Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod Maint Cymru wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Spring Prize Lush gwerth £236,000 ar gyfer adfywio amgylcheddol a chymdeithasol.
Mae Gwobr Spring Prize Lush yn fenter ar y cyd rhwng LUSH Cosmetics ac Ethical Consumer, ac mae bellach yn ei phumed cylch o wobrau, ar ôl dechrau yn 2017. Ar ddiwedd cylch 2023, bydd Spring Prize wedi dosbarthu dros £1 miliwn i brosiectau adfywiol ar draws y byd.
Meddai Barbara Davies-Quy, Dirprwy Gyfarwyddwr Maint Cymru:
“Rydym wrth ein bodd bod y wobr dylanwad wedi cyrraedd rhestr fer ein hymgyrch i wneud Cymru’n Genedl Dim Datgoedwigo, a chyflwyno adfywiad amgylcheddol a chymdeithasol trwy gefnogi Pobl Frodorol a chymunedau lleol i warchod ac adfer coedwigoedd trofannol”.

Disgyblion sy’n ymgyrchu i stopio datgoedwigo
Mae mwy na 40 o wledydd yn cael eu cynrychioli yn y 73 prosiect terfynol ar y rhestr fer, gyda cheisiadau o bob cyfandir ar wahân i Antarctica. Mae pob prosiect sydd ar y rhestr fer yn dangos dewis amgen i drychineb hinsawdd, chwalfa ecolegol, gwrthdaro ac anghydraddoldeb. Gyda’i gilydd, maen nhw’n cynnig stori o obaith, gwytnwch a gweithredu ymarferol. Maen nhw’n ail-ddatblygu ffyrdd o fyw mewn harmoni â natur a’i gilydd. Maen nhw’n cynhyrchu adnoddau adnewyddadwy, yn adfer ecosystemau, yn meithrin undod ac yn adeiladu iechyd, cyfanrwydd a gwydnwch. Maen nhw’n dod â bywyd yn ôl i diroedd wedi’u difrodi a chefnforoedd, ac yn gwrthdroi ffynhonnau distaw.
“Mae’r pethau rydym yn eu prynu yng Nghymru yn arwain at ddinistrio coedwigoedd trofannol dramor. Mae’r coedwigoedd hyn yn gartrefi i anifeiliaid, cymunedau brodorol a lleol. Rydym yn ymgyrchu er mwyn ceisio cael Llywodraeth Cymru, cyrff yn y sector cyhoeddus, busnesau a’r cyhoedd i ddileu datgoedwigo trofannol o’u cadwyni cyflenwi, ac adfywio natur”.
I archwilio a dathlu prosiectau eraill sydd wedi cyrraedd y rhestr fer, ewch i wefan Spring Prize.