Diolch i gyllid gan Honnold Foundation a Llywodraeth Cymru, teithiodd chwe technegydd brodorol o Genedl y Wampís i Ecwador ym mis Rhagfyr 2022, i gymryd rhan mewn cyfnewid 15 diwrnod ar ynni solar a chychod solar.
Hyfforddwyd y cynrychiolwyr o Genedl y Wampís gan bartner Maint Cymru, Kara Solar, a chan dechnegwyr o Bobl Frodorol Achuar. Cynhaliwyd yr hyfforddiant yn iaith frodorol Achuar, sy’n debyg iawn i iaith y Wampís, a dysgodd technegwyr y Wampís egwyddorion sylfaenol electroneg ac ynni solar. Fe wnaethon nhw hefyd gael y cyfle i yrru canŵ solar a dysgu sut i ofalu amdano.
“Dwi wedi dysgu sut i ddefnyddio a thorri gwifrau. Dysgais hefyd sut i gysylltu’r batri – yn bositif ac yn negatif. Roedd yr hyfforddiant hwn yn dda iawn, ac rwyf eisiau dal ati i ymarfer mwy” meddai Monica Kukush Wam o Puerto Juan”
Mae Kara Solar yn ddewisiadau amgen cynaliadwy arloesol i’r systemau trafnidiaeth sy’n dibynnu ar ffyrdd tanwydd. Maen hw wedi gweithio gyda Phobl Frodorol Achuar yr Amazon yn Ecwador, i greu system cludo afonydd sy’n cael ei phweru’n gyfan gwbl gan ynni solar. Mae fflyd o bum cwch solar wedi gwneud cannoedd o deithiau i gysylltu miloedd o bobl â chlinigau iechyd, ysgolion, ffermydd, â’i gilydd; heb ddefnyddio ffyrdd na thanwydd ffosil.
Mae’r cychod hyn yn cael eu rheoli a’u gweithredu’n annibynnol gan Bobl Frodorol mewn cymunedau coedwigoedd ynysig. Mewn partneriaeth â Maint Cymru, maen nhw nawr yn ehangu’r model hwn i Genedl y Wampís, dros y ffin ym Mheriw.
Mae canŵs yn hanfodol i bobl y Wampís. Yn ddwfn yng nghanol yr Amazon, mae cychod yn darparu’r math mwyaf effeithlon a dibynadwy o gludiant. Fodd bynnag, mae angen atgyweirio canŵs sy’n cael eu pweru gan ddisel yn aml, ac mae’r olew yn gollwng i’r dyfrffyrdd ac yn dibynnu ar danwydd costus, sy’n cael ei fewnforio, i’w redeg.
Mae gan Genedl y Wampís uchelgais o drosglwyddo i 100% o ynni adnewyddadwy, a symud i ffwrdd o danwyddau sy’n llygru eu dyfrffyrdd a’u natur.
Mae’r prosiect hwn yn gyfle cyffrous i hyrwyddo cludiant ynni cynaliadwy a gwyrdd ar gyfer yr Amazon, sydd wedi’u cynllunio gyda chymunedau lleol.
Ar ôl y cyfnod hyfforddi cychwynnol hwn, bydd technegwyr y Wampís yn adeiladu gwefrwyr porthladd solar ac yn adeiladu’r cwch solar – y cyntaf o’i fath ym Mheriw!
“Roedd yr hyfforddiant yn ddiddorol iawn i ni, ac rwy’n gyffrous iawn y byddwn yn derbyn mwy o hyfforddiant. Trwy gyflwyno canŵs solar yn ein tiriogaeth, rydym yn cael gwared ar yr angen i ddefnyddio tanwydd sy’n llygru i deithio o gwmpas” meddai Anibal Chupa Samaren o gymuned y Muchinguis Kanus
Bydd y ddau gwch solar yn helpu Cenedl y Wampís i fonitro eu tiriogaeth i atal datgoedwigo a chysylltu cymunedau ar hyd yr afon. Mae’r hyfforddiant yn rhoi cyfleoedd am swyddi i bobl y Wampís hefyd, ac yn hyrwyddo ynni solar ar draws y rhanbarth.
Mae eu tiriogaeth yn cwmpasu 1.3 miliwn hectar o goedwig drofannol yn yr Amazon, ac mae’n fioamrywiol dros ben. Mae 98% o’r goedwig yn parhau’n gyfan er gwaethaf pwysau yn sgil torri coed yn anghyfreithlon, cloddio aur a chwilio am olew. Mae arwyddocâd tiriogaeth y Wampís i ddiogelu’r hinsawdd ym Mheriw, ac yn rhyngwladol, yn aruthrol, ac yn storio symiau enfawr o garbon.
Mae cefnogi Pobl Frodorol i amddiffyn eu coedwigoedd yn hanfodol os ydym eisiau atal datgoedwigo a mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur.