Ar 7 Mai 2026, bydd pleidleiswyr yng Nghymru yn mynd i’r gorsafoedd pleidleisio i bleidleisio dros eu cynrychiolwyr newydd yn Senedd Cymru. Mae’r etholiadau hyn yn gyfle i leisio’ch barn. Pa bynnag flaenoriaethau sydd gennych yn yr etholiad hwn, mae’n werth edrych ar yr ymrwymiadau y mae pleidiau gwleidyddol yn eu gwneud i ddiogelu coedwigoedd trofannol ac i weithredu ar yr hinsawdd.
Cymharu Ymrwymiadau Pleidiau ar Goedwigoedd a’r Hinsawdd
Mae’r dadansoddiad hwn yn cymharu ymrwymiadau o faniffestos gwahanol bleidiau gwleidyddol sy’n ymwneud â choedwigoedd, datgoedwigo a newid hinsawdd, yn erbyn argymhellion polisi Maint Cymru sydd wedi cael eu gosod yn ein dogfen ‘Gweledigaeth am Gymru sy’n Gyfrifol ar Lefel Fyd-eang’. (GELLIR EI LAWRLWYTHO YMA, PDF)
Mae’n darparu trosolwg clir a hygyrch o sut mae safbwyntiau’r pleidiau gwahanol yn cyd-fynd â’r argymhellion hyn. Mae’r gymhariaeth yn canolbwyntio ar faterion allweddol fel cadwyni cyflenwi dim datgoedwigo, systemau bwyd cynaliadwy, a chyfrifoldeb hinsawdd byd-eang, i helpu’r cyhoedd i ddeall y materion yn well ac i annog trafodaethau agored.
Trwy gyflwyno’r wybodaeth hon mewn un lle, ein nod yw cyfrannu at drafodaethau gwybodus ynghylch y rôl y gall Cymru ei chwarae wrth fynd i’r afael â datgoedwigo byd-eang a’r argyfwng hinsawdd.
Mae’r gwaith hwn yn annibynnol ac yn amhleidiol, wedi’i seilio ar dystiolaeth, ac wedi’i alinio â’n cenhadaeth i hyrwyddo diogelu coedwigoedd, cyfiawnder hinsawdd, a dyfodol cynaliadwy. Nid yw’n ceisio dylanwadu ar ymddygiad pleidleisio nac ychwaith, cefnogi neu wrthwynebu unrhyw blaid wleidyddol nac ymgeisydd. Mae’r elusen yn annibynnol ac yn amhleidiol, ac mae’r gwaith hwn yn adlewyrchu ei hymrwymiad i ymgysylltu ar sail tystiolaeth er budd y cyhoedd.