn dal i fod o bwys
Gan Tim Birch, Cadeirydd Maint Cymru
Defnyddir yr ymadrodd “the size of Wales” yn aml fel cymhariaeth bwerus i helpu pobl i ddeall gwir raddfa’r dinistr sy’n digwydd i goedwigoedd trofannol y byd. Dyna hefyd pam y dewiswyd yr enw ar gyfer ein sefydliad unigryw.
Mae gwneud dinistr di-baid coedwigoedd trofannol yn haws i’w ddeall yn helpu i ysgogi’r gweithredu brys sydd ei angen i’w gwarchod a’u hadfer. Mae hynny’n parhau wrth galon cenhadaeth Maint Cymru.
Mae Maint Cymru yn helpu i ddod â her fyd-eang enfawr yn nes adref. Drwy godi ymwybyddiaeth, gallwn ysbrydoli newidiadau mewn ymddygiad, polisi cyhoeddus a phenderfyniadau prynu, yng Nghymru a thramor, sy’n helpu i warchod coedwigoedd trofannol.
Mae ein gwaith yn digwydd nid yn unig yma yng Nghymru, ond ochr yn ochr â Phobloedd Frodorol a chymunedau lleol sydd ar reng flaen dinistr coedwigoedd mewn mannau gan gynnwys yr Amazon, Uganda ac Indonesia. Mae gwarchod coedwigoedd trofannol hefyd yn golygu cefnogi hawliau, traddodiadau, bywoliaethau a llesiant y bobl sydd wedi gofalu amdanynt ers cenedlaethau.
Ni ellir mynd i’r afael â dinistr coedwigoedd trofannol drwy warchod coedwigoedd yn unig. Rhaid inni fynd i’r afael â thorri a llosgi coedwigoedd, gan hefyd leihau’r galw byd-eang am gynhyrchion sy’n gysylltiedig â’u dinistr. Mae llawer o’r cynhyrchion hyn, gan gynnwys nwyddau a geir mewn bwydydd a chynhyrchion bob dydd, yn cyrraedd Cymru yn y pen draw drwy gadwyni cyflenwi rhyngwladol.
Mae pobl yn aml yn gofyn pam mae coedwigoedd trofannol mor bwysig. Maent yn gartref i gyfran eithriadol o blanhigion ac anifeiliaid y byd, ac ni allwn atal yr argyfwng natur byd-eang heb warchod y coedwigoedd sy’n weddill.
Maent hefyd yn amsugno ac yn storio symiau enfawr o garbon, gan helpu i reoleiddio hinsawdd y Ddaear ac arafu cynhesu byd-eang. Pan gaiff coedwigoedd trofannol eu dinistrio neu eu llosgi, caiff y carbon hwnnw sydd wedi’i storio ei ryddhau i’r atmosffer, gan gyflymu newid hinsawdd ymhellach.
Ni fu gwarchod ac adfer coedwigoedd trofannol y byd erioed mor bwysig wrth i’r argyfyngau hinsawdd a natur ddwysáu. Mae hefyd yn hanfodol i’r miliynau o bobl, gan gynnwys cymunedau Brodorol, y mae eu diwylliannau, eu bywoliaethau a’u hunaniaethau wedi’u cysylltu’n agos â’r coedwigoedd hyn, ac sy’n eu galw’n gartref.
Mae cenhadaeth Maint Cymru yn uchelgeisiol ac yn hollbwysig: helpu i wneud Cymru’r genedl ddi-ddatgoedwigo gyntaf yn y byd, a chwarae rhan ystyrlon wrth warchod ac adfer coedwigoedd trofannol ledled y byd.
Dros y pymtheg mlynedd diwethaf, rydym wedi cyflawni llawer iawn drwy bartneriaeth, cydsafiad a gweithredu. Mae ein llyfr pen-blwydd yn adrodd y stori honno.
Ond nid cofnod o’r hyn sydd eisoes wedi’i gyflawni yn unig mohono. Mae hefyd yn ein hatgoffa faint yn rhagor sydd eto i’w wneud.




















