“Bu Anwen yn athrawes gynradd, a roedd yn mwynhau cynnig cyfleoedd i ddisgyblion ddysgu am yr amgylchedd a sut i’w warchod. Tra’n hyfforddi fel arweinydd Ysgol Goedwig a chymhwyso fel Ymarferydd Lles mewn Natur, bu’n astudio bio-amrywiaeth, gan ddysgu am y bygythiadau i’n byd natur a‘r gweithredoedd sydd eu hangen i amddiffyn ein planed. Yn gwirfoddoli gyda grwp garddio lleol, mae‘n angerddol dros blannu ar gyfer peilliwyr tra’n hybu ymwybyddiaeth o newid hinsawdd a gwerth ymgysylltu â natur.
“Rwy’n credu yn gryf mewn cyfrifoldeb byd-eang, sut mae pawb ohonom ledled y byd yn gysylltiedig, ac yn gallu helpu ein gilydd. Rwy’n hynod o falch bod Maint Cymru a’n gwlad fechan ni yn cyfrannu yn i newid positif o gwmpas y byd. Rwy’n edrych ymlaen i gydweithio gyda phobl ifanc a’u hannog i weithredu yn erbyn datgoedwigo.Nid pawb all fod yn Greta Thunberg! Ond gall pob un ohonom wneud ein rhan i ymateb i her newid hinsawdd – mae pob gweithred yn werthfawr ac yn gwneud gwahaniaeth.”