Mae Kath yn Gyfrifydd Siartredig gydag ystod eang o brofiad ar draws sectorau, gan gynnwys y Trydydd Sector. Cyn ymuno â’r tîm ym Maint Cymru, roedd Kath yn gyfrifol am gyfrifyddu ariannol, rheoli a phrosiectau yng nghyngor gwirfoddol lleol Sir Pen-y-bont ar Ogwr lle bu hefyd yn cefnogi grwpiau a sefydliadau.
Mae gwirfoddoli i wneud gwahaniaeth cadarnhaol yn agos at ei chalon ac yn ei hamser hamdden mae’n ymddiriedolwr ar gyfer grŵp Cymraeg lleol yn ogystal â grŵp coetir cymunedol.
