Ar 4 Rhagfyr, dathlodd Pobl Guarani bennu ffiniau Tir Brodorol Morro dos Cavalos, yn sgil llofnodi’r gorchymyn, a gymeradwywyd gan yr Arlywydd Lula. Daw hyn ar ôl dros 20 mlynedd o frwydro i gael eu hawliau tir wedi’u cydnabod.
Mae cael cydnabyddiaeth gyfreithiol o’u tir yn helpu i sicrhau bod ffordd draddodiadol o fyw y Guarani, a 1,988 hectar o Goedwig yr Iwerydd, Brasil yn cael eu diogelu.
Mae pobl y Guarani wedi ymladd am ddegawdau dros gael yr hawl i feddiannu Tiriogaeth Frodorol Morro dos Cavalos, ac wedi wynebu anghydfod cyfreithiol yn ymwneud â Thalaith Santa Catarina, mewn anghydfod ynghylch cael meddiant o’r ardal. Mae’r ardal, yn draddodiadol, wedi bod ym meddiant y Guarani am flynyddoedd maith, heb ymyrraeth. Mae llawer o bwysau wedi cael ei roi gan farchnadoedd eiddo tirol a thwristiaeth i feddiannu’r tir.

Eunice Kerexu
Esboniodd Kerexu Yxapyry, arweinydd Tiriogaeth Frodorol Morro dos Cavalos “Mae’r fuddugoliaeth hir-ddisgwyliedig wedi cyrraedd. Mae gen i lawer i’w ddiolch i Nhanderu [Duw neu arweinydd ysbrydol], fy mhobl Mbya Guarani, a’r holl Bobloedd Frodorol ac anfrodorol sydd wedi ein helpu ni yn y frwydr fawr hon. Cafwyd nosweithiau a dyddiau o frwydrau caled a llawer o ddagrau. Ond heddiw, dagrau o hapusrwydd sydd gennym, ac mae ein cymuned yn ymgynnull yn yr opy [tŷ gweddi] ar gyfer y seremoni fawr o ddiolch. Mae Morro dos Cavalos yn dir y Guarani, mae’n berchen i ni. Aguyjevete [diolch] i’r rhai sy’n ymladd!”.
Dechreuwyd pennu ffiniau Tir Brodorol Morro dos Cavalos ym 1993, gydag astudiaethau i adnabod a gosod ffiniau ar ardal feddiannaeth draddodiadol y Guarani. Ym mis Ebrill 2008, llofnododd y Gweinidog Cyfiawnder Ordinhad Datganiadol 771, yn datgan bod y diriogaeth yn perthyn i’r bobl Guarani. Ers hynny, nid oedd unrhyw gynnydd wedi cael ei wneud tan nawr.
Yn 2023, anfonodd y Guarani feiros wedi’u haddurno i’r Arlywydd Lula a Gweinidog y Bobloedd Frodorol, Sônia Guajajara, yn dathlu lansio’r ymgyrch #DemarcaYvyrupa, ac yn galw ar yr Arlywydd i bennu ffiniau 12 o diroedd y Guarani. Gyda’r newyddion diweddar hyn, cyfanswm y tiroedd y mae eu ffiniau wedi’u pennu yw wyth. Mae’r gweddill yn dal i aros i gael sylw gan yr Arlywydd.
Pobl y Guarani yw un o Bobloedd Brodorol mwyaf Brasil, gyda thua 25,000 o bobl yn byw mewn 157 o Diroedd Brodorol yn rhanbarthau’r de a’r de-ddwyrain. O’r cyfanswm hwn, dim ond 47 o diroedd sydd wedi cael y broses rheoleiddio tir wedi’i chwblhau.